Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

24 Awst 2010

Amser Dathlu wrth i Ddisgyblion Wrecsam Gyflawni’r Canlyniadau Gorau Erioed!

Mae disgyblion Wrecsam yn dathlu llwyddiant! Y canlyniadau TGAU a galwedigaethol a gafwyd heddiw yw’r gorau a gyflawnwyd erioed yn y fwrdeistref sirol, wrth i safonau addysgol yn Wrecsam wella am y chweched flwyddyn yn olynol.

Cyflawnodd 61% o ddisgyblion ysgolion Wrecsam y trothwy Lefel 2. Mae hyn 5% yn uwch na’r llynedd. Cyflawnodd mwy na 9 disgybl ym mhob 10 (91%) y trothwy Lefel 1 sy’n unol â ffigwr Wrecsam ar gyfer 2009. Mae trothwyau yn fesurau perfformiad sy’n cynnwys pob cymhwyster, yn cynnwys TGAU, a chymwysterau galwedigaethol a sgiliau allweddol.

Mae llwyddiannau’r TGAU gyda graddau A*-C wedi cynyddu unwaith eto. Cafwyd 59.2% o lwyddiannau gyda graddau A* - C. Mae hyn yn welliant o 2.3% ar ganlyniadau’r llynedd yn Wrecsam, cyfradd wella sy’n ddwywaith cymaint â’r gyfradd genedlaethol. Fel yn 2009, roedd mwy na 98% o’r llwyddiannau yn rhai A* - G.

Bu 1309 o ddisgyblion yn sefyll arholiadau mewn mwy na 50 o bynciau yn y TGAU gan ennill cymwysterau mewn mwy na 20 o gyrsiau galwedigaethol.

Dywedodd John Davies, Prif Swyddog Dysgu a Chyrhaeddiad Wrecsam:

“Dyma ganlyniadau rhagorol! Mae disgyblion ac athrawon, gyda chefnogaeth rhieni a gofalyddion, wedi gweithio’n galed iawn iawn i gyflawni’r lefel wych yma o berfformiad. Mae’r canlyniadau hyn yn cynnwys hefyd cryn amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol y mae llawer o ddisgyblion Wrecsam wedi ymgymryd â nhw yn yr ysgolion ac mewn partneriaeth gyda Choleg Iâl, y Gwasanaeth Ieuenctid ac eraill, yn rhan o’r cwricwlwm cyffredinol a gynigir trwy raglen gydweithredol y Llwybrau Dysgu 14 - 19. Llongyfarchiadau i bawb!”

Dywedodd y Cynghorydd Aled Roberts, yr Aelod Arweiniol tros Arweinyddiaeth Gorfforaethol a Phlant (Ysgolion a Diogelu):

“Cafwyd llawer o lwyddiannau rhagorol gan ddisgyblion o bob gallu. Rwy’n llongyfarch ysgolion, athrawon, disgyblion a’u teuluoedd ar y canlyniadau gwych eleni ac yn dymuno’n dda i’n holl fyfyrwyr wrth iddyn nhw symud ymlaen i addysg ôl-16, hyfforddiant neu waith. Byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion wrth i ni ymgyraedd gyda’n gilydd i gyflawni rhagoriaeth addysgol ar gyfer pobl ifanc yn Wrecsam!”

yn ôl i'r brig