Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
16 Chwefror 2010
Mae Swyddogion Safonau Masnachu yn Wrecsam wedi cael amryw ymholiadau gan ddeiliaid tai sy’n sôn am alwadau ffôn annisgwyl gan fasnachwr yn cynnig arolwg am ddim iddynt a’r cyfle i brynu larwm ymyrryd am bris bargen. Mae amryw wedi dweud eu bod yn cael yr argraff bod Heddlu Gogledd Cymru ardystio’r larymau mewn rhyw fodd, sy’n annhebygol o fod yn wir.
Maent yn cynghori deiliaid tai i wneud y canlynol:
“Holwch eich hun, a yw’r cwmni’n gallu cynnig system ddrud mor rhad mewn gwirionedd? A fydd cwsmeriaid sy’n manteisio ar y cynnig yn gorfod derbyn cytundeb cynnal a chadw neu arolygu hirdymor drud?”
Os byddwch yn cael galwad, yn cynnig arddangosiad am ddim:-
- Cofiwch fod gennych gyfnod ymbwyllo saith diwrnod er mwyn i chi gael cyfle i gymharu’r cynnyrch a’r pris a’i drafod gyda rhywun y gallwch drystio. Mynnwch gael pris manwl ysgrifenedig.
- Cymharwch y pris gyda’r hyn sy’n cael ei godi gan fusnesau eraill am gynnyrch tebyg. Mynnwch gael defnyddio eich cyfnod ymbwyllo saith diwrnod.
- Peidiwch â chytuno i unrhyw waith gael ei wneud o fewn y cyfnod saith diwrnod. Efallai y bydd eich hawliau canslo’n llai os byddwch yn cytuno i waith gael ei wneud.
- Peidiwch â thalu arian parod – gallwch olrhain siec.
- Ystyriwch a ydych eisiau’r cynnyrch. Os ydych, defnyddiwch gwmnïau cyfrifol, sydd wedi hen sefydlu y byddwch yn gallu cysylltu â hwy os aiff pethau o chwith. Gofynnwch i berthnasau a chyfeillion am argymhellion.
Cadwch reolaeth – peidiwch â gadael i rywun ar stepan y drws benderfynu sut ddylech wario’ch arian.
Os ydych yn poeni ynghylch galwadau digymell neu os hoffech gael rhagor o gyngor, cysylltwch â: Cyswllt Defnyddwyr Cymru 08454 04 05 05 (Cymraeg) 08454 04 05 06 (Saesneg)