Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

27 Awst 2010

Chwifio’r Baneri Gwyrdd yn Wrecsam

Y llynedd cafodd Parc Ponciau ei adnewyddu ac yn sgil hynny fe ddyfarnwyd baner werdd iddo am y tro cyntaf un. Felly erbyn hyn mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam 5 ardal Baner Werdd i gyd.

Gall Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant, Parciau Gwledig Ty Mawr a Dyfroedd Alun a’r Parciau barhau i chwifio eu baneri ar ôl iddynt wneud cais llwyddiannus am ddal ati i fod yn ardal baner werdd - statws y mae llawer o leoedd yn dyheu amdano.

Y Cynghorydd David Bithell yw’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, ac meddai:

"Mae’n anrhydedd aruthrol a dylai’r staff fod yn hynod falch o’r hyn y maent wedi ei gyflawni. Mae ein parciau yn lleoedd bendigedig i bobl eu mwynhau a byddwn yn annog pawb nad ydynt wedi bod i weld ardaloedd baner werdd hyd yn hyn, i wneud hynny'r haf yma."

Cynllun Gwobr Baner Werdd yw’r safonau cenedlaethol ar gyfer parciau a llecynnau gleision. Bydd yr enillwyr yn amrywio o Barciau Fictoraidd a gerddi canol tref hyd at warchodfeydd natur, parciau gwledig a mynwentydd. Yn ôl y meini prawf a ddefnyddir i’w pwyso a’u mesur, mae’r safleoedd yn gorfod bod yn lleoedd croesawgar a diogel, sydd wedi cael eu cynnal a'u cadw'n dda trwy gyfranogiad pendant y gymuned leol.

Yn 2005 cafodd Wrecsam ei baner gyntaf un yn y Gwobrau Baner Werdd pan lwyddodd Ty Mawr a’r Parciau i gyrraedd y safon ofynnol. Blwyddyn yn ddiweddarach fe ddyfarnwyd yr un statws i Ddyfroedd Alun ac yna Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant yn fuan ar ôl hynny.

Mae gwybodaeth am y safleoedd i’w chael ar wefan Cyngor Wrecsam yn www.wrecsam.gov.uk neu drwy ffonio’r Ganolfan Croeso sydd yng nghanol y dref yn Wrecsam.

yn ôl i'r brig