Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
| Dyddiad | Newyddion |
|---|---|
| 29.04.04 | Gwesty Mawreddog £7.6 miliwn i Wrecsam Y gwesty £7.6 miliwn 4 seren fydd y gwesty Ramada Plaza cyntaf i'w hadeiladu o'r newydd yn y Deyrnas Unedig a bydd yn cynnwys cyfleusterau cynadledda gydag ystafelloedd pwyllgor i hyd at 200 o bobl. Bydd yr adnoddau eraill yn cynnwys ty bwyta, lolfa, ardal i'r bar, pwll nofio a chyfleusterau campfa bychan. |
| 26.04.04 |
Mae Gwyl Gelfyddydau Wrecsam bron iawn yma! Unwaith eto mae'r Wyl yn orlawn, gyda mwy na 40 o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal rhwng 23 Mai – 5 Mehefin mewn mannau amrywiol ledled y Fwrdeistref Sirol. |
| 26.04.04 |
Mae Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cael cynnig darlun o Syr Foster Cunliff, a baentiwyd ag olew ar gynfas gan yr artist John Hoppner. |
| 19.04.04 |
Mae Cyngor Wrecsam yn gofyn am sylwadau ar y cyfarwyddyd datblygu drafft ar gyfer y cae Naw Acer ar Ffordd Gaer. |
| 19.04.04 | Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl yn Dychwelyd i Wrecsam Daw Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl i Neuadd William Aston NEWI unwaith eto nos Sadwrn, 1 Mai am 8.00pm. |
| 18.03.04 | Y Farchnad Ffrengig yn Dychwelyd i Wrecsam Bydd masnachwyr o Ffrainc ar Sgwâr y Frenhines ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn (25, 26 a 27 Mawrth) yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau gan gynnwys lledr, crochenwaith a ceramig, cawsiau, melysion, nwyddau basged, cacennau a bara. |
| 18.03.04 | Wardeniaid Bro i helpu i rwystro ymddygiad gwrthgymdeithasol Bydd set newydd o wynebau ar strydoedd Wrecsam o'r wythnos hon, i helpu i rwystro ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud cymunedau'n ddiogelach. |
| 18.03.04 | Gwnewch Gais Ar-lein gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Lai nag wythnos ar ôl i wefan Cyngor Wrecsam ymddangos yn y rhestr o 20 o wefannau gorau'r DU, lansiwyd cyfleuster newydd o bwys ar y safle. Bellach, gall ceiswyr gwaith sy'n ymweld â'r tudalennau swyddi gwag wneud ceisiadau ar-lein am unrhyw swydd wag gyda'r Cyngor. |
Newyddion am y Lama ym Mharc Gwledig Ty Mawr Mae Parc Gwledig Ty Mawr yn falch o gyhoeddi eu newydd-ddyfodiad – Laurence y Lama – sydd wedi dod i'r parc er mwyn diogelu eu defaid rhag ysglyfaethwyr nad oes croeso iddynt. |
|
|
Ar ddydd Sul, 21 Mawrth am 3.00pm, bydd Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC yn perfformio cyngerdd prynhawn arbennig, sy'n addas ar gyfer y teulu i gyd, yn Neuadd William Aston NEWI yn Wrecsam. |