Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
13 Ionawr 2010
Mae tymheredd oer iawn a meirioli wedyn yn gallu peri nifer o broblemau plymwaith – o lifogydd i’r gwresogi’n methu.
Wrth i bibelli ddechrau dadmer efallai y byddant yn dechrau gollwng oherwydd bod rhew yn y pibelli wedi chwyddo. Mae hyn yn achosi i bibelli hollti neu uniadau’n dod yn rhydd. Dylech edrych ar holl bibelli, yn enwedig y rhai mewn rhannau o’r adeilad sydd ar wahân neu heb wres.
Fodd bynnag, fe all deiliaid tai wneud eu rhan i atal y tywydd oer rhag troi’n drychineb domestig.
Yr allwedd i osgoi a gwella pibelli wedi rhewi yw gwres. Nid oes llawer iawn y gallwch ei wneud o safbwynt plymwaith unwaith y bydd pibelli wedi rhewi. Y ffordd orau o atal pibelli rhag rhewi yw peidio diffodd y gwres. Os yw’n bibell fewnol, efallai y bydd modd defnyddio rhyw fath o wresogydd – nid fflam agored, ond sychwr gwallt neu rywbeth felly – i ryddhau’r rhwystr, neu adael i’r gwres o’r eiddo ei symud.
Cofiwch sicrhau y gwyddoch ble mae’r brif falf ddŵr - neu “stop cock” - ac y gwyddoch sut i’w chau. Fel arfer mae yn y gegin, yn nodweddiadol o dan y sinc. Caewch y falf, a sicrhau nad oes dŵr yn dod i’r eiddo o rywle arall. Diffoddwch eich trydan rhag ofn i ddŵr ddiferu ar wifrau a diffoddwch unrhyw system wres canolog neu dwymo dŵr. Os oes gennych un, gadewch i’r tân farw i lawr. Yna agorwch y tapiau i ddraenio’r system a chasglu dŵr fel bod gennych o leiaf rywfaint ar gyfer ymolchi a llifolchi’r toiled.
Efallai na fydd yswiriant yn talu costau trwsio pibell wedi hollti – y cwsmer fel arfer sy’n atebol am unrhyw daliadau plymwr.
Fodd bynnag, dylai yswiriant dalu am gost unrhyw ddifrod sy’n cael ei achosi i’r eiddo gan y dŵr. Yr argymhelliad hefyd yw gwneud yn siŵr bod eich system wresogi’n cael ei gwasanaethu unwaith y flwyddyn. Cafodd nifer o blymwyr eu galw allan y gaeaf hwn i aelwydydd lle na fu cynnal a chadw ers pum neu chwe blynedd.