Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

09 Awst 2010

Busnesau bach yn cael cyfle i farchnata eu hunain

Bydd y busnesau yng nghanol tref Wrecsam yn cael cyfle i arddangos eu nwyddau a’u gwasanaethau mewn digwyddiad arbennig a gynhelir yn Sgwâr y Frenhines.

Ar ddydd Sadwrn, Medi 18, rhwng 9 y bore a 4 y prynhawn, fe gynhelir digwyddiad marchnata a manwerthu sydd â’r nod o roi sylw amlwg i’r amrywiaeth aruthrol o fusnesau manwerthu sydd yn y drefn, lle mae rhywbeth i blesio pawb.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Fforwm Canol Tref Wrecsam a bydd y busnesau’n manteisio ar y cyfle hwn i werthu, arddangos a hysbysebu eu nwyddau a’u gwasanaethau i siopwyr.

Michelle Bougatsas, siop Nia yn Stryt Siarl, yw cadeirydd fforwm canol tref Wrecsam, ac meddai: “Mae hwn yn gyfle ardderchog i fusnesau bach y dref gael rhagor o gyhoeddusrwydd a dangos i siopwyr bod gennym amrywiaeth aruthrol o nwyddau ar gael yn Wrecsam.”

Mae stondinau â tho, yn ogystal â dwy gadair, yn dal i fod ar gael i fusnesau lleol, a hynny i gyd am £45.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth a chadw stondin i chi’ch hun, cofiwch gysylltu â Colin Jones yng Nghyngor Wrecsam ar 01978 292540 fan bellaf erbyn dydd Gwener, Medi 3.

yn ôl i'r brig