Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
| Dyddiad | Newyddion |
|---|---|
| 24.02.11 |
Mae Theatr ar gyfer Pobl Ifanc Clwyd Theatr Cymru’n cynnig profiad “unwaith mewn bywyd” i bobl ifainc ledled Wrecsam gael perfformio o flaen miloedd o bobl yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011. |
| 23.02.11 | Cerdyn Coch i Hiliaeth ar y Cae Ras Mae elusen gwrth-hiliaeth, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, wedi bod yn gosod esiampl wych yng nghartref pêl droed Wrecsam, y Cae Ras, yr wythnos hon. Nod yr elusen yw defnyddio proffil uchel peldroedwyr proffesiynol i fynd i’r afael a hiliaeth, a buont yn cynnal gweithdai a sgyrsiau rhyngweithiol gydag ysgolion cynradd ac uwchradd lleol. |
| 22.02.11 |
Mae Aelod Arweiniol y Cyngor dros yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd David Bithell, wedi disgrifio lladrad y gorchuddion gylïau yn ardaloedd Rhos, Y Bers a Rhostyllen yn Wrecsam yn weithred “hollol ffôl”. |
| 18.02.11 | Y Cyngor yn caniatáu panelau PV solar yng Nghartrefi Wrecsam Rhoddodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ganiatâd yr wythnos hon i osod panelau PV [ffotofoltäig] solar ar do 3000 o dai cyngor ledled Wrecsam. |
| 14.02.11 |
Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ailagor ei drysau. Cafodd Ei Deilyngdod Maer Wrecsam, y Cyng Jim Kelly KSG, gwmni’r hanesydd adnabyddus o Gymro, yr Athro John Davies, heddiw yn agoriad swyddogol Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam sydd newydd gael ei hadnewyddu. (Dydd Llun 14eg Chwefror). |
| 04.02.11 | Ystafell ddosbarth fodern o fudd i’r gymuned gyfan Mae canolfan ddysg newydd a modern yn y Cae Ras fydd o fantais i gymunedau drwy’r rhanbarth, wedi ei chyhoeddi’n swyddogol. |
| 03.02.11 | Cyfarfod Cymunedol Dyfodol Cynllun Chwarae Coedpoeth Bydd Tîm Datblygu Chwarae CBSW yn cynnal cyfarfod cymunedol agored ddydd Iau 10fed Chwefror yng Nghanolfan Menter Plas Pentwyn, Coedpoeth. |
| 02.02.11 |
Mae Cyngor Wrecsam yn ffarwelio gydag un o’i phrif swyddogion sydd wedi gweithio’r cyfnod hiraf, Dave Hylands, wrth iddo ymddeol o’i swydd fel Prif Swyddog Systemau Gwybodaeth ar ddiwedd y mis. |
| 28.01.11 | A ddylai Wrecsam geisio am Statws Dinas: Mynnwch Ddweud Eich Dweud Mae holl drigolion Wrecsam yn cael eu hannog i ddweud wrth Gyngor Wrecsam a ydynt o’r farn y dylai Wrecsam gyflwyno ei hun i’r gystadleuaeth am Statws Dinas a ddyfernir i un dref yn y DU i ddathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines yn 2012. |
| 28.01.11 | Galw am Gasglwyr i’r Cyfrifiad Mae pobl leol yn cael eu hannog i wneud cais am swyddi fel Casglwyr Cyfrifiad sydd bellach ar gael yn ardaloedd Wrecsam sef Bettisfield, Marchwiel, Llannerch Banna, De Wrecsam, Cefn Mawr, Y Waun, Pentre, a Rhiwabon. |
| 28.01.11 | Galw holl ddilynwyr Rygbi Cynghrair... Mae grŵp sy’n frwd dros Rygbi Cynghrair yn awyddus i ffurfio tîm Rygbi Cynghrair Iau newydd yn Wrecsam ac maent yn gofyn am eich cymorth. |
| 24.01.11 | Ysgol Grango yn Falch o gael Adroddiad Arolwg 'Da' Mae Llywodraethwyr a staff Ysgol Grango yn Rhos yn falch bod adroddiad diweddar am eu harolwg Estyn wedi disgrifio’r ysgol fel ‘ysgol dda lle mae disgyblion yn llwyddo i ennill safonau da, gwneud cynnydd da neu well, ac yn ymddwyn yn dda iawn.” |
| 20.01.11 | Lansio Blwyddyn Diwylliant Wrecsam yn Swyddogol Mae Blwyddyn Diwylliant Wrecsam yn dechrau mewn steil ddydd Gwener 21ain Ionawr pan gynhelir Gorymdaith Goleuadau Godidog yng nghanol y dref. Bydd dros 250 o lusernau, ynghyd â dawnswyr, caneuon a cherddoriaeth yn gadael Dôl yr Eryrod am 5.30 pm ac yn teithio drwy ganol y dref i gyrraedd Llwyn Isaf am 6.00 pm lle bydd lleisiau enwog Côr Meibion Y Fron yn eu disgwyl. |
| 20.01.11 | "Time to Kill" Chwilio am Awduron Trosedd Gorau’r DU Mae’r gystadleuaeth genedlaethol "Time To Kill" a lansiwyd gan y Gymdeithas Awduron Trosedd (CWA) yn chwilio am yr awduron trosedd ifanc gorau yng Ngogledd Cymru, Cilgwri a Sir Caer. |
| 20.01.11 | Wrecsam yn Cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Ordewdra Dydd Llun 17eg Ionawr fydd dechrau Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Ordewdra, menter sy'n cael ei chefnogi gan Fforwm Gordewdra Cenedlaethol sy’n annog pobl i gael gwybod eu Mynegai Màs y Corff (BMI) ac i wneud dewisiadau i gael ffordd o fyw iachach. I nodi hyn, gall plant yn Wrecsam ymuno â chlwb ffordd o fyw iachus a hwyliog ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. |
| 20.01.11 | Cynhadledd am ddim i hyrwyddo cysylltiadau Ewropeaidd Mae Europe Direct Wrecsam a’r Swyddog Cysylltiadau Rhyngwladol, David Phoenix yn trefnu cynhadledd ar gyfer athrawon ysgolion cynradd Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint. |
| 20.01.11 | Tîm arlwyo Ysgol Rhosnesni yw’r gorau Mae ysgol yn Wrecsam wedi ei chydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol am ei hymgyrch i wella prydau ysgol. Daeth tîm arlwyo Ysgol Rhosnesni i’r brig mewn dau gategori yng Ngwobrau Arlwyo Cenedlaethol Gwasanaeth Bwyd Blakemore. |
| 14.01.11 |
Dylai’r rhai sy’n hoffi hanes a threftadaeth ymweld â Gwyl Hanes Wrecsam a gynhelir cyn bo hir. Bydd yn digwydd ar ddydd Gwener 4 Chwefror a dydd Sadwrn 5 Chwefror ym Mhrifysgol Glyndwr, ac mae’r wyl yn adrodd hanes treftadaeth gymunedol Wrecsam. |
| 13.01.11 | Cyngor Wrecsam yn lansio Gwasanaeth Iaith Arwyddion newydd Mae Cyngor Wrecsam yn cynnig gwasanaeth iaith arwyddion newydd yn y Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar Stryt yr Arglwydd. |
| 12.01.11 | Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011 Parti Stryd y Briodas Frenhinol Mae Tîm Blwyddyn Diwylliant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn annog trigolion ledled Wrecsam i ymuno â Pharti Stryd Brenhinol Wrecsam i ddathlu priodas y Tywysog William a Catherine Middleton ddydd Gwener 29ain Ebrill 2011. Cynhyrchwyd Canllaw Parti Stryd Brenhinol Wrecsam ac mae ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
| 12.01.11 | Byd Dŵr Wrecsam – cyfyngu ar wasanaethau Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, bydd y llithren, y cerrynt a phwll y dysgwyr yng nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd y Dŵr ar gau tan ddydd Sadwrn 15fed Ionawr 2011. |
| 10.01.11 | Dysgwyr yn Gwneud Sblash efo’r Fenter Capiau Nofio Bydd yr holl nofwyr sydd wedi cofrestru i gael gwersi nofio lefel 1-7 Cynllun Addysgu Nofio Cenedlaethol ASA gyda Chyngor Wrecsam yn cael cap nofio AM DDIM ymhob un o Ganolfannau Hamdden a Gweithgareddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. |
| 07.01.11 |
Bydd rhan o’r A483 ffordd osgoi Wrecsam ar gau dros dro rhwng 9pm nos Sadwrn, 8 Ionawr a 2am fore Sul, 9 Ionawr. |
| 07.01.11 | Diweddariad Tywydd Garw, 7 Ionawr 2011 Mae’r eira a syrthiodd fore heddiw wedi gwneud amodau gyrru yn anodd, a’n nod ydy sicrhau bod ein holl ffyrdd blaenoriaeth i’w graeanu yn parhau ar agor. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn bu’r cerbydau graeanu allan o 3 o’r gloch brynhawn ddoe, ac roedden nhw allan unwaith eto ers 3 o’r gloch fore heddiw. Mae ein holl gerbydau graeanu wrthi’n rhoi halen at ein llwybrau blaenoriaeth 1 ar hyn o bryd, yn unol â’n Polisi Gwasanaeth yn y Gaeaf. |
| 06.01.11 |
Rydym wedi cael gwybod gan y Swyddfa Dywydd y gallwn ddisgwyl eira o tua 6am ymlaen ar fore dydd Gwener 7 Ionawr. Mae'r lorïau graeanu eisoes wedi bod allan ers 3 o'r gloch y prynhawn yma a byddent yn mynd allan eto o 03:00 bore yfory. |
| 31.12.10 | Datganiad ynghylch tyllau yn y ffordd Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Gyngor Wrecsam dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant: "Yn ystod y tywydd garw yn ddiweddar mae Cyngor Wrecsam wedi taenu ychydig dros bum mil o dunelli o halen ar ein rhwydwaith priffyrdd." |
| 30.12.10 |
Mae gan bob un o ganolfannau hamdden a gweithgareddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam le yn eu rhaglenni gwersi nofio sy’n dechrau ym mis Ionawr 2011. |
| 30.12.10 |
Mae lleoedd rhad ac am ddim ar gael yn Wrecsam y mis Ionawr hwn ar raglen Meddwl, Ymarfer Corff a Maeth o’r enw MEND. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n cynnig y cwrs gyda’r bwriad o gynorthwyo pobl i ddod yn fwy heini, yn iachach ac yn hapusach! |
| 24.12.10 |
Ymunwc H Heddiw a Does Dim Angen Talu tan 20fed Chwefror 2011. |
| 23.12.10 |
Mae pobl ifanc ar draws Wrecsam sydd â’u bryd ar wneud ffilmiau’n cael eu hannog i ymgeisio mewn cystadleuaeth ar gyfer Ewrop gyfan. |
| 22.12.10 | Casglu sbwriel yn ystod tywydd difrifol Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i barhau i weithredu gwasanaeth casglu sbwriel yn ystod y cyfnod hwn o dywydd gaeafol iawn. Mewn rhai achosion mae’n rhy beryglus i ni fynd â lorïau sbwriel trwm ar strydoedd ochr cul neu serth. |
| 22.12.10 | Ymddangosiad cyntaf Brymbo Bryn! Plant Ysgol y Santes Fair, Brymbo oedd y rhai cyntaf i gyfarfod mascot Archifdy ac Amgueddfa Wrecsam mewn seremoni i’w enwi yn yr ysgol yr wythnos ddiwethaf. |
| 22.12.10 |
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn atgoffa pobl i edrych ar y sticeri ar eu biniau sbwriel a’u calendrau casglu sbwriel i nodi’r newidiadau oherwydd gwyliau’r banc cyfnod y Nadolig. |
| 22.12.10 | Annog rhieni i rybuddio plant am beryglon rhew Mae Adran yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gofyn i rieni wneud eu plant yn ymwybodol o beryglon rhew wrth iddi ymddangos y bydd y gwyliau Nadolig yn gyfnod oer a rhewllyd. |
| 17.12.10 | Partneriaid yn uno â’i gilydd i hybu’r ymgyrch Mewn Achos o Argyfwng (In Case of Emergency - ICE) Mae staff gwasanaeth ambiwlans Wrecsam yn cefnogi ymgyrch i ddod â chymorth i’r rhai mewn trybini yn ystod tymor y partïon Nadolig a Blwyddyn Newydd yn nhref Wrecsam trwy wneud yn siwr bod rhifau’n cyfri. |
| 17.12.10 | Maer Wrecsam yn agor Canolfan Hamdden a Gweithgaredd Gwyn Evans yn swyddogol Agorwyd Canolfan Hamdden a Gweithgaredd Gwyn Evans yn swyddogol gan Faer Wrecsam ddydd Gwener, 10 Rhagfyr, yn dilyn gwaith uwchraddio gwerth £750,000. |
| 17.12.10 | Datganiad gan Cyngor Wrecsam - Isobel Garner Mae Cyngor Wrecsam yn gallu cadarnhau bod Isobel Garner, Prif Weithredwr yr awdurdod, wedi rhoi hysbysiad ffurfiol ei bod yn bwriadu ymddiswyddo o’i swydd. |
| 16.12.10 |
Mae ffigurau diweddar ar gyfer cŵn strae yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dangos gostyngiad o 10% yn nifer y cwn strae y mae Gwasanaeth Warden Cŵn y Cyngor wedi ymdrin â hwy o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Mae nifer y cŵn strae yr adroddodd y cyhoedd amdanynt wedi gostwng tua’r un faint dros yr un cyfnod. |
| 16.12.10 | Gofyn i’r henoed Gadw’n Ddiogel a Chadw mewn Cysylltiad Mae’r tywydd garw diweddar mewn rhannau o’r DU wedi costio bywydau 4 o bobl oedrannus sydd wedi rhewi i farwolaeth ar ôl disgyn yn eu gerddi. Gyda rhagolygon am fwy o dywydd garw, mae Cyngor Wrecsam yn erfyn ar bobl sy’n agored i niwed i wneud defnydd llawn o Wasanaeth Teleofal Wrecsam er mwyn ceisio sicrhau na fydd trasiedi fel hyn yn digwydd yma. |
| 15.12.10 |
Mae staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi eu canmol yn eu Digwyddiad Cydnabod Cyflawniad blynyddol. |
| 14.12.10 | Neges diogelwch y ffordd yn dod i Faracs Hightown Tynnwyd sylw milwyr at beryglon yfed a gyrru ar ffurf cyflwyniad di-flewyn ar dafod. |
| 13.12.10 | Dechrau’r Gwaith Cyntaf ar Ffordd yr Ystâd Ddiwydiannol O’r diwedd, mae’r gwaith y bu Wrecsam yn disgwyl yn hir amdano i wneud ffordd i’r Ystâd Ddiwydiannol, wedi ymadael â’r bwrdd cynllunio ac mae’r gwaith cyntaf wedi dechrau i baratoi safleoedd y gogledd a’r de ar gyfer y gwaith adeiladu. |
| 13.12.10 | Gwledd i’r adar ym Mharc Ponciau Cafodd gwaith mwy na 350 o blant lleol sy’n ddisgyblion yn Ysgol Hooson ac Ysgol Maes y Mynydd ei weld ar y coed ym Mharc Ponciau ar y penwythnos. |
| 10.12.10 | Carolau a hwyl yr Ŵyl yn dod i Sgwâr y Frenhines Bydd teimlad Nadoligaidd yn Sgwâr y Frenhines yfory gyda chyngerdd o garolau’r ŵyl gan Fand Ysgolion Wrecsam. |
| 10.12.10 | Disgyblion yn dod â hwyl yr ŵyl i Farchnad y Bobl Mae’r Nadolig wedi cyrraedd go iawn yn Wrecsam, a bydd disgyblion o Ysgol Hafod y Wern yn mynd i hwyl yr ŵyl gyda chyngerdd carolau arbennig ym Marchnad y Bobl yr wythnos nesaf. |
| 08.12.10 | Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011 Mae 2011 yn mynd i fod yn flwyddyn FAWR i Wrecsam! Pam? Beth am fwy na 300 o ddigwyddiadau diwylliannol trwy gydol y flwyddyn i ddathlu’r gorau o’r hyn sydd gan ardal Wrecsam i’w gynnig! |
| 08.12.10 | Parcio yng nghanol y dref yn ystod adeg y Nadolig Er mwyn i’r cyhoedd sy’n teithio wybod am bob newid i’r rhwydwaith bysiau lleol yn ardal Wrecsam, mae’r Cyngor unwaith eto yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r trefniadau ar gyfer teithio ar fysiau lleol dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn newydd. |
| 08.12.10 | Gwasanaethau Bws Lleol dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Er mwyn i’r cyhoedd sy’n teithio wybod am bob newid i’r rhwydwaith bysiau lleol yn ardal Wrecsam, mae’r Cyngor unwaith eto yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r trefniadau ar gyfer teithio ar fysiau lleol dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn newydd. |
| 06.12.10 |
Bydd Parc Bellevue yn cynnal gwasanaeth carolau o lwyfan y band ar ddydd Mercher 8fed Rhagfyr. Mae’r digwyddiad yn cychwyn gyda phlant Ysgol Victoria yn canu am 4.15pm ac yna Côr Eglwys yr Holl Seintiau. |
| 06.12.10 |
Gyda’r Nadolig yn nesáu, ydych chi’n chwilio am anrheg arbennig eleni? Gall Ty Mawr eich helpu! Mae gennym gynllun bellach o’r enw ‘Cynllun Noddi Anifail’, lle gallwch ddewis anifail yr hoffech ei noddi am gyn lleied â £5 y flwyddyn am yr anifeiliaid lleiaf a £10 am y rhai mwyaf. |
| 06.12.10 | Noddi anifail yn Nhy Mawr ar gyfer y Nadolig Gyda’r Nadolig yn nesáu, ydych chi’n chwilio am anrheg arbennig eleni? Gall Ty Mawr eich helpu! Mae gennym gynllun bellach o’r enw ‘Cynllun Noddi Anifail’, lle gallwch ddewis anifail yr hoffech ei noddi am gyn lleied â £5 y flwyddyn am yr anifeiliaid lleiaf a £10 am y rhai mwyaf. |
| 03.12.10 | Gwneud llusernau yn Oriel Wrecsam Mae canolfan gelfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Oriel Wrecsam yn cynnal gweithdai 'Croeso i Wneud Llusernau' er mwyn paratoi at Flwyddyn Diwylliant Wrecsam yn 2011. |
| 03.12.10 | Cadw’n Gynnes dros y Gaeaf: cyngor i rai dros 60 oed Wrth i’r tymheredd ostwng yn Wrecsam a’r Sir yn profi eira a rhew cynaf y gaeaf, y neges gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw Cadw Gynnes, Cadw’n Iach. |
| 02.12.10 | Plant yn Cwblhau’r Addurn Wal Canmlwyddiant Mae plant Ysgol Victoria wedi cwblhau prosiect i greu addurn wal i ddathlu Canmlwyddiant Parc Bellevue. |
| 01.12.10 | Dewch i weld Sion Corn ar Sgwar y Frenhines Mae’r goleuadau ar y goeden Nadolig a’r groto bron yn barod a’r cyfan sydd ar ôl yw i Sïon Corn gyrraedd y dref. |
| 01.12.10 | Llwyddo i gael eich troed ar yr ysgol eiddo Mae Cyngor Wrecsam a McInerney yn gwahodd trigolion Wrecsam i frecwast gwahanol wrth iddynt lansio cartrefi newydd gyda gostyngiad o 30% yn y pris. Mae’r adeiladwyr cartrefi cenedlaethol yn cynnal y digwyddiad mewn cydweithrediad â chyngor Wrecsam ddydd Sadwrn Rhagfyr 4 o 10.30am hyd 1pm mewn ymgais i gynorthwyo prynwyr am y tro cyntaf i allu fforddio eu lle eu hunain. |