Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

02 Medi 2010

Ewch ati nawr i sicrhau y cewch ddweud eich dweud yn 2011

Mae pleidleiswyr ledled Wrecsam wedi dechrau derbyn eu ffurflenni blynyddol ar gyfer cofrestru pleidleiswyr. Gallai’r ffurflenni hyn olygu y cewch chi ddweud eich dweud – neu beidio â gwneud – am y materion sy’n effeithio arnoch chi.

Y flwyddyn nesaf byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan yn Etholiad Cynulliad Cymru ac mewn dau refferendwm o bosibl; bydd un yn ymwneud â'r pwerau gwneud deddfau sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bydd yr ail yn ymwneud â'r system bleidleisio ar gyfer Senedd y DU.

Bydd eich Swyddog Cofrestru Etholiadol, Isobel Garner a’i staff yn anfon ffurflenni i gartrefi yn Wrecsam yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn llunio’r gofrestr etholwyr ar sail yr hon y cynhelir Etholiad Cynulliad Cymru a’r ddau refferendwm. Mae pob un ohonynt i fod i gael eu cynnal yn ystod Gwanwyn 2011.

Trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen gallwch sicrhau eich hun y cewch ddweud eich dweud yn y digwyddiadau pwysig hyn. Ar y ffurflen a anfonir yn flynyddol dylech roi manylion diweddaraf pawb yn eich cartref sy’n gymwys i bleidleisio ac yna ei hanfon yn ôl cyn gynted ag y bo modd. Os nad yw eich manylion wedi newid gallwch hefyd anfon ateb trwy ddefnyddio neges testun, y ffôn neu'r we.

Meddai Isobel Garner: “Mae cofrestru er mwyn pleidleisio yn fater syml, cyflym a didrafferth. Llenwch y ffurflen flynyddol sy’n cael ei hanfon atoch, cyn ei harwyddo a’i hanfon yn ôl trwy’r post. Byddwch wedi gwneud popeth mewn munud neu ddau er mwyn sicrhau y cewch bleidleisio yn 2011.

“Eleni fe roddwyd sylw amlwg iawn i etholiad cyffredinol seneddol y DU ac roeddem yn falch o weld bod rhagor o bobl wedi cofrestru i bleidleisio, yn y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio. Fodd bynnag, efallai nad yw pawb yn sylweddoli bod rhaid iddynt gofrestru bob blwyddyn; trwy lenwi’r ffurflen flynyddol a anfonir atoch gallwch roi tawelwch meddwl i chi’ch hun y bydd gennych bleidlais ar gyfer y flwyddyn nesaf.”

Kay Jenkins yw Pennaeth Swyddfa Comisiwn Etholiadol Cymru ac meddai: “Bydd y flwyddyn nesaf yn un gyffrous i’r etholwyr yng Nghymru, am fod etholiadau a dau refferendwm yn yr arfaeth. Fodd bynnag ni fyddwch yn cael dweud eich dweud os nad yw’ch enw ar y gofrestr etholiadol.

“Fe wyddom eisoes y bydd etholiad Cynulliad Cymru yn cael ei gynnal ar Fai 5ed y flwyddyn nesaf ac mae’r refferendwm ynghylch pwerau gwneud deddfau Cynulliad Cymru yn yr arfaeth ar gyfer y Gwanwyn hefyd. Felly gall pleidleiswyr ddechrau ymbaratoi nawr er mwyn sicrhau y cânt bleidleisio.”

Am ragor o wybodaeth ffoniwch y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar 01978 292020

yn ôl i'r brig