Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
| Dyddiad | Newyddion |
|---|---|
| 27.06.09 |
Mae arweinwyr dyfrffyrdd, prif swyddogion y cyngor a chymunedau lleol heddiw yn dathlu’r newyddion fod Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd. |
| 16.06.09 |
Caiff ‘Gwasanaeth Coffa Blynyddol’ Mynwent Wrecsam (Pentrebychan), ei gynnal eleni yng Nghapel yr Amlosgfa ddydd Sul 5 Gorffennaf 2009, am 2.00 pm, ym mhresenoldeb Anrhydeddus Faer Wrecsam, y Cynghorydd Arwel Gwynn Jones. |
| 12.06.09 | Datganiad i’r Wasg Cyngor Cymuned Esclusham Mae cefnogaeth i ymgais Wrecsam Cymru yn ei Blodau yn prysur gynyddu ledled ward Cyngor Cymuned Esclusham. Mae nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau cymunedol wedi eu cynllunio i sicrhau bod ymgais eleni yn wirioneddol ymdrech ar y cyd. |
| 12.06.09 | Gwahodd y gymuned i ddathlu ailagor y parc Cynhelir penwythnos arbennig o weithgareddau cymunedol ym Mharc y Ponciau y penwythnos hwn i ddathlu ailagor y parciau ar ôl gwaith adnewyddu helaeth. |
| 12.06.09 |
Mae adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mewn partneriaeth â Golff Cymru, Clwb Golff Clays Farm a Choleg Iâl wedi llwyddo i ennill Gwobr Critchley. |
| 11.06.09 | Pen-blwydd 12 mis Plas Pentwyn Mae Plas Pentwyn, Canolfan Fenter a Dysgu Gydol Oes Coedpoeth wedi bod ar agor am flwyddyn bellach ac mae’n parhau i ddatblygu rhaglenni i’r gymuned leol. |
| 05.06.09 |
Mae rhan o gynsafle gwaith dur a chronfa ddwr wedi ei thrawsnewid yn ardal o barcdir a phwll pysgota i’w ddefnyddio gan y gymuned leol. |
| 02.06.09 | Wythnos Gofalwyr Gendlaethol - Mehefin 8- 14 Sesiwn holi ac ateb gyda phanel o arbenigwyr yw un o’r digwyddiadau a gynlluniwyd i Ofalwyr yn Wrecsam fel rhan o ddathliadau Wythnos Gofalwyr Genedlaethol. |
| 01.06.09 | Diwrnod Allan yn Wrecsam – Mehefin 6 Bydd cerddoriaeth fyw, helfa drysor, gwneud barcutiaid, ac ysgytffrwythau ar gael am ddim fel rhan o Ddiwrnod Allan yn Wrecsam, sef achlysur cymunedol arbennig a fydd yn digwydd ddydd Sadwrn 6 Mehefin yn Llwyn Isaf a Sgwâr y Frenhines. |
| 28.05.09 |
Penodwyd y Cynghorydd Arwel Gwynn Jones a’i wraig Mair fel Maer a Maeres newydd Wrecsam mewn seremoni arbennig yn Neuadd y Dref. |
| 27.05.09 | Agoriad swyddogol gardd Lle i Enaid Gael Llonydd ym Melin y Nant Ddydd Sadwrn 6 Mehefin bydd yr artist amgylcheddol Lesley Martin yng Nghanolfan Ymwelwyr Melin y Nant i ddathlu agoriad swyddogol Gardd Fywyd Gwyllt Newydd y BBC sef Lle i Enaid Gael Llonydd. |
| 15.05.09 |
Bydd bwystfilod cynhanesyddol yn dod yn fyw fel rhan o arddangosfa ‘Deinosoriaid yn Eich Gardd’ yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam. |
| 13.05.09 |
Mae’r trigolion cyntaf wedi symud i mewn i un o’r tai fforddiadwy newydd, a brynwyd gan ddefnyddio arian grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Derbyniodd teulu Howell yr allweddi i’w heiddo newydd yng Ngerddi Fictoria yn Wrecsam yr wythnos ddiwethaf. |
| 13.05.09 | Hwb Ariannol i Lyfrgell Wrecsam gan Lywodraeth Cynulliad Cymru Llyfrgell Wrecsam a Llyfrgell Owrtyn. Bydd gwelliannau mawr yn Llyfrgell Wrecsam, hynny yw yn ei hymddangosiad a’r cyfleusterau sydd ar gael yno, a bydd gwelliannau yn ymddangosiad llyfrgell Owrtyn a bydd gwelliant yn y stoc sydd ar gael. |
| 12.05.09 |
Agorwyd mynwent newydd Wrecsam yn Ffordd Plas Acton, Pandy yn swyddogol gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd David Griffiths. Dynodwyd yr achlysur hanesyddol drwy blannu Coeden Geirios flodeuog. |
| 07.05.09 | Helpwch ni wneud Race for Life ddigwydd Race for Life Wrecsam - Parc Gwledig Dyfroedd Alun, 21fed o Fehefin 2009. Rydyn ni'n dibynnu ar bobl fel chi I rhoi eich amser a'ch egni I wneud ein digwyddiadau y llwyddiant mae nhw |
| 01.05.09 | Dirwyo cwmni am beidio â chydymffurfio â Rhybudd Gorfodi Cynllunio Cafwyd Bridge Street Property (Wrexham) Limited yn euog o fethu â chydymffurfio â Rhybuddion Gorfodi Adeiladau Rhestredig o ran Adeiladau Burton, Stryt y Bont, Wrecsam yn Llys Ynadon Wrecsam. |
| 01.05.09 |
Gofynnir i gartrefi yn Wrecsam wirio eu sticeri bin dros y Gwyl Banc. |