Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

11 Awst 2010

Taith dywysedig i fyny’r Berwyn a thrwy Goedwig Ceiriog

Ar ddydd Mercher, Medi’r 2il, bydd un o aelodau adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Wrecsam yn arwain taith o Lanarmon Dyffryn Ceiriog i fyny Mynyddoedd y Berwyn ac yna trwy Goedwig Ceiriog. Ar y daith gerdded byddwch yn mynd heibio i fferm Dolwen, fferm hynafol ag iddi gysylltiad ag Owain Glyndwr yn ôl y sôn.

Bydd y daith 8.5 milltir yn dechrau am 10:00 y bore ym maes parcio Neuadd y Canmlwyddiant, Llanarmon, ac ni ddylai gymryd mwy na phum awr i’w chwblhau.

Taith gerdded categori Gradd C+ ydyw ac mae hi’n cynnwys llethr serth neu ddwy i’w dringo a chamfeydd i’w croesi hefyd. Os ydych yn dymuno dod ar y daith gerdded rydym yn eich cynghori i ddod â digon o ddiodydd gyda chi, pecyn cinio a phâr da o esgidiau cerdded wrth gwrs! Dim cwn os gwelwch yn dda.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y daith gerdded dywysedig mae croeso ichi ffonio Sion Roberts ar (01978) 729766.

yn ôl i'r brig