Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

11 Chwefror 2010

Cyngerdd Elusennol Dydd Gwyl Dewi

Bydd Cyngerdd Elusennol Dydd Gwyl Dewi yn cael ei gynnal yn Neuadd William Aston ar 5ed Mawrth am 7.30 pm. Côr Godre’r Aran a Dafydd Iwan fydd y prif atyniadau ynghyd â pherfformiadau gan blant o Ysgolion Cymraeg y Fwrdeistref.

Maer Wrecsam, y Cynghorydd Arwel Gwynn Jones, sydd wedi trefnu’r noswaith a bydd yr holl elw’n mynd at ei Elusen, “Blwyddyn y Plentyn” sy’n cefnogi 6 o elusennau plant, Ty Gobaith, dynamic, Ward Blant Ysbyty Maelor Wrecsam, Apêl Imagine Alder Hey, Cymdeithas Awtistig Genedlaethol Cymru a Barnardo’s Cymru.

Cefnogwyd yr Elusen drwy gydol y flwyddyn gan Sainsbury’s sydd wedi cynnal diwrnodau pacio bagiau ac wedi rhoi elw eu gwasanaeth lapio blodau. Rhoddodd Nick Hughes, Dirprwy Reolwr Siop Sainsbury’s, yr arian nawdd a gafodd am gymryd rhan yn Ras Fawr y Gogledd hyd yn oed. Rhoddodd Cymdeithas Adeiladu’r Principality gadw-mi-gei “draig” tsieni a’u cynnig i ysgolion o gwmpas y fwrdeistref sirol sydd wedi bod yn eu defnyddio ar gyfer casgliadau ac achlysuron arbennig a gynhaliwyd ganddynt.

Meddai’r Maer:

“Mae pawb wedi cefnogi’r Elusen yn hael a hoffwn ddiolch i bawb am eu rhoddion a dderbyniwyd yn ddiolchgar. Edrychaf ymlaen at weld llawer o bobl yn y cyngerdd ac fe wn y bydd yn noswaith bleserus iawn.”

Mae tocynnau’r cyngerdd i’w cael o Ganolfan Groeso Wrecsam, 01978 292015 ac yn costio £8.00 i oedolion a £4.00 i blant.

yn ôl i'r brig