Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

01 Rhagfyr 2011

Cais am aelodau newydd i Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam

Mae Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam yn chwilio am aelodau newydd. Mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn pobl sy’n defnyddio cefn gwlad yn rheolaidd megis cerddwyr, merlotwyr, beicwyr a gyrwyr cerbydau oddi ar y ffordd, neu bobl sydd â phrofiad o reoli cefn gwlad megis ffermwyr.

Prif bwrpas y fforwm yw cynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac eraill o ran gwella mynediad cyhoeddus i dir yn yr ardal at ddibenion adloniant yn yr awyr agored a mwynhad yng nghefn gwlad. Mae hyn yn cynnwys gwella hawliau tramwy cyhoeddus a hawl mynediad i dir agored a thir comin cofrestredig. Bydd y fforwm yn cyfarfod 5 neu 6 gwaith y flwyddyn, gan amlaf ar brynhawn Gwener. Weithiau bydd cyfarfodydd ar safle yng nghefn gwlad yn ystod yr haf.

Mae’n bwysig bod aelodau’n gallu bod yn bresennol ym mhob cyfarfod. Mae’r swyddi hyn yn ddi-dâl ond gall aelodau’r Fforwm hawlio treuliau teithio rhesymol. Dylai unrhyw unigolyn sy’n dymuno cael ei ystyried ar gyfer aelodaeth gael manylion pellach oddi wrth: Martin Howorth, Adran yr Amgylchedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Ffordd yr Abaty, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, Wrecsam, LL13 9PW Rhif ffôn: 01978 729630. Email laf@wrexham.gov.uk. Gwybodaeth : www.wrexham.gov.uk/laf

yn ôl i'r brig