Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

30.10.06

Nawr Gall Preswylwyr Newid Mwy Na dim Ond y Sianel

Mae gwasanaeth teledu digidol rhad ac am ddim newydd SBON wedi’i lansio’n swyddogol heddiw. Dyma’r gwasanaeth teledu digidol rhyngweithiol cyntaf ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n darparu ffordd hawdd i breswylwyr gael gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau lleol trwy gyfrwng eu teledu.

Trefnir y prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a phrosiect technoleg llywodraeth leol, DigiTV.

Enw’r gwasanaeth yw “Golwg Lleol” ac mae ar gael i danysgrifwyr Sky. Trwy ddefnyddio’r rheolydd teledu o bell, gallwch:

* Gael gwybodaeth leol a chysylltiadau defnyddiol

* Dweud eich dweud am faterion lleol

* Cynllunio siwrneiau a chael y newyddion diweddaraf am gludiant

* Rhoi gwybod am gasgliadau biniau a fethwyd, gwneud cais am drwsio ty’r cyngor, adnewyddu eich llyfrau llyfrgell a llawer mwy…

Mae’r safle wedi’i greu i alluogi preswylwyr i gysylltu â’r Cyngor o’u cadeiriau esmwyth. Dyma ffordd gyflym a hawdd arall iddynt gysylltu â’r awdurdod sy’n ategu at wasanaethau presennol megis ymweliadau personol â swyddfeydd, cysylltu trwy ffonio neu trwy’r rhyngrwyd ar www.wrecsam.gov.uk

Heddiw, ddydd Llun, 30ain Hydref, bydd ymgyrch sy’n para pythefnos yn dechrau er mwyn lansio’r gwasanaeth newydd. Dosberthir taflenni yn lleol sydd â sticer hawdd ei bilio i’w osod ar eich rheolydd o bell Sky fel canllaw, ac i ddilyn cynhelir ymgyrch hysbysebu i godi ymwybyddiaeth.

Mae gan dros 70% o gartrefi fynediad at deledu digidol ledled y wlad bellach ac erbyn 2009 bydd Cymru gyfan yn ddigidol. Mae lansio gwasanaeth teledu digidol yn rhoi cyfle i Wrecsam fod yn ddarparwr gwybodaeth lleol blaenllaw ar deledu digidol a chreu gwasanaeth effeithlon.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Cynghorydd Aled Roberts, heddiw: “Mae hwn yn ddatblygiad newydd cyffrous i bobl Wrecsam. Rydym eisoes wedi gwneud gwelliannau sylweddol i fynediad ein cwsmeriaid gan gynnwys cyflwyno oriau agor hirach yn ddiweddar ac mae teledu digidol yn enghraifft arall o’n hymroddiad i ddatblygu gwasanaethau o’r radd flaenaf. Bydd Cymru ar y llinell flaen yn y trosglwyddiad i deledu digidol ac mae Wrecsam yn arwain y ffordd gyda’r gwasanaeth rhyngweithiol newydd hwn sy’n hawdd ei ddefnyddio.

Mae Rheolwr Mynediad Cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Helen Gerrard, wedi bod yn gweithio’n agos gyda DigiTV i baratoi’r gwasanaeth ar gyfer y lansiad. Dywedodd: “Gwelsom fod technoleg DigiTV yn ffordd ardderchog o ddatblygu presenoldeb ar deledu digidol yn ogystal â ffonau symudol. Rydym yn cael arweiniad sylweddol trwy wybodaeth, arbenigedd a chefnogaeth DigiTV ac roedd hyn yn amhrisiadwy trwy gydol datblygiad y safle. Gyda goblygiadau cyfyngedig i ni o ran adnoddau, bellach mae gennym y safleoedd teledu digidol a ffonau symudol cwbl ryngweithiol cyntaf yng Nghymru sy’n cynnig gwasanaethau’r Cyngor.”

Os hoffech gael mynediad at safle teledu digidol newydd Wrecsam, dilynwch y cyfarwyddiadau syml hyn:

Gwasgwch Interactive

Sky Active

A-Z

Looking Local

Wales

Wrexham CBC

yn ôl i'r brig