Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

14 Chwefror 2005

Croeso yn Wrecsam

Lansiodd y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE) ei fenter Croeso ym mis Tachwedd 2005.  Arddangosfa deithiol ydyw sy’n seiliedig ar fywyd Paul Robeson.  Mae’n anelu at hyrwyddo amrywiaeth, integreiddiad gweithredol ac awyrgylch croesawgar ym mhob cymuned, gweithle a sefydliad.

Cynhelir yr arddangosfa ynghyd â gweithgareddau theatr a chelf yn Neuadd Goffa Wrecsam am bythefnos o 28ain Chwefror 2006 a gwahoddir grwpiau o blant ysgol rhwng 7 ac 11 oed i fynychu.

Trefnwyd hefyd ystod o seminarau agored am ddim a fanylir isod ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i gefnogi’r fenter hon ac i hyrwyddo cydlyniad o fewn y Fwrdeistref Sirol.  Dyma’ch cyfle i ddarganfod mwy am rai o gymunedau amrywiol Wrecsam:

Dyddiad Seminar Lleoliad Amser
28.02.05 Fforwm Aml Asiantaeth Sipsiwn a Theithwyr gyda chyflwyniad gan y Prosiect Iechyd Y Neuadd Goffa 1.00pm - 3.00pm
01.03.05 Digwyddiad i lansio Croeso Y Neuadd Goffa 12.00 - 1.00pm
02.03.05 NWREN –adrodd am ddigwyddiadau hiliol a’r system cyfiawnder troseddol Y Neuadd Goffa 1.00pm - 2.30pm
03.03.05 WRASSG - "Check It Out! (Ydych chi’n gwybod y gwir am loches?)" Y Neuadd Goffa 1.00pm - 2.00pm
07.03.05 BAWSO Y Neuadd Goffa 12.00 - 1.00pm
08.03.05 Seminar Cyngor Ffoaduriaid Cymru Neuadd Maesgwyn 12.00 - 2.00pm
09.03.05 Partneriaeth Parc Caia 'Annog integreiddiad ymfudwyr economaidd' Y Neuadd Goffa 12.00 - 1.30pm
09.03.05

Fforwm Dinasyddion y CRE a chynhyrchiad theatr gan Cat’s Paw:

"Amrywiaeth - cyfle neu fygythiad i Wrecsam? Pa mor dda mae cymuned Wrecsam wedi ymateb i heriau'r 3 blynedd diwethaf?"

Y Neuadd Goffa 6.30pm - 8.30pm

Darperir te a choffi

Pwy ddylai fynychu?

  • Grŵp Cydlynu Cydlyniad Cymunedol
  • Aelodau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
  • Aelodau lleol
  • Aelodau Strategaeth Gymunedol
  • Sefydliadau Gwirfoddol a Chymunedol
  • Cymunedau yn Gyntaf
  • Y cyhoedd
  • Gweithwyr proffesiynol eraill o’r maes Cydlyniad Cymunedol

Nid oes angen i chi neilltuo lle ar gyfer unrhyw un o’r sesiynau hyn, fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ofynion arbennig, e.e. cymorth cyfathrebu, cwblhewch y bonyn isod a’i ddychwelyd heb fod yn hwyrach na 17eg Chwefror 2006.

Croeso yn Wrecsam

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y ffornat isod:

Croeso yn Wrecsam - Fersiwn Word 582Kb

Croeso yn Wrecsam - Fersiwn PDF 102Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig