Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

11 Mehefin 2010

Gwaith yn Dechrau ar Gynllun Gofal Ychwanegol

Daeth y tîm tu ôl i Gynllun Gofal Ychwanegol £7.7 miliwn ar gyfer pobl hŷn ym Mhlas Madoc, Wrecsam i achlysur arbennig i nodi dechrau gwaith ar y datblygiad arloesol.

Ymunodd aelodau Bwrdd y Prosiect, yn ogystal â gwesteion o asiantaethau partner eraill, â Maer Wrecsam, y Cynghorydd James Kelly, mewn achlysur dathlu ar y safle a drefnwyd gan Gymdeithas Tai Clwyd Alun, rhan o Grŵp Tai Pennaf.

Clwyd Alun fydd yn rheoli’r cynllun Gofal Ychwanegol newydd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’r contractwyr, Wates Living Space, sydd â swyddfeydd yn y Waun, eisoes wedi dechrau gwaith dymchwel hen Gartref Henoed Llys Madoc i wneud lle i’r datblygiad newydd cyffrous hwn o randai annibynnol, sy’n cyfuno tai gyda gofal a chefnogaeth.

Bydd y datblygiad newydd yn cynnwys mwy na 50 o randai hunangynhwysol un a dwy ystafell wely gyda chyfleusterau cymunedol o safon fel tŷ bwyta a salon trin gwallt ar y safle ar gyfer y trigolion. Hefyd bydd caffi cymunedol o’r ansawdd orau yn y cynllun yn agored i’r cyhoedd fel bod y preswylwyr yn gallu dal i deimlo yng nghanol bywyd cymunedol.

Yn y dathliad dechrau gwaith dywedodd Mr Glyn Jones, Cadeirydd Cymdeithas Tai Clwyd Alun, bod y cynllun yn un o ganlyniadau gweledigaeth ac ymroddiad pawb oedd wedi ymwneud ag ef. “Mae’n wych gweld gwaith yn dechrau ar rywbeth sy’n mynd i fod yn gyfleuster arbennig i helpu pobl hŷn fyw bywydau llawn, annibynnol ac fe hoffwn hefyd ddiolch i bobl leol am eu cefnogaeth i helpu gwireddu’r weledigaeth hon,” meddai Mr Jones.

Ychwanegodd y Cynghorydd James Kelly, Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:

“Mae’n wych nodi dechrau gwaith ar y Cynllun Gofal Ychwanegol newydd fydd yn ased o bwys i ddarparu dewisiadau tai o’r ansawdd orau i bobl hŷn yn y dyfodol.”

Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:

“Mae hwn yn gam mawr ymlaen at ddarparu gofal o safon yn y Fwrdeistref Sirol. Mae’n hollol iawn bod ein pobl hŷn yn gallu byw a mwynhau’r cyfleusterau diweddaraf sydd ar gael i helpu iddynt gadw eu bywydau annibynnol.”

Bydd yr holl randai’n hygyrch i gadeiriau olwyn a bydd mantais ychwanegol i’r cynllun o fod â chyfleusterau cymunedol helaeth, ynghyd â gofal a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion pobl unigol, gan hybu pobl hŷn fyw’n annibynnol mewn amgylchedd diogel gyda chymorth.

Cyfanswm cost y prosiect fydd £7.7 miliwn, sy’n cael ei ariannu gan Grŵp Pennaf trwy gyllid preifat, a hefyd o ganlyniad i gynnig llwyddiannus gan y bartneriaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

yn ôl i'r brig