Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
08 Hydref 2008
Cyngor Wrecsam yn enwi Prentis Modern y Flwyddyn 2008Cyhoeddwyd mai Laura Miles yw Prentis Modern y Flwyddyn Cyngor Wrecsam yn ystod Diwrnod Cydnabyddiaeth Cyflawniad blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd yn y Neuadd Goffa.
Ymunodd Laura, 19, cyn ddisgybl o Ysgol Bryn Alun â chynllun Prentis Modern y Cyngor ym mis Medi 2007 a dyfarnwyd CGC Lefel II mewn TG iddi yn ddiweddar. Dechreuodd weithio gyda’r Tîm Cyswllt Busnes ac o fewn byr amser cynigiwyd swydd iddi fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol graddedig o fewn ITeC Wrecsam.
Ar ôl derbyn ei gwobr dywedodd Laura,:
"Rwyf wedi fy mhlesio’n fawr ac yn falch iawn o dderbyn y wobr hon. Hoffwn ddiolch i bawb o’m cydweithwyr am eu cefnogaeth barhaus”.
Cyhoeddwyd mai Nathan Williams, 20, cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Darland, oedd yr ail ac mae’n gweithio yn Adran Adnoddau Dynol y Cyngor. Dywedodd:
"Ers ymuno â Chyngor Wrecsam rwyf wedi ennill CGC Lefel II mewn TG. Gwn y bydd y profiad yr wyf wedi ei gael yn fy helpu yn fy ngyrfa i’r dyfodol a fydd gobeithio yn parhau o fewn Adnoddau Dynol.
Dywedodd Graham Williams, a enwebodd Laura am y wobr:
"Cymhathodd Laura’n rhwydd iawn i dîm proffesiynol a oedd wedi ei hen sefydlu ac mae bob amser yn gweithio i safon uchel iawn gan gyflwyno gwaith di-fai. Mae’n barod i ymwneud ag unrhyw ddyletswyddau a gyflawnir gan y tîm ac mae ei gofal i gwsmeriaid yn gyson ac o safon uchel iawn. Mae ei phrydlondeb a’i phresenoldeb yn deilwng iawn ac mae’n parhau i ragori ar holl ddisgwyliadau. Mae’n fraint a phleser gweithio gyda rhywun sydd ar ddechrau gyrfa sy’n siwr o fod yn llwyddiannus iawn, pa bynnag gyfeiriad y bydd Laura’n dewis ei ddilyn."
Dywedodd Isobel Garner, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam:
"Mae Cyngor Wrecsam yn ymroddedig i’w gynllun Prentis Modern sy’n rhoi cychwyn ardderchog i’n pobl ifanc o fewn byd llywodraeth leol ac mae hefyd yn eu darparu â chymwysterau cydnabyddedig iddynt. Mae fy argraff o galibr y bobl ifanc sy’n ymuno â ni’n flynyddol yn cynyddu, gyda pob un ohonynt yn chwilio am yrfa gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Hoffwn longyfarch Laura ar y wobr hon a dymuno pob lwc iddi wrth iddi barhau â’i gyrfa gyda Chyngor Wrecsam. Hefyd hoffwn longyfarch, Nathan, Natasha a Charlotte y dylai pob un ohonynt fod yn falch o’u cyflawniad."
Dyfarnwyd cydradd 3ydd i Natasha Mocko, sy’n gweithio yn yr Adran Cyllid a Pherfformiad, a Charlotte Flett sy’n gweithio yn yr Adran Amgylchedd.