Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

11 Awst 2010

Mae Ewrop Uniongyrchol yn dod i lyfrgell yn eich ardal chi!

Mae Ewrop Uniongyrchol wedi trefnu cyfres o ‘sioeau teithiol’ mewn llyfrgell neu ddwy yn yr ardal leol ym mis Awst.

Mae croeso i’r cyhoedd ddod draw i gael un neu ddau o gyhoeddiadau am ddim, ac os bydd ganddynt unrhyw ymholiadau ynghylch yr Undeb Ewropeaidd bydd y staff wrth law i roi atebion iddynt.

Bydd Tîm Ewrop Uniongyrchol yn mynd i’r llyfrgelloedd hyn -

12/08/2010 – Llyfrgell Cefn Mawr 1pm – 3.30pm

16/08/2010 – Llyfrgell y Waun 1pm – 3.30pm

17/08/2010 – Llyfrgell Rhos 10am – hanner dydd

Yn Llyfrgell Wrecsam y mae canolfan Ewrop Uniongyrchol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor, cymorth ac atebion i gwestiynau am sefydliadau, deddfwriaeth, polisïau, rhaglenni a chyfleoedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Ar ben hynny mae’r gwasanaeth yn cynnig cyfle i’r cyhoedd anfon adborth at sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd ar ffurf cwestiynau, barnau ac awgrymiadau.

Am ragor o wybodaeth byddwch cystal â ffonio Ewrop Uniongyrchol ar 01978 292090 neu anfonwch e-bost at europedirect@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig