Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
02 Chwefror 2010
Mae staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni Ysgol Heulfan, Gwersyllt yn dathlu ar ôl iddi gael ei chydnabod fel ysgol neilltuol, yn dilyn arolwg diweddar gan Estyn.
Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd yr wythnos yma, yn dangos llawer o nodweddion nodedig sy’n cynnwys:
Gwnaeth yr arolygwyr y sylwadau canlynol:
Mae’r ysgol yn ganolfan y gymuned!
Yn y Blynyddoedd Cynnar / Cyfnod Sylfaen (3 - 5 oed), mae plant yn gwneud cynnydd trawiadol trwy brofiadau chwarae creadigol dros ben. Cyflawnodd Adran y Blynyddoedd Cynnar Radd 1 - Da gyda nodweddion nodedig - ymhob un o’r saith maes dysgu. Mae hon yn gamp eithriadol!
Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd da iawn wrth gyflwyno egwyddorion y Cyfnod Sylfaen i blant Blynyddoedd 1 a 2.
Yng Nghyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2 fel ei gilydd, mae sgiliau gwrando disgyblion a’u gallu i ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau cyfathrebu ar draws y cwricwlwm yn neilltuol. Mae sgiliau creadigol disgyblion yn eithriadol a chaiff eu sgiliau datrys problemau a dysgu annibynnol da eu defnyddio’n effeithiol yn rheolaidd ar draws y cwricwlwm. Maent hefyd yn dangos sgiliau mentro a phenderfynu eithriadol fel y tystiwyd yng nghyngor yr ysgol a’r Eco-bwyllgor.
Bydd bron yr holl ddisgyblion yn gwneud cynnydd neilltuol wrth ddatblygu eu hymwybyddiaeth ysbrydol, foesol a chymdeithasol ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos ymwybyddiaeth eithriadol o faterion cyfle cyfartal. Mae disgyblion yn frwdfrydig dros ben ac yn awyddus iawn i ddysgu ac maent yn ymddwyn yn dda. Maent yn deall yr hyn sydd i’w ddisgwyl ganddynt ac yn ystyriol, yn gwrtais ac yn ymwneud yn dda ag oedolion ac â’i gilydd.
Yn Y Canol, mae addysgu’n gyson neilltuol. Bydd athrawon yn llwyddo i gynnal sylw disgyblion a’u cadw’n frwdfrydig drwy gydol y gwersi. Mae cefnogaeth LSA i’r disgyblion yn eithriadol. Caiff anghenion unigol disgyblion eu diwallu’n dda trwy gynllunio gofalus, manwl ac effeithiol o dasgau, gweithgareddau ac adnoddau sy’n cael eu haddasu i’r diben.
Bydd holl ddisgyblion yn llwyddo, waeth be fo eu gallu, rhyw na chefndir cymdeithasol.
Nodwyd nodweddion da i nodedig mewn dros 90% o’r gwersi a wyliwyd.
Yn ‘Y Canol’, mae’r trefnau ar gyfer asesu, cofnodi a chyflwyno adroddiad ar gynnydd disgyblion yn eithriadol. Maent yn briodol dros ben i ddisgyblion gydag anawsterau dysgu difrifol ac i’r rhai gydag anawsterau dwys a lluosog.
Mae amrywiaeth o brofiadau diddorol ac ysgogol neilltuol yn cyfoethogi’r cwricwlwm yn yr ysgol ac oddi ar y safle.
Mae ansawdd gofal, cefnogaeth a chyfarwyddyd yn un arall o nodweddion nodedig yr ysgol.
Mae’r bartneriaeth gyda rhieni, gofalwyr a disgyblion hefyd yn neilltuol. Mae’r ysgol yn rhoi cefnogaeth a chyfarwyddyd personol arbennig i ddisgyblion.
Mae arweiniad y Pennaeth yn ysbrydoledig ac yn nodwedd nodedig. Mae’r staff, llywodraethwyr, rhieni a disgyblion fel ei gilydd yn ei pharchu ac yn ffyddlon iddi. Mae ganddi weledigaeth a chyfeiriad eithriadol graff i wella ansawdd addysg a rheoli’r ysgol yn strategol.
Mae’r dirprwy bennaeth yn chwarae rhan ysbrydoledig a neilltuol fel pennaeth y ddarpariaeth ag adnoddau, Y Canol.
Mae ansawdd cefnogaeth a chyfeiriad y Corff Llywodraethol yn dda iawn. Mae’r llywodraethwyr yn wybodus ynghylch blaenoriaethau presennol cysylltiedig â’r ysgol a safonau cyrhaeddiad disgyblion.
Mae staff yr ysgol yn dîm ymroddedig o athrawon cymwysedig, brwdfrydig a medrus dros ben. Mae staff cynorthwyo’n gymwysedig ac yn chwarae rhan sylweddol wrth godi safonau cyrhaeddiad. Maent yn gwneud cyfraniad neilltuol at y broses ddysgu.
Camau nesaf i’r ysgol:
Daw’r adroddiad i gasgliad bod yr ysgol, o fewn naws gynhwysol dros ben dros ddysgu, yn amlwg yn rhoi gwerth eithriadol am yr arian.
Meddai Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Heulfan:
"Mae’r adroddiad gwirioneddol neilltuol hwn yn deyrnged fawr i staff a disgyblion Ysgol Heulfan. Rydym yn croesawu cydnabod y lliaws nodweddion nodedig a nodwyd a byddwn yn rhoi sylw llawn i argymhellion y tîm arolygu. Rydym i gyd yn ymfalchïo yn ein hysgol; da iawn bawb!"
Meddai Julia Thomas Haigh, y Pennaeth:
"Rydym yn hynod falch o adroddiad yr archwiliad na fyddai wedi gallu cael ei gyflawni heb ymroddiad a brwdfrydedd pawb dan sylw. Diolch i bawb am wneud Ysgol Heulfan yn gymaint o stori lwyddiant."
Llongyfarchodd Ian Lucas, AS dros Wrecsam, yr ysgol,
"Dylai pawb bod yn falch o’r llwyddiannau a wnaed. Yn dilyn fy ymweliad diweddar, roedd awyrgylch yr ysgol yn hyfryd a’r ymdoddi gyda phlant Y Canol yn hollol neilltuol. Nid yw canlyniad yr arolwg yn peri unrhyw syndod i mi. Da iawn am y canlyniad gwych!"
Meddai Aled Roberts, Arweinydd y Cyngor:
"Mae hwn yn adroddiad trawiadol iawn sy’n adlewyrchu ymdrechion y staff, y llywodraethwyr a’r plant fel ei gilydd. Fel awdurdod, byddwn yn ymdrechu i ddal i wella ein gwasanaethau er lles ein plant a byddwn yn dibynnu ar ein hysgolion da i sicrhau bod ein plant yn llwyddo."
Am gwybodaeth mwy gweler wefan Ysgol Heulfan.