Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
| Dyddiad | Newyddion |
|---|---|
| 29.02.08 | £320,000 ar gyfer TGCh mewn Ysgolion Cynradd Mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi cwblhau cynllun prydlesu pwysig sy’n costio oddeutu £320,000, er mwyn hybu Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn ysgolion cynradd. |
| 29.02.08 | Bydd Llyfrgell y Rhos yn ailagor ddydd Llun 3 Mawrth Bydd Llyfrgell y Rhos yn ailagor ddydd Llun 3 Mawrth yn dilyn rhaglen ailwampio helaeth diolch i grant o £99,900 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. |
| 28.02.08 | Dŵr Cymru yn gwneud gwelliannau hanfodol yn Johnstown Mae trigolion Johnstown yn mynd i fanteisio ar welliannau hanfodol pan fydd Dŵr Cymru yn dechrau gweithio ar un o’r ddau gynllun ar ddydd Mercher 5ydd Mawrth. |
| 28.02.08 |
Bydd Cyngor Wrecsam yn gyfrifol am reoli gorfodi parcio ledled y Fwrdeistref Sirol o ddydd Sadwrn 1af Mawrth ymlaen a bu i chwe chynorthwy-ydd parcio, fydd yn gyflogedig i gyflwyno tocynnau cosb benodol, ymddangos am y tro cyntaf heddiw. |
| 27.02.08 |
Codi’r darn dur olaf i greu cyrchfan siopa a hamdden Dôl yr Eryrod. Bydd aelodau o Wilson Bowden Developments ynghyd â’u partneriaid datblygu o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyfarfod ar safle Dôl yr Eryrod heddiw i ddathlu gosod darn olaf y jig-so yn ei le. |
| 25.02.08 |
Mae pobl o bob oedran sy’n byw yn y fwrdeistref sirol yn cael eu hannog i roi eu barn er mwyn dylanwadu ar gynllun tair blynedd i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc. |
| 21.02.08 | Gwaith Adnewyddu Canolfan Gymunedol Llai bron ar ben Mae’r gwaith i wella’r cyfleusterau yng Nghanolfan Gymunedol Llai bron iawn wedi ei gwblhau. Mae’r gwaith wedi cynnwys gosod ffenestri dwbl newydd, mynediad newydd i’r anabl gyda ramp i mewn i’r adeilad ac adleoli a gwneud y toiledau anabl yn fwy. |
| 20.02.08 |
Dadorchuddiodd y Maer, y Cynghorydd Joan Lowe, logo newydd ITeC Wrecsam yn ddiweddar mewn seremoni a nodai ddechrau blwyddyn pen-blwydd ITeC Wrecsam yn 25 oed. |
| 12.02.08 |
Fel rhan o’r rhaglen gwella parhaus, ym mis Tachwedd 2007 anfonodd Adran Gofal Cymdeithasol Oedolion Wrecsam 750 o holiaduron i bobl a oedd yn derbyn gwasanaethau gan yr Adran. Detholwyd defnyddwyr y gwasanaeth ar hap, seiliwyd yr holiaduron yn agos ar fformat a ddefnyddiwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac fe’i hanfonwyd allan yn ddwyieithog. |
| 11.02.08 |
Yr wythnos hon mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi pwerau llym newydd gan yr heddlu i atal yfed dan oed ac wedi galw am fwy o ymglymiad gan rieni a’r diwydiant alcohol er mwyn mynd i’r afael â phobl ifanc yn eu harddegau sy’n camddefnyddio alcohol. |
| 08.02.08 |
Roedd Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhodri Glyn Thomas, yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam heddiw i gyflwyno Tystysgrif Achrediad MLA (Cyngor Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifdai) i’r staff. Roedd hefyd yno i agor arddangosfa sy’n ysgogi’r meddwl, “Traed mewn Cyffion: Cymru a Chaethwasiaeth”, a fydd yn Wrecsam tan ddechrau Ebrill. |
| 06.02.08 |
Mae’n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam lansio ei Is-Adran Rheilffordd digwygiedig ar ei wefan sydd wedi ennill gwobrau. |
| 05.02.08 |
Mae cynghorydd lleol wedi sgorio gôl gyda phobl ifanc yn ei hardal trwy drefnu sesiynau pêl-droed iddynt yn Stadiwm Queensway. |
| 28.01.08 |
Bydd pêl-droed rhyngwladol yn ôl yn y Cae Ras, Wrecsam ar 6ed Chwefror gyda gêm yn erbyn Norwy. |
| 24.01.08 |
Bydd Llyfrgell Wrecsam yn nodi Diwrnod Holocost y Byd, Ionawr 27ain, gydag arddangosfa arbennig o ffotograffau a dynnwyd yng Ngwersyll Carcharorion Dachau yn ddiweddar. |
| 23.01.08 |
Mae ysgol bentref yn Wrecsam wedi ennill model Cydbwysedd Rhwng Gwaith a Bywyd Buddsoddwyr Mewn Pobl. Croesawodd Ysgol Gynradd Rhostyllen Janice Kerr, Aseswr Buddsoddwyr Mewn Pobl, i’r ysgol i gyflwyno’r wobr sy’n cydnabod bod yr ysgol wedi llunio cynllun sy’n rhoi cydbwysedd boddhaol i staff rhwng gwaith, bywyd a’r teulu. |
| 21.01.08 |
Gofynnir i bobl sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol am eu barn am y cynllun tair blynedd i wella iechyd, gofal cymdeithasol a lles trigolion Wrecsam. |
| 21.01.08 |
Mae Wrecsam i gael ei selsigen ei hun yn dilyn lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i bencampwr ymysg holl selsig y fro. |
| 17.01.08 |
Mae’r dogfennau ymestynnol ar gyfer enwebu Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth y Byd wedi’u danfon at UNESCO ym Mharis cyn y dyddiad cau. |
| 14.01.08 |
Mae dyfodol addysg ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn edrych yn ddisglair yn dilyn arolwg llawn o’r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) – yr arolwg cyntaf o’i fath i gael ei gynnal yn Wrecsam. |
| 11.01.08 |
Ar ôl y Nadolig, wrth i deuluoedd ddechrau meddwl am wyliau, mae Cyngor Wrecsam yn gofyn i rieni Aros Oedi a Meddwl cyn neilltuo gwyliau a fydd yn golygu y bydd eu plant yn colli allan ar amser yn yr ysgol. |
| 10.01.08 |
Am y tro cyntaf, mae’r aelodau llyfrgelloedd ar draws Wrecsam yn cael cymhelliant ychwanegol i ledaenu’r gair i’w ffrindiau a’u teulu mewn ymgyrch arloesol i’w lansio’r mis nesaf. |
| 08.01.08 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i ymuno â chynllun y Llinell Dwyll yn 2004. Mae’r cynllun wedi bod yn arf ataliol llwyddiannus gan ffurfio rhan bwysig o fesurau gwrthdwyll Wrecsam. |
| 03.01.08 |
Derbyniodd Siarter o Berthyn ‘Un Wrecsam’ fwy o gefnogaeth gref yn ystod y digwyddiad Camelod a Charolau Nadolig yn eglwys Sant Silyn. |