Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
31 Gorffennaf 2008

Parciau Gwledig Wrecsam yn derbyn 4 Banner WerddMae parciau gwledig Wrecsam yn parhau i ennill cydnabyddiaeth genedlaethol wrth i’r newyddion dorri bod yr Ymddiriedolaeth Ddinesig wedi gwobrwyo statws Banner Werth i bedwar o barciau’r fwrdeistref.
Mae Ty Mawr, Bellevue, Dyfroedd Alun a Melin y Nant i gyd wedi cyrraedd safonau uchel a osodwyd gan yr Ymddiriedolaeth Ddinesig ac maent i gyd yn bwriadu adeiladu ar eu llwyddiant gan sicrhau eu bod yn cadw’r baneri.
Cynllun Gwobr y Faner Werdd yw’r safonau cenedlaethol i barciau a mannau gwyrdd. Amrywia’r enillwyr o barciau Fictoraidd i erddi yng nghanol y dref a gwarchodfeydd natur, parciau gwledig a mynwentydd. Yn ôl y beirniaid rhaid i’r safleoedd fod yn groesawgar, yn ddiogel ac wedi eu cadw’n dda gyda chyfranogiad brwd oddi wrth y gymuned leol.
Dechreuodd y cynllun yn 1996 fel modd o gydnabod a gwobrwyo'r mannau gwyrdd gorau yn y wlad. Mae hefyd yn cael ei ystyried fel dull o annog eraill i lwyddo i ennill yr un safonau amgylcheddol uchel, gan greu meincnod o ardderchowgrwydd mewn meysydd hamdden. Eleni cyflwynwyd 19 gwobr yng Nghymru gyda Wrecsam a Chaerdydd yn dod i’r brig gyda 4 yr un.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant:-
"Mae hwn yn newyddion ardderchog i Wrecsam. Mae ein parciau ymysg y gorau yng Nghymru, os nad y DU. Yn 2005 nid oedd gennym yr un banner werdd, ond bellach mae gennym bedwar sy’n dyst o waith caled y ceidwaid yn gosod y safonau uchel sy’n angenrheidiol i ennill statws y Faner Werdd. Gobeithiaf y gwnaiff bawb gymryd y cyfle'r haf hwn, i ymweld ag un o’n parciau i weld y cyfraniad rhagorol maent yn ei wneud i ansawdd bywyd yn y fwrdeistref sirol drostynt eu hunain. Da iawn, a llongyfarchiadau i bawb!"