Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

23.04.07

Ffitrwydd Llai - Yn ôl yng nghanol y pentref!

Mae Clwb Lles Glowyr Llai wedi cyflogi swyddog datblygu ymarfer corff a chwaraeon a fydd yn addasu chwaraeon ac ymarfer corff yn unol ag anghenion y gymuned leol.

Mae’r gweithgareddau newydd yn cynnwys:

  • Clwb loncian – mae’r sesiwn hon i bawb dros 16 oed o ddechreuwyr llwyr i bobl brofiadol. Mae’n ffordd wych, diogel a chyfeillgar o gadw’n heini erbyn yr haf ac os ydych yn rhedeg Ras Fywyd eleni, hon yw’r sesiwn ddelfrydol i’ch helpu i baratoi! Mae’r clwb yn dechrau nos Iau, 26 Ebrill am 6pm, gan adael o Glwb Lles Glowyr Llai.
  • Pêl-fasged – bydd y sesiwn hwyliog hon yn dechrau ddydd Mercher, 25 Ebrill 2007 rhwng 4pm a 5pm ar y cae bob tywydd. Mae’r clwb ar gyfer plant 7-12 oed o bob gallu. Os oes gennych eich pêl eich hun, dewch â hi gyda chi! £1 yr un.
  • Gwersi golff i ferched! Cyfyngir hyn i 6 merch a chynhelir y gwersi bob dydd Sadwrn am 6 wythnos o 5 Mai 2007 am 12pm. Cynhelir y gwersi yn Foregolf ym Mharc Dyfroedd Alun gyda’r chwaraewr golff, Stuart Hurstfield. Rhaid neilltuo lle trwy ffonio’r rhif isod. Nid oes tâl am y gwersi!
  • Bydd teithiau cerdded yn dechrau o’r Clwb Lles bob dydd Iau am 11am o 3 Mai 2007. Mae hon yn lefel o gerdded ar gyfer dechreuwyr a phobl sydd ag ychydig o brofiad ac mae’n agored i bawb. Addas ar gyfer y teulu cyfan ac yn 50c yr un.
  • Mae dosbarthiadau ioga ar fin dod. Bydd dosbarth i’r rhai dan 18 oed ac un ar gyfer pobl 18+. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’r wefan isod.

Am fwy o wybodaeth am y gweithgareddau hyn neu’r cyfleusterau eraill yng Nghlwb Glowyr Llai, ewch i www.llay-miners-welfare.co.uk. I neilltuo eich lle ar y gwersi golff, ffoniwch 01978 292088.

yn ôl i'r brig