Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

24 Awst 2010

Wrecsam yn cynnal cwrs hyfforddiant pêl-droed gwahanol i’r lleill

Ar ddydd Sul Medi 5ed bydd Wrecsam yn cynnal cwrs hyfforddiant pêl-droed hollol wahanol i’r lleill.

Bydd Canolfan Chwaraeon Clywedog yn cynnal Cwrs Hyfforddiant Pêl-droed Lefel Un Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW), dim ond ar gyfer ffoaduriaid sy’n byw yn y fwrdeistref sirol. Mae’r cwrs yn cael ei gynnal gan Mark Roberts, Swyddog Datblygu Pêl-droed Wrecsam ar y cyd â Changen Wrecsam o Gyngor Ffoaduriaid Cymru.

Bydd 10 o ffoaduriaid yn cymryd rhan mewn cwrs sydd wedi cael ei addasu’n bwrpasol ar gyfer eu hanghenion hwy. Bydd holl adnoddau’r cwrs wedi cael eu cyfieithu i famiaith pawb sy’n cymryd rhan a bydd cyfieithydd gweledol yn bresennol ar y diwrnod hefyd.

Bwriad y cwrs yw rhoi cyflwyniad sylfaenol i faes trefnu arferion pêl-droed, a bydd yn gwneud hynny mewn ffordd hwyliog a diogel trwy bwysleisio ar feithrin sgiliau.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gychwyn yn sgil twrnamaint pêl-droed hynod lwyddiannus a drefnwyd yn fwriadol yn gynharach eleni er mwyn iddo ddigwydd ar yr un pryd â’r Wythnos Ffoaduriaid.

Roedd y twrnamaint yn cynnwys pum tîm Pump Bob Ochr ac un ohonynt oedd Tîm Pêl-droed Amrywioldeb sy’n cael ei gefnogi gan Amrywioldeb Ffoaduriaid Wrecsam, Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru a gan Mark Roberts, Swyddog Datblygu Pêl-droed Wrecsam.

Dywedodd Mark Roberts, Swyddog Datblygu Pêl-droed Wrecsam:

"Mae’r cwrs hwn yn gyfle bendigedig i ragor o unigolion yn Wrecsam gymryd rhan mewn Cwrs Pêl-droed Lefel Un sydd wedi cael ei addasu’n arbennig iddynt. Yn yr oes sydd ohoni mae pêl-droed yn gêm fyd-eang a mwyaf yn y byd o wybodaeth a phrofiadau y gallwn eu darparu er mwyn hybu pêl-droed gwerin gwlad, yna mwya'n y byd o ganlyniadau dysgu y gallwn eu sicrhau, yn enwedig felly yng Ngogledd Cymru."

Am ragor o wybodaeth, byddwch cystal â chysylltu â Mark ar 01978 297354 neu anfonwch e-bost at mark.roberts@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig