Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

01 Awst 2007

Taith gerdded weundirol newydd i Graig y Forwyn i gerddwyr profiadol!

Mae pobl wedi bod yn gofyn i Gyngor Wrecsam am daith gerdded hunan dywysedig hirach ers tro. Mae’r tîm Hawliau Tramwy yn falch o gael lansio taith gerdded hirbell sy’n cynnwys mynydd, rhostir a mwynglawdd.  Dylai pob cerddwr hirbell fod yn fodlon â’r daith gerdded hon. Nid yn unig yw’r daith yn hir, mae’n uchel hefyd gan ddringo i 565 metr (1853 troedfedd).

Mae’r daith yn dechrau o Felin y Nant, Coedpoeth ac yn mynd i fyny Dyffryn Clywedog i’r gweundir uwchben.  Yna, gallwch ddewis o dri llwybr gyda golygfeydd hyfryd o bob un.  Nid oes angen i chi ddewis pa lwybr i’w ddilyn nes i chi gyrraedd y waun, oni bai bod y tywydd a golau dydd yn bethau sydd angen eu hystyried.

Mae’r llwybr cyfan yn 15 milltir a hanner o hyd, gan ddringo cyfanswm o 700 metr.  Mae’n cynnwys Pyllau Plwm y Mwynglawdd, Cyrn y Brain, Craig y Forwyn a Mynydd Rhiwabon.  Ond, mae dau lwybr arall ar gael sy’n lleihau’r daith i 12 milltir a hanner o hyd gan ddringo cyfanswm o 400 metr neu 8 milltir o hyd, gan ddringo cyfanswm o 300 metr.

Fodd bynnag, mae’r teithiau cerdded hyn yn dod gyda rhybudd, gan fod pob un o’r llwybrau’n mynnu gofal a gwaith cynllunio ymlaen llaw.  Yn ystod a gaeaf ac unrhyw gyfnodau eraill o dywydd cyfnewidiol yn ystod y flwyddyn, mae’n hanfodol bod cerddwyr yn edrych ar y rhagolygon tywydd.  Byddai’n rhaid dechrau’n gynnar ar hyd y llwybrau hir yn y gaeaf, neu gallai nosi cyn i gerddwyr gyrraedd pen y daith.  Nid yw’r teithiau’n addas i blant bach.

Mae’r Cyngor yn cydnabod y cymorth ariannol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a chymorth gan Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych, wrth helpu i wireddu’r prosiect.

Mae’r daith gerdded yn hawdd i’w lawrlwytho oddi ar y tudalennu "Teithiau Cerdded y We" ar www.wrecsam.gov.uk/cerdded ac mae’n cynnwys cyfarwyddiadau llawn, nodiadau am leoedd diddorol a mapiau lliw.  Mae hefyd yn cynnwys cyfleuster atborth arloesol, lle gall "goroeswyr" y daith 15 milltir a hanner lawn gofrestru gan ddefnyddio ffurflen ar-lein a disgrifio eu taith gerdded, gan gynnwys nodiadau am fywyd gwyllt a phethau diddorol eraill a welsant.

I’r rheiny sydd heb fynediad at y rhyngrwyd, mae’r Tîm Hawliau Tramwy wedi argraffu fersiwn o’r teithiau cerdded ac mae hon ar gael am gost fechan gan y Ganolfan Groeso yn Wrecsam, rhif ffôn 01978 292015.

yn ôl i'r brig