Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

06 Awst 2010

Parc y Ponciau yn cynnal sesiynau chwarae bowls am ddim – dyddiau difyr!

Mae Clwb Bowls Parc y Ponciau yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddiddanu eu hunain yr haf yma, gyda chyfres o sesiynau chwarae bowls grîn gefngrom, am ddim, ar gyfer plant a phobl ifanc.

Sesiynau am ddim ydynt sydd wedi cael eu hariannu gan Gyngor Cymuned Rhos, ac maent yn cael eu cynnal yn y Pafiliwn Bowls wrth Stryt y Bedyddwyr/Lôn y De. Fe gynhaliwyd y rhai cyntaf yr wythnos hon. Ar ben hynny fe fydd sesiynau ar ddydd Llun Awst 9fed a dydd Llun Awst 23ain, o 10 y bore tan 12 hanner dydd a bydd pawb sy’n cymryd rhan ynddynt yn cael lluniaeth am ddim hefyd.

I gal rhagor o wybodaeth byddwch cystal â ffonio Parc y Ponciau ar 01978 844028.

yn ôl i'r brig