Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
27 Chwefror 2008
Cwblhau’r Jig-so yn Nôl yr EryrodCodi’r darn dur olaf i greu cyrchfan siopa a hamdden Dôl yr Eryrod. Bydd aelodau o Wilson Bowden Developments ynghyd â’u partneriaid datblygu o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyfarfod ar safle Dôl yr Eryrod heddiw i ddathlu gosod darn olaf y jig-so yn ei le.
Ers i’r adeiladu ddechrau ar safle’r cyn faes parcio, mae Dôl yr Eryrod wedi bod yn trawsffurfio’r nenlinell yn Wrecsam a heddiw mae’r datblygiad siopa a hamdden 400,000 troedfedd sgwâr yn cyrraedd ei brif garreg filltir gyntaf pan roddir y darn olaf o ddur yn ei le i i greu fframwaith y datblygiad.
Bydd y craen, sydd wedi dominyddu’r nenlinell ers rhai misoedd, yn symud y darn olaf o ddur i’w le am 3.30pm heddiw. Caiff pawb fydd yn gwylio weld y ffrâm ddur yn cael ei symud i’w le ar do strwythur y datblygiad.

Dywedodd Will Robinson, Cyfarwyddwr Datblygiad Wilson Bowden Developments;
“Heddiw rydym yn dathlu carreg filltir ar y ffordd i gwblhau’r datblygiad newydd hwn yn Wrecsam a Dôl yr Eryrod yn dechrau ffurfio. Gyda’r cynnydd amserol i gyrraedd fan hyn rydym ar amser i agor yn yr hydref. Mae nawr yn amser cyffrous i ni ac i Wrecsam. Bydd Dôl yr Eryrod yn gweddnewid siopa a hamdden i’r dre.
Dywedodd y Cyng. Bob Dutton OBE, Aelod Arweiniol,
“Mae hwn yn uchafbwynt arbennig mewn llwyddiant neilltuol ac er bod llawer o ffordd i fynd eto cyn cwblhau’r datblygiad nodedig hwn bydd yn sicrhau bod Wrecsam yn symud tuag at fod yn ganolfan manwerthu o bwys yn y DU.”
Ychwanegodd Adrian Smith, Rheolwr Safle yn Nôl yr Eryrod;
“Rydym wrth ein boddau gyda’r cynnydd ar y safle yn Nôl yr Eryrod. Mae pawb ar y safle wedi gweithio’n rhyfeddol o galed er mwyn cyrraedd y fan hon yn y datblygiad a hynny er gwaetha’r tywydd anffafriol a gawsom dros y misoedd diwethaf.”
Bydd Dôl yr Eryrod yn agor yn yr hydref a bydd yn lleoliad i siop adrannol gyntaf Wrecsam; Debenhams. Bydd Marks and Spencers, Next a H&M hefyd yn agor siopau mawr newydd yn y datblygiad. Hefyd bydd nifer o weithredwyr hamdden yno yn cynnwys; canolfan bowlio deg 24 lôn a sinemâu Odeon.