Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

Newyddion Diweddaraf

Dyddiad Newyddion
29.04.10

Dechrau Gwaith Gwella Mynediad Ysgol Rhosymedre

Mae cynlluniau ar gyfer yr ysgol £5 miliwn newydd yn Rhosymedre’n gyrru ymlaen yn dda a bydd gwaith i wella’r mynediad at yr ysgol yn dechrau yn ystod gwyliau hanner tymor.

29.04.10

Gŵyl Fawr y Gwrtaith

Caiff trigolion Wrecsam eu hatgoffa i beidio â methu’r rhannu gwrtaith am ddim eto eleni yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwybod am Gompost (2il Mai - 8fed Mai 2010).

28.04.10

Gŵyl Gelfyddydau Wrecsam 2010 - Wrecsam ac Ewrop

Mae Gŵyl Gelfyddydau Wrecsam eleni’n dechrau’r penwythnos hwn ac, fel arfer, mae llawer iawn yn digwydd i’r teulu i gyd. Felly bydd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn gweld bod digon i’w wneud yn Wrecsam dros yr ychydig wythnosau nesaf.

27.04.10

Ras Hwyl Elusen y Maer 2010

Roedd mwy na 100 o bobl ar strydoedd Rhos ar ddydd Sul 18fed Ebrill i gymryd rhan yn y Ras Hwyl gyntaf erioed at Elusen Maer Cyngor Wrecsam.

23.04.10

Achlysur canol y dref yn arddangos busnesau lleol

Bydd rhai o fusnesau bach Wrecsam yn hyrwyddo eu nwyddau a gwasanaethau i siopwyr ar Sgwâr y Frenhines y Sadwrn hwn (Ebrill 24).

22.04.10

Gwaith Ffordd Canol y Dref - Gwyro Traffig

Mae modurwyr canol y dref yn cael eu rhybuddio am oediadau yr wythnos nesaf pan fydd SP Energy yn dechrau gwaith i ailosod cebl foltedd uchel sy’n gwasanaethu canol y dref.

22.04.10

Gŵyl Gelfyddau Wrecsam 2010

Unwaith eto, mae Cyngor Wrecsam wedi paratoi gŵyl sy’n llawn dop o ddigwyddiadau ar gyfer pob oedran a phob chwaeth.

21.04.10

Rownd derfynol sioe dalentau Gogledd Cymru

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae cantorion, beirdd, cerddorion ac actorion dawnus wedi bod yn ymarfer ar gyfer Gornest Dalentau Gogledd Cymru ar gyfer pobl dros 50 oed.

19.04.10

Helpu Ysgol Gynradd Gymunedol Alexandra i ddathlu ei chanmlwyddiant

Bydd Ysgol Gynradd Gymunedol Alexandra yn dathlu ei chanmlwyddiant ym mis Mehefin, ac mae’r ysgol yn galw ar gyn ddisgyblion, athrawon ac aelodau’r cyhoedd i’w helpu i ddathlu’r achlysur hanesyddol hwn.

16.04.10

Ras dros Fywyd yn Nyfroedd Alun

Mae Parc Gwledig Dyfroedd Alun yn cefnogi Ras dros Fywyd Ymchwil i Ganser y DU eleni gyda dwy ras.

16.04.10

Llyfrgell newydd… yr un gwasanaeth rhagorol

Er bod Llyfrgell Wrecsam wedi cael newydd wedd yn ddiweddar diolch i grant o £310,000 oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Llinell Fusnes ac Ewrop Uniongyrchol yn dal i ddarparu’r un gwasanaeth rhagorol.

14.04.10

Dadorchuddio Cartrefi Fforddiadwy yn Acrefair

Dadorchuddiwyd naw cartref fforddiadwy newydd i’w rhentu yn Acrefair. Datblygwyd yr eiddo, ar Stryt y Brenin, Acrefair gan Ventura Developments Limited ar ran Cymdeithas Dai Wales & West, diolch i Grant Tai Cymdeithasol o £635,000 oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.

13.04.10

Rhwydwaith ar agor i fusnes

Mae busnesau’n cael eu hannog i ofyn am gymorth a chefnogaeth trwy ymuno â grŵp rhwydweithio ar gyfer sefydliadau lleol, sy’n cael ei redeg gan Linell Fusnes Wrecsam. Mae Rhwydwaith yn cynnig cyfle i fusnesau lleol rwydweithio gyda busnesau eraill a rhoi gwybodaeth a chysylltiadau hanfodol. Bydd staff Llinell Fusnes wrth law hefyd i gynnig cyngor unigol i’r aelodau, wyneb yn wyneb.

13.04.10

Agenda Prysur i’r Pwyllgor Archwilio

Mae Pwyllgor Archwilio’r Amgylchedd ac Adfywio Wrecsam yn cyfarfod ddydd Mercher ac, ymhlith yr eitemau i’w trafod, mae Cynllun Prawf Oedran Cyngor Wrecsam a’r mesurau gorfodi rheolau yfed dan oed a gymrwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

13.04.10

Cyfrifiad 2011 – Hysbysebu am Reolwr Ardal

Bydd y nesaf cyfrifiad poblogaeth cenedlaethol yn digwydd ar 27ain Mawrth 2011 ac mae chwilio am Reolwyr Ardal i weld ei fod yn rhedeg yn esmwyth.

09.04.10

Niwsans Beiciau Modur

Mae cais i drigolion lleol helpu delio â beiciau modur a cheffylau diawdurdod ym Mharc y Ponciau.

09.04.10

Ffair Prynwyr Cartrefi’n Dod i Wrecsam

Bydd cyfle i bobl sydd eisiau prynu cartref newydd gael cyngor yr arbenigwyr yn y Ffair Prynwyr Cartrefi ar ddydd Sadwrn 17eg Ebrill.

08.04.10

Lansio DVD ‘Tyfu gyda Fi’

Mewn seremoni arbennig yn Neuadd y Dref, fe lansiodd Tîm Addysg Gynnar Cyngor Wrecsam y DVD: ‘Tyfu gyda fi’.

01.04.10

Ras Hwyl Elusen y Maer

Mae pobl Wrecsam yn cael eu hannog i wisgo’u dillad rhedeg a chymryd rhan yn Ras Hwyl agoriadol Elusen y Maer.

01.04.10

Miloedd yn heidio i’r llyfrgell ar ei gwedd newydd

Agorodd Llyfrgell Wrecsam ar ei gwedd newydd gyda chlec ar 22ain Mawrth pan dorrodd Ruth Jones y rhuban i adael i’r cyhoedd ddod i mewn a mwynhau ei gwasanaethau newydd a gwell - a daeth dros 1000 o gwsmeriaid yn yr awr gyntaf!

31.03.10

Lansio Ymgyrch Atal Trais Rhywiol trwy Dechnoleg Uwch yng Ngholeg Iâl

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam wedi cytuno cynllun gweithredu ar drais rhywiol ar gyfer 2009-2011 sy’n amlinellu gwaith i fynd i’r afael â phrofiad pobl ifanc o drais rhywiol. Yn ystod y 12 mis diwethaf mae rhanbarth dwyreiniol Heddlu Gogledd Cymru wedi cael eu hysbysu o 183 o ddioddefwyr benyw treisio / trais rhywiol. Mae 29.5% o’r dioddefwyr hyn rhwng 13 ac 16 oed.

29.03.10

Dylunio eich cerdyn llyfrgell

Mae Llyfrgelloedd Wrecsam yn galw ar blant drwy’r fwrdeistref sirol i gyd i ddechrau bod yn greadigol a dylunio cerdyn llyfrgell y plant nesaf. Mae Llyfrgelloedd Wrecsam yn galw ar blant drwy’r fwrdeistref sirol i gyd i ddechrau bod yn greadigol a dylunio cerdyn llyfrgell y plant nesaf.

29.03.10

Dyfarniad ActiveMarc Cymru

Mae tair o ysgolion Wrecsam wedi cyflawni ActiveMarc Cymru am eu hymroddiad i ddarparu Addysg Gorfforol, Chwaraeon Ysgol a Gweithgarwch Corfforol o safon.

29.03.10

Operation Gingerbread – allan mewn grym

Bydd Operation Gingerbread, yr arweiniad a sefydlwyd i ymladd yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol i adeiladau ysgolion yn dal i redeg yn y Fwrdeistref Sirol drwy gydol gwyliau’r Pasg.

25.03.10

Mwy o Barthau 20 mya ar gyfer Ysgolion Wrecsam

Ysgol Eutun yn Wrecsam yw’r ysgol ddiweddaraf i fanteisio ar cyfyngiad cyflymder 20 mya a gyflwynwyd gan Gyngor Wrecsam. Mae’r gwaith yn cwblhau rhaglen waith 2009/10 lle gwelwyd 12 ysgol yn elwa ar parthau 20 mya.

25.03.10

Y Gruffalo ar frig Amserlen Hwyl Hurt y Pasg

Bydd y Gruffalo’n dod i Lyfrgell Wrecsam fel rhan o amserlen Hwyl Hurt y Pasg llawn mynd. Mae stori Julie Donaldson o lygoden sy’n dyfeisio straeon rhyfeddol i osgoi cael ei bwyta gan liaws o anifeiliaid wedi gwerthu dros 10 miliwn o gopïau, wedi ennill amryw wobrau am lenyddiaeth plant ac wedi cael ei gwneud yn ddrama yn y West End ac ar Broadway.

25.03.10

Ailwampio’r Amgueddfa ar y Gweill

Dechreuodd gwaith ar weddnewid Amgueddfa Wrecsam yn gyfleuster ymhlith y diweddaraf. Dechreuodd contractwyr ISG weithio ar 8fed Mawrth, gyda gwaith adeiladu wedi’i drefnu i bara tan ddiwedd Awst.

24.03.10

Llwyddiant CGC i Karl

Dyn lleol yw’r cyntaf i gael CGC Fframwaith II mewn Dosbarthu a Warysau, gydag ychydig o help gan ITeC Wrecsam.

23.03.10

Gorymdaith Ddychwelyd Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig

Bydd Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig yn gorymdeithio trwy Wrecsam ar 25ain Mawrth i nodi eu dychwelyd o Afghanistan lle bu’n gwasanaethu fel rhan o 19 Brigâd Ysgafn, seiliedig yn nhalaith Helmand.

23.03.10

Mae Llyfrgell Wrecsam yn agored yn swyddogol!

Naeth Ruth Jones, actores ac awdures Gavin & Stacey, dod i Wrecsam i agor llyfrgell y dref sydd newydd gael ei hailwampio.

22.03.10

Gwaith yn Dechrau yn Ysgol Maelor Llannerch Banna

Mae gwaith adeiladu ar neuadd chwaraeon newydd sbon a chyfleusterau cysylltiedig wedi dechrau yn Ysgol Maelor yn Llannerch Banna.

18.03.10

Darpariaeth Chwarae Mynediad Agored

Bydd prosiectau chwarae mynediad agored yn rhedeg mewn mannau amrywiol drwy’r rhanbarth cyfan dros y gwyliau ysgol sydd ar ddod, gan gynnwys gwyliau’r Pasg. Bwriad y cynlluniau yw annog mwy o blant i chwarae allan yn eu cymuned leol.

18.03.10

Awr Ddaear WWF – 27 Mawrth 2010, 8.30pm

Cyngor Wrecsam yn cefnogi’r ymgyrch Awr Ddaear WWF.

17.03.10

Agoriad swyddogol Llyfrgell Wrecsam

Mae trigolion Wrecsam yn cael eu hannog i gymryd rhan yn agoriad swyddogol Llyfrgell Wrecsam.

17.03.10

Cyngor Wrecsam yn Erlyn Twyllwyr Budd-daliadau

Cafodd dau dwyllwr budd-daliadau eu herlyn yn llwyddiannus gan Gyngor Wrecsam yn Llys Ynadon Wrecsam.

16.03.10

Darllenwch Eich Sticeri Bin i weld Newidiadau Gŵyl Banc y Pasg

Bydd y Pasg yma cyn bo hir ac mae Cyngor Wrecsam yn gofyn i bawb ddarllen eu sticeri bin i sicrhau nad ydynt yn methu unrhyw gasgliadau. Yn wythnos gyntaf y gwyliau bydd y casgliadau ddiwrnod yn gynharach ac yn yr ail wythnos byddant ddiwrnod yn hwyrach.

15.03.10

Gwaith yn Dechrau yn Darland

Mae gwaith ar godi adeilad gwyddoniaeth a dwy ystafell TGCh wedi dechrau yn Ysgol Darland yn yr Orsedd.

15.03.10

Digwyddiadau treftadaeth yn symud allan i’r gymuned

Mae gwahoddiad i bobl sydd â diddordeb mewn hanes lleol ddod sgwrs am ddim am un o berlau cudd Wrecsam. Bydd Fforwm Treftadaeth Wrecsam yn cynnal ei gyfarfod cyntaf am y flwyddyn yn Nhŷ’r Eglwys, ar y Green, Gresffordd, ar Ddydd Mawrth, 23 Mawrth am 7pm, gydag arbenigwr lleol Sue Kelly yn cloddio i hanes yr adeilad diddorol hwn.

11.03.10

Cynllun grant i fanteisio cymunedau yng Ngorllewin Wrecsam

Unwaith eto gall grwpiau cymunedol yng Ngorllewin Wrecsam gael hyd at £250 i’w helpu gyda’u gweithgareddau.

10.03.10

Tîm Arlwyo’n Ennill Prif Wobr

Cafodd Tîm Arlwyo Ysgol Heulfan ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol am ei wasanaeth rhagorol i ddisgyblion.

05.03.10

Adolygiad Achos Difrifol ar Blentyn 2

Cyhoeddwyd Crynodeb Gweithredol Adroddiad Adolygiad Achos Difrifol dan arweiniad Bwrdd Lleol Diogelu Plant Wrecsam (LSCB).

04.03.10

Pencampwr Cystadleuaeth Selsig

Mae cystadleuaeth selsig flynyddol Wrecsam wedi dod â llwyddiant triphlyg i Siop Fferm Lewis. Bachodd y cigydd o Eutun y fedal uchaf ymhob un o’r tri chategori, oedd yn cynnwys ‘Selsig Porc Traddodiadol Gorau’, ‘Selsig Arbenigol Gorau’ a’r ‘Enillydd At Ei Gilydd’. 

04.03.10

Gwasanaeth Gostyngol nes bydd y Llyfrgell yn Ailagor

Bydd llyfrgell Wrecsam yn ailagor ei drysau i’r cyhoedd ar 22ain Mawrth yn dilyn ailwampio.

03.03.10

Trigolion yn cael dweud eu dweud ar hen swyddfeydd y cyngor

Mae pobl leol yn cael dweud eu barn ar sut i anadlu bywyd newydd i hen swyddfeydd y cyngor yn y Waun

03.03.10

Cyngor Cymuned Offa’n Cyhoeddi Cyfraniad i Gronfa Eisteddfod 2011

Heddiw (22 Chwefror 2010), cyhoeddodd Cyngor Offa eu bod yn cyfrannu cyfanswm o £9,000 i goffrau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro, a gynhelir o 30 Gorffennaf – 6 Awst 2011.

02.03.10

Cyhoeddi Mwy o Arian i Ffordd y Stad Ddiwydiannol

Daeth Ffordd Fynediad Stad Ddiwydiannol Wrecsam gam yn nes at ei gwireddu heddiw yn dilyn cyhoeddiad y Cynulliad Cenedlaethol i Gyngor Wrecsam y bydd yn parhau cymorth ariannol ar gyfer 2010/11.

Archif Newyddion

yn ôl i'r brig