Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

10 Awst 2010

Canolfan Chwaraeon Clywedog yn cynnal Cwpan y Byd i blant iau

Efallai mai Sbaen aeth â hi yn Ne Affrica ond fe wnaeth pêl-droedwyr o dan 8 oed Wrecsam a’r Fro gymryd rhan yn eu cystadleuaeth Cwpan y Byd eu hunain.

Bu mwy na 140 o fechgyn a genethod o bob rhan o’r sir yn cymryd rhan mewn gŵyl bêl-droed hwyliog i blant iau a gynhaliwyd yng Nghanolfan Chwaraeon Clywedog. Fersiwn wedi ei addasu o gêm 11 bob ochr yw ‘Minipêl-droed’ ac mae’n rhoi cyfle i blant chwarae pêl-droed go iawn, dros dîm go iawn, a dechrau chwarae’r gêm mewn ffordd hwyliog sy’n rhoi boddhad iddynt.

Roedd y chwaraewyr yn cynrychioli gwahanol dimau a gwledydd a oedd yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd 2010.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (yr FAW) wedi rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i minipêl-droed, sef mai’r ffurf hon ar y gêm yw’r unig ffurf ar bêl-droed yng Nghymru i blant o dan 11 oed.

Isod fe welwch yn union beth yw gwir werthoedd Minipêl-droed ac roedd pob un ohonynt i’w gweld yn ystod yr ŵyl yn Wrecsam, sef:

• Mae bechgyn a genethod o bob gallu yn cael cymryd rhan
• Mae’r gêm yn hawdd i’w threfnu a gellir ei chwarae yn unrhyw le, unrhyw bryd
• Gall y chwaraewyr gymryd rhan yn y gêm a chael hwyl heb fod dan bwysau unrhyw rieni na hyfforddwyr chwaith,
• Mae’n eu hannog i chwarae fel tîm ac mae’n meithrin sgiliau'r plant hefyd.

Mae Minipêl-droed yn gêm llawn bwrlwm ac ar ôl mwynhau digwyddiad llwyddiannus yn Wrecsam fe wnaeth pob un o’r chwaraewyr a’u rhieni fynd adref â gwên ar eu hwynebau. Roedd medalau a thystysgrifau ar gael i bawb a fu’n cymryd rhan ac fe gyflwynwyd rhywbeth arbennig iawn i bob Clwb a gymerodd ran yn yr Ŵyl - sef eu Cwpan y Byd eu hunain ar gyfer plant o dan 8 oed Wrecsam.

“Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac roedd h’n fendigedig o beth gweld bron 150 o fechgyn a genethod yn cymryd rhan yn y ffurf newydd hon ar Minipêl-droed. Heddiw rydym wedi profi bod Minipêl-droed yng Nghymru wedi ymsefydlu ei hun ac yn mynd o nerth i nerth,” meddai Mark Roberts, Swyddog Datblygu Pêl-droed Wrecsam.

I gael rhagor o wybodaeth am Minipêl-droed yn Wrecsam a sut y gallwch gynorthwyo a bod yn rhan o Dîm Clwb Plant Iau, mae croes ichi ffonio Mark Roberts, Swyddog Datblygu Pêl-droed Wrecsam, ar 01978 297354.


yn ôl i'r brig