Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

06 Awst 2010

Rhoi help llaw i bobl ifanc a’u teuluoedd

Mae teuluoedd lleol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn rhaglen sydd â’r nod o sicrhau bod gan bobl ifanc berthynas gadarnach fyth â’u rhieni.

Mae Rhaglen Cryfhau Teuluoedd yn cynorthwyo rhieni i feithrin y modd y maent wedi mynd ati’n barod i gynorthwyo eu plant i fwynhau tyfu i fyny pan maent yn eu harddegau. Ar ben hynny mae’r rhaglen yn cynorthwyo pobl ifanc i feithrin y sgiliau y mae arnynt eu hangen er mwyn iddynt allu ymdopi â bywyd pan fyddant dan bwysau gan eu tebyg. Bydd hefyd yn eu gwneud yn fwy hunanhyderus ac wedyn gallant bennu targedau at y dyfodol.

Rhaglen 7 wythnos yw Cryfhau Teuluoedd ar gyfer unrhyw deulu sy’n byw yn Wrecsam sydd â phobl ifanc rhwng 10 ac 14 mlwydd oed.

Bydd y rhieni a’r bobl Ifanc yn cyfarfod mewn grwpiau ar wahân am yr awr gyntaf ac yna’n dod at ei gilydd yn yr ail awr er mwyn cael sesiwn deuluol.

Caiff y grŵp ei gynnal gan bobl o sawl math gwahanol o asiantaethau a chefndir, sydd eisoes yn gweithio â phobl ifanc a’u teuluoedd.

Mae Rhaglen Cryfhau Teuluoedd yn rhan o arbrawf ymchwil y mae Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio iddo er mwyn gweld a all y rhaglen gael effaith hirdymor ar y ffordd y mae teuluoedd yn gweithredu, ac a fydd y rhaglen yn gallu atal pobl ifanc rhag camddefnyddio alcohol, baco a chyffuriau.

Lucie Janková yw’r Cydlynydd Rhwydwaith Rhianta dros Gyngor Wrecsam ac meddai:

“Mae bod yn unigolyn yn eich arddegau yn gallu bod yn adeg anodd i bobl ifanc a'u rhieni fel ei gilydd. Mae Rhaglen Cryfhau Teuluoedd yn cydweithio â theuluoedd er mynd i'r afael â'r adegau anodd hynny a'r trafferthion a ddaw yn eu sgil. Mae'n gwneud hynny mewn modd cefnogol sy'n hybu eu datblygiad.

“Rydym eisoes wedi gweld bod y rhaglen hon wedi cael effaith bendant ar deuluoedd lleol. Mae’n cynnig cyngor i rieni a gwarcheidwaid ynghylch sut y gallant ddisgyblu ac arwain eu plant mewn modd effeithiol a bydd hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc ystyried beth yw eu targedau at y dyfodol. Ar ben hynny byddant yn gwerthfawrogi eu teuluoedd fwy hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, byddwch cystal â chysylltu â’r Cydlynydd Cryfhau Teuluoedd ar 01978 729786 neu anfonwch e-bost at parenting@wrexham.gov.uk.

yn ôl i'r brig