Archif Newyddion y Cygnor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

Ionawr 2006 - Chwefror 2006

Dyddiad Newyddion
28.02.06

Am roi’r gorau i ysmygu o ddifrif? Mae help wrth law

Wrth i’r “Diwrnod Dim Ysmygu” cenedlaethol nesáu, bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn Wrecsam yn cynnig help a chyngor i’r trigolion hynny sy’n awyddus i roi’r gorau i’r hen gast!

17.02.06

Theatr Deithiol yn Dychwelyd i Ganolfan Hamdden Plas Madoc

Bydd comedi newydd am Gymru adeg y rhyfel o’r enw 'The Way it Was' yn perfformio yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc rhwng 8 ac 11 Mawrth fel rhan o daith theatr deithiol Theatr Clwyd Cymru i bum canolfan hamdden yng ngogledd a de Cymru. 

14.02.06

Croeso yn Wrecsam

Lansiodd y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE) ei fenter Croeso ym mis Tachwedd 2005.  Arddangosfa deithiol ydyw sy’n seiliedig ar fywyd Paul Robeson. Mae’n anelu at hyrwyddo amrywiaeth, integreiddiad gweithredol ac awyrgylch croesawgar ym mhob cymuned, gweithle a sefydliad. 

08.02.06

Ras Bywyd yn dod i Wrecsam

Bydd 2006 yn gweld Ras Bywyd Cancer Research UK yn cael ei chynnal yn Wrecsam.

01.02.06

Lansio Prosiect Peilot Cydbwysedd Gwaith a Bywyd

Mae newid arferion gwaith yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn helpu’r awdurdod i ddarparu’r hyn sydd o bwys i’w phreswylwyr.

27.01.06

6000 Mwy i Ailgylchu gyda Michael

Mae Cyngor Wrecsam yn mynd i estyn ei gynllun llwyddiannus, Ailgylchu gyda Michael, i 6,000 o gartrefi pellach yn y fwrdeistref sirol. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n byw yn Johnstown, Rhiwabon, Penycae a Rhostyllen yn derbyn eu biniau a blychau newydd cyn bo hir a gallant edrych ymlaen at eu casgliad cyntaf ar ddechrau mis Mawrth.

20.01.06

Dechrau Newydd i Rieni a Phlant ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae prosiect i helpu rhieni di-waith oresgyn llawer o’r rhwystrau maent yn eu hwynebu wrth ddymuno dysgu sgiliau newydd neu ddychwelyd i’r gwaith wedi ei lansio yn Wrecsam.

19.01.06

Bwrdd Gweithredol yn gwneud penderfyniad am y Sgrîn Fawr

Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ddoe (dydd Mawrth), penderfynodd yr aelodau i beidio â symud cynllun ymlaen i godi sgrîn fawr ar Sgwâr y Frenhines.

18.01.06

Gosod microsglodion ar gwn am ddim neu am bris gostyngol

Ddydd Gwener 27ain Ionawr cynhelir digwyddiad gosod microsglodion ar gwn am ddim yn Nyfroedd Alun. Gellir gosod microsglodion ar unrhyw gwn sydd dros 12 wythnos oed ar yr amod eu bod yng nghwmni perchennog sy’n 18 oed neu’n hyn.

16.01.06

Un Wrecsam – Gosod Datganiad o Werthoedd ac Ymrwymiad

Cyn bo hir bydd sefydliadau yn Wrecsam yn gallu cofrestru ar siarter i ddangos eu hymrwymiad i ymdeimlad o berthyn ar y cyd i’r Fwrdeistref Sirol.

13.01.06

Prawf Clytiau Go Iawn i Rieni a Phlant

Mae Fforwm Cynaliadwyedd Wrecsam (hen Agenda 21 Lleol Wrecsam) wedi penderfynu gwneud rhywbeth ynghylch y swm enfawr o glytiau tafladwy sy’n mynd i safleoedd tirlenwi bob dydd yn Wrecsam.

04.01.06

Anrhydeddu ffilm bêl-droed hanesyddol

Mae safle unigryw Wrecsam yn hanes pêl-droed rhyngwladol ar fin cael ei ddathlu mewn seremoni arbennig.


Archif Newyddion

yn ôl i'r brig