Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

12 Mehefin 2009

Golff Heb Ei Ail yn Wrecsam

Mae adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mewn partneriaeth â Golff Cymru, Clwb Golff Clays Farm a Choleg Iâl wedi llwyddo i ennill Gwobr Critchley.

Cyflwynwyd y wobr hon i’r Adran Golff am brosiect partneriaeth pwysig, sydd drwy ymdrech sawl un, wedi cael effaith sylweddol ar y broses o ddatblygu golff sylfaenol i blant iau. Yr haf diwethaf cynhaliwyd rhaglen i ysgolion, gan gynnwys cyfleoedd arwain, a arweiniodd yn ei dro at ddiwrnod gwyl yn cynnwys llawer o ysgolion lleol. Ar ddiwrnod yr wyl, cafodd disgyblion y fraint o weld arddangosfa triciau golff yn ogystal ag ymgais record y byd am y wers golff fwyaf yn y byd - a dyna a gawsant!

Cyflwynwyd y wobr ar ddiwrnod agor Pencampwriaeth BMW PGA yn Wentworth, Surrey ym mis Mai.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Myra Redman, Rheolwr Datblygu Chwaraeon ar 297350.

yn ôl i'r brig