Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

23 Medi 2010

Lansio cymhorthfa alw heibio Safonau Masnachu

Lansiwyd gwasanaeth newydd cynghori defnyddwyr yn Galw Wrecsam. Bydd staff o Safonau Masnachu wrth law bob dydd Llun a dydd Gwener (9.30-12.30pm a 2-4pm) yn Stryt yr Arglwydd, i gynnig cyngor i’r cyhoedd ar amrywiaeth o faterion defnyddwyr.

Gall defnyddwyr alw heibio i gael cyngor ar faterion yn rhedeg o werthu nwyddau, gwasanaethau a phroblemau a gafwyd gyda chael iawndal.

Gall y cyhoedd hefyd hysbysu twyllo sy’n cael ei amau, gwerthu ar stepan drws a phroblemau gyda phrynu ar y we.

Mae’r sesiynau ar agor i’r cyhoedd yn ogystal â busnesau.

Meddai’r Cynghorydd David Bithell, yr Aelod Arweiniol ar yr Amgylchedd a Chludiant:

“Mae’r sesiynau hyn yn gyfle gwych i bobl gael y wybodaeth gywir ar faterion defnyddwyr. Mae Safonau Masnachu’n cwmpasu pob math o ddeddfwriaeth gysylltiedig â defnyddwyr a bydd y gwasanaeth hwn yn gadael i bobl gael y wybodaeth gywir mewn ffordd gyflym a hawdd ei deall.”

yn ôl i'r brig