Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
| Dyddiad | Newyddion |
|---|---|
| 30.06.10 | Dyn yn Pledio’n Euog i Dwyll Trwsio To Plediodd trwsiwr toeau’n euog o droseddau yn erbyn Rheoliadau Gwarchod Defnyddwyr a Deddf Twyll yn Llys Ynadon Wrecsam ar 10 Mehefin 2010. |
| 29.06.10 | Partneriaeth gyntaf rhwng HSE a Chyngor Wrecsam Ar y 28ain Mehefin 2010, llofnododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam addewid y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch i chwalu’r chwedlau o gwmpas iechyd a diogelwch a defnyddio synnwyr cyffredin. Roeddent yn addo chwarae eu rhan wrth leihau nifer y marwolaethau, anafiadau ac afiechydon cysylltiedig â gwaith ym Mhrydain trwy roi iechyd a diogelwch wrth galon yr hyn a wnânt. |
| 28.06.10 | Yr Awdurdod a’r Heddlu’n Cydweithio i Ymosod ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam wedi cytuno’n ffurfiol i adnewyddu trefniadau gyda Heddlu Gogledd Cymru ac Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru i roi cymorth ariannol am 3 blynedd arall tuag at gyflogi 48 Swyddogion Cefnogi Cymunedau’r Heddlu (PCSO) ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol. |
| 28.06.10 |
Mae plant o bob rhan o’r wlad wedi bod yn helpu dathlu Diwrnod Cenedlaethol Dechrau Da. |
| 28.06.10 | Atgofion o Wrecsam ar gyfer Achlysur Eisteddfodol Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Wrecsam y flwyddyn nesaf ac, i hyrwyddo’r ardal yn achlysur eleni yng Nglynebwy, mae cyflwyniad yn cael ei baratoi i arddangos sut mae Wrecsam wedi newid drosodd y 40 neu 50 mlynedd diwethaf. |
| 24.06.10 | Mwy a Mwy’n Defnyddio’r Parciau Gwledig Mae nifer y bobl sy’n ymweld â Pharciau Gwledig Wrecsam wedi cynyddu’n gyflym dros y flwyddyn aeth heibio.Cynyddodd ffigurau defnyddio Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Parc Gwledig Tŷ Mawr a Chanolfan Ymwelwyr Melin y Nant y llynedd. |
| 24.06.10 | Gwraig o Llai’n pledio euog o hawlio £35,000 yn anonest mewn budd-daliadau Plediodd Sarah Tyler o Llai, Wrecsam yn euog yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug o hawlio Budd-dal Tai, Budd-dal Treth y Cyngor a Chymhorthdal Incwm yn anonest. Roedd hyn yn ymchwiliad ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Adran Gwaith a Phensiynau. |
| 23.06.10 |
Daliodd Clwb Nofio Wrecsam ymlaen â’i hanes da diweddar gyda chasgliad trawiadol arall o fedalau mewn gala nofio a gynhaliwyd yn y Byd Dwr yn Wrecsam. |
| 23.06.10 |
“Mae pobl Wrecsam driw a rêl iawn gyda chalon fawr a breichiau agored.” ...Dyna’r neges a ddaeth o gymuned ffoaduriaid Wrecsam yn dilyn yr Wythnos Ffoaduriaid lwyddiannus a gynhaliwyd yn ddiweddar. Trefnwyd yr achlysuron gan Fforwm Amrywiaeth Ffoaduriaid Wrecsam, gyda chefnogaeth Un Wrecsam, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Grwp Cefnogi Ffoaduriaid a Cheisiwr Lloches Wrecsam. |
| 22.06.10 | Cerddoriaeth yn y Parciau 2010 Mae’r cyngherddau poblogaidd ‘Cerddoriaeth yn y Parc’ yn dychwelyd i’r Parciau, Wrecsam, ar ddydd Gwener 25ain Mehefin. Erbyn hyn mae’r cyngherddau, a drefnwyd gan Wasanaeth Parciau a Chefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mewn partneriaeth â Chyfeillion y Parciau, yn eu hwythfed flwyddyn. Mae cyfanswm o bump o gyngherddau nos Wener gydag amrywiaeth o berfformwyr, yn rhedeg o Jazz i Roc. |
| 21.06.10 |
Mae’r rhai sy’n anelu’n uchel yn Ysgol Maelor yn paratoi i ddathlu blwyddyn arall o lwyddiant mewn cymwysterau galwedigaethol wrth iddynt baratoi ar gyfer Diwrnod VQ 2010 ar 23ain Mehefin. Bydd cyfres o gynulliadau’n cydnabod cyraeddiadau dysgwyr galwedigaethol fel rhan o achlysur cenedlaethol i dynnu sylw at gyrsiau galwedigaethol. |
| 18.06.10 | Wythnos Genedlaethol Tynnu Sylw at Fwydo ar y Fron (21-27 Mehefin) Trefnwyd cyfres o achlysuron yn Wrecsam i gyd-ddigwydd ag Wythnos Genedlaethol Bwydo ar y Fron, sy’n rhedeg rhwng 21 a 27 Mehefin. Bwriad yr wythnos yw tynnu sylw at fuddiannau iechyd bwydo ar y fron, cynyddu derbyniad cymdeithasol o fwydo ar y fron a hyrwyddo cefnogi bwydo ar y fron. |
| 18.06.10 |
Os oes gennych gar neu feic ac eisiau ennill trysor cudd yna cofiwch fod yn Llyfrgell y Waun ar ddydd Iau 1 Gorffennaf am 6.30pm. |
| 18.06.10 |
Mae Ysgol Darland yn yr Orsedd mae wedi cael ei chanlyniadau Cyfnod Allweddol 3 gorau erioed ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 9 ac mae’r ysgol mewn hwyl i ddathlu. |
| 16.06.10 |
Cyn bo hir bydd prosiect ar gael yn Wrecsam sy’n torri tir newydd wrth anelu at leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy chwaraeon. |
| 16.06.10 |
Mae’n Wythnos Ailgylchu rhwng 21 a 27 Mehefin a bydd Swyddogion Ailgylchu Wrecsam o gwmpas yn hybu ailgylchu gwastraff bwyd ac yn annog trigolion i ddidoli eu gwastraff cyn iddo fynd i’r sgipiau gwastraff cyffredinol. |
| 15.06.10 | Baner Diwrnod y Lluoedd Arfog i chwifio ar Ddydd Llun 21ain Mehefin Bydd Cyngor Wrecsam yn codi baner Diwrnod y Lluoedd Arfog ar ddydd Llun 21ain Mehefin, 2010 am 10.30 y bore yn Neuadd y Dref i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog. |
| 14.06.10 | Myfyrdodau ar Fannau Sanctaidd Bydd cyfarfod nesaf Fforwm Treftadaeth Wrecsam yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 17 Mehefin am 7pm yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, Y Waun a bydd yn edrych ar Fannau Sanctaidd Wrecsam. |
| 11.06.10 | Eisteddfod Genedlaethol - Seremoni Cyhoeddi O leiaf flwyddyn a diwrnod cyn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, mae traddodiad yn dweud bod rhaid ei chyhoeddi’n swyddogol gyda Defod y Cyhoeddi. Ar 3 Gorffennaf, ar Lwyn Isaf, dyma’n union beth fydd yn digwydd yn Wrecsam, a bydd cyfle i drigolion gael blas o’r hyn sy’n eich aros yn 2011. |
| 11.06.10 | Gwaith yn Dechrau ar Gynllun Gofal Ychwanegol Daeth y tîm tu ôl i Gynllun Gofal Ychwanegol £7.7 miliwn ar gyfer pobl hŷn ym Mhlas Madoc, Wrecsam i achlysur arbennig i nodi dechrau gwaith ar y datblygiad arloesol. |
| 11.06.10 | 30 o Bobl Ifanc i Gael Profiad Gwaith Dros y misoedd a ddaw bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Groundwork yn gweithio mewn partneriaeth i gynnig cyfle i hyd at 30 o bobl ifanc gael profiad gwaith ymarferol gyda Chyngor Wrecsam. |
| 10.06.10 |
Mae Meithrin Sgiliau ITeC Wrecsam wedi sgorio llwyddiant dwbl gyda dau ddysgwr oedd yn dilyn y rhaglen. |
| 10.06.10 | Grantiau Cronfeydd Deddf Eglwys Cymru ar Gael Mae Cyngor Wrecsam yn gwahodd ceisiadau am grantiau o Gronfeydd Deddf Eglwys Cymru. |
| 09.06.10 | Cartrefi fforddiadwy ar gael ar Ffordd Rhuthun Mae Cyngor Wrecsam wedi ymuno â Redrow Homes i ddod â mwy o gartrefi fforddiadwy i’r Fwrdeistref Sirol. Mae’r awdurdod wedi sicrhau cyfanswm o 14 eiddo ar ddatblygiad newydd Redrow ym Mhentre Bach, Ffordd Rhuthun – 13 rhandy ac 1 tŷ. |
| 09.06.10 | Cymru (a Wrecsam) ar y blaen o ran defnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus Llyfrgell Wrecsam yw’r llyfrgell brysuraf ond un yng Nghymru yn ôl ffigurau a ryddhawyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth. Y llyfrgell brysuraf yng Nghymru oedd Abertawe, gyda thros 565,000 o fenthyciadau, yna Wrecsam (354,754) a Llyfrgell Ganolog Caerdydd (351,680). |
| 09.06.10 | Allwch chi Lwyddo’r Prawf Dinasyddiaeth? Fel rhan o Wythnos Ffoaduriaid mae trigolion yn Wrecsam yn cael rhoi cynnig ar sefyll Prawf Dinasyddiaeth y Swyddfa Gartref. Er mai bwriad hyn yw rhoi tipyn o hwyl i drigolion, mae Ffoaduriaid yn gorfod llwyddo’r prawf hwn fel rhan o’r broses i aros yn barhaol yn y DU. |
| 08.06.10 | Wythnos Gofalwyr Wrecsam 2010 (Mehefin 14-20) Mae Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam wedi trefnu cyfres o achlysuron i gyd-ddigwydd ag Wythnos Genedlaethol Gofalwyr, sy’n rhedeg rhwng 14eg ac 20fed Mehefin. Bwriad yr wythnos yw dathlu a thynnu sylw at gyfraniad anhygoel gofalwyr, gan rannu’r profiadau cadarnhaol yn ogystal â’r rhai anoddach. Yr amcangyfrif yw bod chwe miliwn o bobl ar hyd a lled y DU yn gofalu heb ei dâl am rywun. |
| 07.06.10 | Wythnos Ffoaduriaid yn Wrexham14 - 20 Mehefin Rhaglen o achlysuron celfyddydol, diwylliannol ac addysgol dros y DU gyfan yw Wythnos Ffoaduriaid sy’n dathlu cyfraniad ffoaduriaid i’r DU, ac sy’n annog gwell dealltwriaeth rhwng cymunedau. Mae Wythnos Ffoaduriaid 2010 yn digwydd o 14eg i 20fed Mehefin ac mae rhaglen o ddigwyddiadau yn Wrecsam. |
| 04.06.10 |
Bydd Llyfrgelloedd Wrecsam yn cynnal arwerthiant o lyfrau wedi’u tynnu o’r stoc yn hen safle Kwiksave yn Stryt Caer yr wythnos nesaf. Bydd yr arwerthiant yn dechrau dydd Llun, 7 Mehefin, ac yn gorffen ddydd Gwener, 11 Mehefin. Oriau agor yr arwerthiant yw 10.00am -4.00pm bob dydd. |
| 02.06.10 | Cigydd o Wrecsam yn rhoi gwefan bwyd lleol ar y fwydlen Mae cigydd gwobrwyol o Wrecsam ymysg y cyntaf i ymddangos ar wefan newydd arbennig ar gyfer hyrwyddo bwyd lleol tan gamp. |
| 02.06.10 | Grwp Ecolegol yn Ymweld â Safle Codi Adeilad Gwyddoniaeth Newydd Yn ddiweddar ymwelodd Aelodau Grwp Ecolegol Ysgol Darland â’r gwaith adeiladu sydd ar y gweill yn yr ysgol i godi adeilad gwyddoniaeth newydd 2 lawr ac ystafelloedd TGCh. |
| 02.06.10 | Gwelliannau ffyrdd gwerth £2.3 miliwn yn dechrau’r mis yma Bydd gwaith yn dechrau’r mis yma ar drwsio a gwella ffyrdd Wrecsam yn dilyn tywydd garw’r gaeaf a bydd yn parhau tan fis Tachwedd. |
| 02.06.10 | Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ‘Tu Ôl i Bob Seren’ Wrth danio’r ergyd gychwyn ar ymgyrch Chwaraeon Cymru i ddathlu a chydnabod effaith hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ar chwaraeon yng Nghymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei chefnogi gan obeithio y bydd y gymuned leol yn cael ysbrydoliaeth i gymryd rhan. |
| 01.06.10 | Ffordd Fynediad yn nodi Dechrau Gwaith ar Ysgol Rhosymedre Bydd gwaith yn dechrau ar wella’r mynediad at Ysgol Rhosymedre fel y trefnwyd yn ystod yr egwyl hanner tymor. |
| 01.06.10 | Lleoliad Newydd i Undeb Credyd Wrecsam Mae Undeb Credyd Wrecsam wedi symud i le newydd ar Stryt y Brenin yng nghanol tref Wrecsam. |
| 28.05.10 | Ydych Chi’n Hapus Efo’r Cynllun Bydd cyfle i ymgynghori’n llawn â’r cyhoedd ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd dros chwe wythnos o ddydd Gwener 4ydd Mehefin i ddydd Gwener 16eg Gorffennaf. Dyma’r cyfle i drigolion Wrecsam roi eu barn ar y Cynllun. |
| 27.05.10 | Dangos y Drws i Drosedd ar Stepen y Drws yng Nghymru! Mae ymgyrch ymwybyddiaeth i helpu lleihau trosedd ar stepen y drws wedi cael ei lansio yn Venue Cymru, Llandudno. Bydd yr ymgyrch gwbl ddwyieithog yn darlledu hysbysebion teledu i lolfeydd ac yn postio cannoedd ar filoedd o lythyrau i bobl drwy gydol mis Mai a Mehefin eleni. |
| 27.05.10 |
Cafodd ymdrechion dau o weithwyr ieuenctid Wrecsam eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol. |
| 26.05.10 |
Bydd Wythnos Genedlaethol y Teulu, dathliad mwyaf y DU o fywyd teuluol, yn dechrau dros wyliau hanner tymor yr haf rhwng 31ain Mai a 6ed Mehefin gyda dros 5000 o ddigwyddiadau a gweithgareddau teg i’r teulu ar hyd a lled y wlad. |
| 25.05.10 |
Sefydlwyd y Cynghorydd Jim Kelly a’i wraig Elizabeth fel Maer a Maeres newydd Wrecsam mewn seremoni arbennig yn Neuadd y Dref. |
| 24.05.10 | Gwneud Carnifal gyda Mini Gorymdaith Mae plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn carnifal arbennig fel rhan o Ŵyl Gelfyddydau Wrecsam eleni. |
| 21.05.10 | Newid Gwasanaeth Warden Gwarchod i Wasanaethu Mwy o Henoed Mae Cyngor Wrecsam yn gwneud ei orau i wella gwasanaethau i Bobl Hyn ac mae wedi nodi cynyddu nifer y Bobl Hyn sy’n cael cefnogaeth i fyw gartref fel Blaenoriaeth Wella Gorfforaethol. |
| 21.05.10 | Gymnastwyr Ysgol Maelor yn Llamu Ati Cynrychiolodd Ysgol Maelor yn Llannerch Banna Gymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Cymdeithas Gymnasteg Ysgolion Prydain yn gynharach yn y mis gyda’u Tîm Cymysg Llawr a Llofnaid Dan 19 a Pharau Acrobatig Dros 13 a Than 13. Roedd y gymnastwyr hyn i gyd eisoes yn Bencampwyr Ysgolion Cymru 2010 ac yn cynrychioli Cymru yn y rownd derfynol. |
| 20.05.10 | Rygbi’r Cynghrair yn cael ei Ragbrofi yn Ysgolion Wrecsam Lansiwyd cynllun rhagbrofol i ddysgu rygbi’r cynghrair yn ysgolion Wrecsam gyda chymorth tîm rygbi’r Crusaders. |
| 19.05.10 | Rhaglen grantiau i roi hwb i ardaloedd gwledig Lansiwyd cynllun grant newydd i roi hwb i wasanaethau hanfodol yng nghefn gwlad Wrecsam. |
| 19.05.10 | Partneriaeth yn bwriadu torri’r cylch dyled ac amddifadedd Mae ymgyrch newydd i helpu pobl reoli eu harian a thorri cylch dyled ac amddifadedd ar y gweill yn Wrecsam. |
| 19.05.10 | Cyhoeddi Gwobrau Trefi Taclus 2010 Bydd cymunedau ymhob cwr o Wrecsam yn elwa ar gyllid Trefi Taclus eto, yn dilyn cyhoeddi gwobrau eleni. |
| 18.05.10 | Mwy o Welliannau i Gasgliadau Gwastraff Bwyd Mae Cyngor Wrecsam yn mynd i gyflwyno gwelliannau i’r casgliadau gwastraff bwyd yn Wrecsam. Mae’r newid cyntaf yn effeithio ar holl drigolion fydd, o fis Mehefin ymlaen, yn gallu defnyddio bagiau pydradwy ar gyfer eu gwastraff bwyd y mae modd eu rhoi yn y bin gwyrdd. |
| 17.05.10 | Ardal Gadwraeth Bangor Is-coed Dynodwyd Ardal Gadwraeth Bangor Is-coed ym mis Mawrth 1971. Mae’r Ardal Gadwraeth yn cwmpasu calon y pentref yng nghysgod eglwys Dunawd Sant, gyda’i thŵr o’r 18fed ganrif yn ffurfio nodwedd neilltuol ar y gorwel. |
| 14.05.10 |
Anrhydeddwyd Geraint Jones, y Rheolwr Rhwydwaith blaenorol yn Wrecsam, â gwobr i gydnabod ei “gyfraniad neilltuol” i Awdurdodau Priffyrdd y Deyrnas Unedig gan Grwp Awdurdodau ar y Cyd (JAG) y DU. |
| 14.05.10 | Llannerch Banna’n Ymfalchïo mewn Ysgol “Eithriadol” Mae Llywodraethwyr a Staff Ysgol Gynradd Madras yn Llannerch Banna’n falch bod yr adroddiad arolwg diweddar Estyn arnynt wedi nodi bod hon yn “ysgol dda gyda llawer o nodweddion nodedig.” |
| 13.05.10 |
Lansiwyd fforwm newydd unswydd ar gyfer hyrwyddo’r celfyddydau yn Wrecsam i gyd-ddigwydd â Gŵyl Gelfyddydau Wrecsam eleni. Daeth aelodau grwpiau celf lleol, yn ogystal â chynrychiolwyr y sectorau masnachol ac addysg i’r lansio, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Glyndŵr. |
| 13.05.10 |
Dydd Sadwrn 22ain Mai 2010 – Dechrau am 6.00pm. Heliwch eich traed am y Cae Ras ar gyfer gêm rygbi’r cynghrair llawn antur pan fydd y Croesgadwyr yn croesawu tîm blaenllaw Wigan Warriors i’r Cae Ras yn Wrecsam. |
| 12.05.10 | Cyngor Yn Cael Dyfarniad Parcio Mwy Diogel Yn ddiweddar cafodd wyth o feysydd parcio’r Cyngor yn gwasanaethu canol tref Wrecsam eu hachredu am flwyddyn arall gyda dyfarniad parcio mwy diogel ParkMark®. |
| 11.05.10 |
Bydd disgyblion yn un o ysgolion Wrecsam yn cael awgrymiadau ar sut i baratoi prydau iach pan ddaw’r bws coginio heibio. |
| 10.05.10 | Lansio Prosiect Sicrwydd Cymunedol Yn ddiweddar cafodd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam arian Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu prosiect fydd yn rhoi sicrwydd cymunedol i bobl hŷn yn y Fwrdeistref Sirol. Lansiwyd y prosiect yn Stiwt y Rhos. |
| 10.05.10 | Sesiwn Flasu Powliau Grîn Gefngrom Am Ddim Ydych chi’n ffansïo dysgu sut i chwarae powliau? Dyma eich cyfle. Mae Parc Bellevue yn cynnal sesiwn flasu, gan roi cyfle i bobl ddod i roi cynnig arni. |
| 07.05.10 | Gwaith ar Ysgolion Uwchradd yn Symud Ymlaen yn Dda Mae Cyngor Wrecsam yn hysbysu bod gwaith adeiladu ar bob un o’r tair ysgol uwchradd lle mae gwaith adeiladu ac ailwampio’n symud ymlaen yn dda. |
| 05.05.10 | Cyfarfod Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam Mae’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i gyfarfod nesaf Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 2.00pm ar ddydd Gwener 14eg Mai 2010 yn y Ganolfan Addysg ym Mharc Gwledig Melin y Nant. |
| 04.05.10 | Cyfle i ennill tocynnau i weld y Crusaders yn erbyn Dreigiau Catalan! Peidiwch â methu gêm gyntaf erioed Cwpan Her Carnegie i'w chynnal ar y Cae Ras. |