Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
19 Awst 2010
Mae cynlluniau ar gyfer gwelliannau sylweddol i Ysgol Gynradd Parc Llai wedi cael eu rhoi gerbron Cyngor Wrecsam.
Bydd y prosiect £4.3 miliwn yn cynnwys gwaith adnewyddu adeilad presennol yr ysgol gynradd, adeiladu estyniad newydd i’r dosbarth babanod a’r dosbarth cyn-ysgol a gwella’r diogelwch a’r fynedfa yn Ffordd yr Ysgol. Cynulliad Cymru sydd wedi darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid ar gyfer y prosiect.
A bellach fe gynhelir ymgynghoriad ynghylch y cynlluniau gyda’r gobaith y byddant yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio yn yr Hydref.
Bydd y gwaith adnewyddu a’r adeilad newydd yn dilyn Dull Asesiad Amgylcheddol BRE (BREEAM), sef y safon flaenllaw a ddefnyddir fwyaf er mwyn cynnal asesiad amgylcheddol ar adeiladau.
Os rhoddir sêl bendith ar y cynlluniau yna fe ddylai’r gwaith ddechrau ar y safle yn yr Hydref er mwyn ei gwblhau ar gyfer Tymor yr Hydref 2012. Caiff y gwaith ei wneud fesul dau gam; y cam cyntaf fydd yr estyniad newydd, a bydd yr ail yn golygu adnewyddu, ar raddfa fawr, adeilad yr Ysgol Gynradd bresennol.
Y Cynghorydd Aled Roberts yw Arweinydd Cyngor Wrecsam ac meddai:
"Mae hyn yn profi unwaith eto ein bod wedi ymrwymo i wella adeiladau ysgol ar gyfer y plant a’r staff fel ei gilydd. Bydd hynny’n sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael eu haddysgu mewn awyrgylch a fydd yn golygu y byddant yn cyflawni hyd eithaf eu gallu. Byddwn yn parhau i gydweithio â Chynulliad Cymru er mwyn sicrhau cyllid ychwanegol i ysgolion eraill yn Wrecsam."
Mae’r gwelliannau i adeiladau ysgol yn mynd rhagddynt ledled y fwrdeistref sirol ar hyn o bryd. Yn wir mae gwerth £20 miliwn o welliannau yn cael eu gwneud mewn tair ysgol uwchradd ar y funud, sef Bryn Alun yng Ngwersyllt, Darland yn yr Orsedd ac Ysgol Maelor yn Llannerch Banna. Y mis yma bydd gwaith yn dechrau ar ysgol newydd £5 miliwn yn Rhosymedre ac fe gyhoeddwyd y bydd £6 miliwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn ardal Gwersyllt. Bydd ynddi leoedd ar gyfer 210 o ddisgyblion.