Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
03.10.06
Y ceidwaid Alison Whitley a Siôn Roberts yn rhoi cynnig
Mae manylion tair taith gerdded arall yn fyw ar wefan y Cyngor erbyn hyn. Mae'r teithiau'n dechrau o Goedpoeth, Bwlchgwyn a Rhosllannerchrugog ac maent rhwng 4 a 6 milltir o hyd. Mae'r canllawiau'n cynnig taith gerdded hawdd a digon o wybodaeth am hanes a bywyd gwyllt yr ardaloedd.
Mae'r Cyngor yn cynhyrchu'r canllawiau hyn â'r wefan mewn golwg er mwyn iddynt fod yn hawdd i chi lawrlwytho ac argraffu'r wybodaeth. Fodd bynnag, mae nifer fawr o ganllawiau ar gael a gynhyrchwyd rai blynyddoedd yn ôl sy'n defnyddio brasluniau a mapiau a dynnwyd â llaw. Nid yw'r rhain yn addas ar gyfer y wefan fel arfer.
Enghraifft dda o'r hen gyhoeddiadau hyn yw'r gyfres boblogaidd o deithiau o'r enw 'Walks Around Wrexham Maelor' yn dyddio o 1988 tan 1991. Treuliwyd cryn dipyn o amser yn cynhyrchu'r canllawiau hyn ac adlewyrchir hyn yn swm y wybodaeth fanwl sydd ynddynt.
Mae'r blynyddoedd ers hynny wedi gweld newidiadau ac nid yw rhai o'r cyfarwyddiadau'n ddibynadwy bellach. Penderfynwyd i beidio â'u hailgyhoeddi ar bapur.
Roedd yn siom i golli'r teithiau poblogaidd hyn a chafwyd ateb pan gawsom grant, â chymorth yr elusen amgylcheddol Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint, gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru i ailwampio'r llwybrau, ailysgrifennu'r testyn ac ailgyhoeddi'r canllawiau ar y wefan.
Yn dwyn teitl newydd Teithiau Cerdded Gwledig o Gwmpas Wrecsam rhoddwyd y tair daith gyntaf ar y wefan y llynedd a chawsant groeso mawr. Nawr, mae chwe thaith yn y gyfres. Mae Llwybr Clywedog ac Archwilio'r Orsedd ar y wefan hefyd ac mae'n werth i chi fwrw golwg drostynt. Bydd pedair taith gerdded arall yn cael eu hychwanegu'n hwyrach eleni. Ewch i www.wrecsam.gov.uk/teithiau cerdded a dilynwch y cyswllt i "Teithiau ar y We".
Gall y rhai ohonoch heb fynediad i'r rhyngrwydd ffonio'r Is-Adran Hawliau Tramwy ar 01978 292057 a byddwn yn argraffu copi papur i chi. Mae gan Ganolfan Groeso Wrecsam ddetholiad mawr o ganllawiau cerdded eraill nad ydynt ar gael ar y wefan hefyd.
Newyddion Hawliau Tramwy Cyhoeddus