Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
06 Awst 2009
Y diweddaraf am E.coli O157 yn WrecsamGan Dr Judy Hart, Meddyg Ymgynghorol mewn Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (GICC)
"Mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (GICC) a Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn parhau i ymchwilio i bedwar achos o E.coli O 157 mewn tri theulu o ardal Wrecsam.
"Mae profion labordy wedi cadarnhau mai bacterioffag E.coli O157 math 2 yw pob un o’r pedwar achos. Mae’n hyn yn awgrymu bod pob un yn deillio o’r un lle a bod eu salwch yn gysylltiedig. Cynhelir rhagor o brofion er mwyn cadarnhau p’un a yw’r samplau o’r pedwar achos yn Wrecsam yr un fath yn union.
"Wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen, mae’n bwysig pwysleisio ein bod yn edrych ar bob ffynhonnell bosibl o ran y salwch gan gynnwys teithio dramor, gweithgareddau amaethyddol a hamdden yn ogystal â bwyd a dŵr a fwytawyd neu a yfwyd cyn i’r salwch ddechrau.
"Mae dau unigolyn yn dal i fod yn yr ysbyty. Mae gwraig 32 oed yn dal i fod yn ddifrifol wael yn yr uned gofal dwys ac mae merch 3 oed yn gwella yn yr ysbyty. Mae merch 23 oed a gwraig 32 oed yn gwella gartref.
"Ni chadarnhawyd unrhyw achosion newydd. Mae’n debyg i’r digwyddiad a achosodd y gwenwyn bwyd godi ychydig wythnosau yn ôl.
"Rydym yn annog pawb sy’n ymdrin â bwyd i ddilyn arferion hylendid bwyd synhwyrol a all leihau’r risg o wenwyn bwyd. Dylai pobl sicrhau y caiff cig amrwd a chig wedi’i goginio eu storio ar wahân ac y caiff cigoedd eu coginio’n drwyadl. Mae hefyd yn bwysig golchi dwylo gyda sebon a dŵr ac i’w sychu ar ôl ymdrin â chig amrwd.
"Mae’r ymchwiliad yn parhau. Bydd GICC a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos."