Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
17 Awst 2010
Amgueddfa Wydrog yn ymffurfioMae gwaith adnewyddu Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn mynd yn ei flaen yn fendigedig a bellach mae’r contractwyr, ISG wedi gosod estyniad gwydrog newydd ar wyneb blaen yr adeilad. Pan fydd yr amgueddfa’n ailagor i’r cyhoedd yn nechrau’r flwyddyn bydd siop goffi newydd a derbynfa a siop yr amgueddfa yn cael eu lleoli yn yr estyniad hwn.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a dim ond cam un yw hwn mewn cynllun sydd â phedwar cam i gyd. Bydd hefyd yn cynnwys orielau arddangos newydd, a bydd un ohonynt yn cael ei neilltuo’n unswydd i ddangos casgliadau Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Y Cynghorydd Bob Dutton, yw’r Aelod Arweiniol dros Gymunedau a Pherfformiad ac meddai:
“Da o beth yw gweld bod y prosiect yn mynd rhagddo’n dda ac fe wn o’r gorau bod llawer o drigolion yn edrych ymlaen at fynd i weld yr amgueddfa unwaith eto pan fydd yr arddangosion a’r staff yn dychwelyd i’r safle ddechrau’r flwyddyn nesaf.”