Archif Newyddion

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

Mai - Mehefin 2011

Dyddiad Newyddion
30.06.11

Adnewyddu’r Maes Chwarae yn Nhy Mawr

Gall ymwelwyr iau â pharc gwledig Ty Mawr fanteisio ar offer chwarae newydd erbyn hyn yn dilyn cwblhau rhaglen adnewyddu gwerth £35,000 a ariannwyd gan Gronfa Cymunedau Tirlenwi’r Grwp Ailgylchu Gwastraff, dan weinyddiaeth WREN a Chyngor Wrecsam.

30.06.11

Pafiliwn Pinc Wrecsam Yn Ei Le

Mae'r Eisteddfod ar y gorwel ac ar ei ffordd i Wrecsam, wrth i'r Pafiliwn Pinc gael ei godi ar y Maes yn Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, heddiw. Mae gan yr awyr uwchben tref Wrecsam wyth o dyrrau newydd erbyn hyn ac fe fydd y rhain yn aros yno tan ar ôl y Brifwyl a gynhelir o 30 Gorffennaf – 6 Awst.

29.06.11

Cyngor Wrecsam yn Ennill Gwobr Gofal Cymdeithasol 2011

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dathlu wedi i’w brosiect i wella’r cymorth i bobl ag anableddau dysgu ennill gwobr gofal cymdeithasol glodfawr.

29.06.11

Cyfeillgarwch, Rhagoriaeth a Pharch: Mascot y Gemau Olympaidd yn ymweld ag ysgol yn Wrecsam

Wenlock yw mascot Gemau Olympaidd Llundain 2012, a fe aeth e draw i weld y disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro. Hi yw'r ysgol gyntaf yng Ngogledd Cymru iddo ymweld â hi.

29.06.11

Yr Eisteddfod – Hysbysiad Ymlaen Llaw am Gyfyngiadau Traffig

Wrth i Eisteddfod Genedlaethol 2011 baratoi i agor ei gatiau yn Wrecsam ar 30 Gorffennaf, mae’r trefnwyr wedi rhyddhau manylion y cyfyngiadau traffig a fydd ar waith yn ystod y digwyddiad. Cynhelir yr Eisteddfod ar Fferm Bers Isaf ar y caeau rhwng yr A525 Ffordd Rhuthun a’r B5099 Ffordd y Bers. Bydd yn gorffen ar 6ed Awst.

29.06.11

Cyfeillgarwch, Rhagoriaeth a Pharch: Mascot y Gemau Olympaidd yn ymweld ag ysgol yn Wrecsam

Wenlock yw mascot Gemau Olympaidd Llundain 2012, a fe aeth e draw i weld y disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro. Hi yw’r ysgol gyntaf yng Ngogledd Cymru iddo ymweld â hi.

29.06.11

Cyfle olaf i enwebu Cludwr y Fflam Olympaidd

Anogir trigolion Wrecsam i enwebu cludwr y fflam Olympaidd wrth i’r dyddiad cau brysur nesáu.

29.06.11

Safle Fflatiau Hightown - Newid yr Olygfa

Mae’r gwaith dymchwel ar hen safle’r fflatiau yn Hightown wedi ei orffen erbyn hyn ac mae’r lle wedi ei roi’n ôl i Gyngor Wrecsam sy’n ystyried y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer tai fforddiadwy ar y safle.

28.06.11

Tlws Golff Carlsberg

Mae cystadleuaeth flynyddol Tlws Golff  Carlsberg yn ei hôl ar gyfer 2011! Ar ddydd Mercher Awst 24ain, 2011 bydd Clwb Golff Wrecsam ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal y digwyddiad enwog, sy’n cael ei noddi gan Carlsberg UK.

20.06.11

Cynnig arbennig – dau am bris un i drigolion Wrecsam

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi lansio cynllun dau docyn am bris un ar gyfer trigolion ardal Wrecsam, ar gyfer penwythnos cyntaf y Brifwyl eleni a gynhleir o 30 Gorffennaf – 6 Awst.

20.06.11

Cerddoriaeth yn Y Parciau 2011

Unwaith eto bydd Y Parciau yn cynnal eu cyngherddau poblogaidd ‘Cerddoriaeth yn y Parc’ a bydd y cyngerdd cyntaf ar nos Wener 24 Mehefin.

20.06.11

Dewch yn llu i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf eleni!

Bydd llyfrgelloedd ar hyd a lled Wrecsam yn croesawu plant i Sialens Ddarllen yr Haf™ sydd ar thema’r syrcas eleni, er mwyn sicrhau bod y plant yn dal i ddarllen yn awchus drwy gydol gwyliau’r ysgol.

20.06.11

Gweithgareddau ar y gweill ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Bwydo ar y Fron

Mae cyfres o ddigwyddiadau ar y gweill yn Wrecsam i gyd-fynd â Wythnos Bwydo ar y Fron, sy’n rhedeg o 19 hyd 25 Mehefin.

17.06.11

Adnoddau’n Hwb i Ofalwyr Wrecsam

Ar gyfer Wythnos Genedlaethol y Gofalwyr, mae’r adnodd llyfrgell llwyddiannus, y ‘Casgliad Gofalwyr’, yn cael ei gyflwyno ar draws un llyfrgell ar ddeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

13.06.11

Seremoni Chwifio’r Faner, 20 Mehefin 2011

Bydd Cyngor Wrecsam yn chwifio banner ar ddiwrnod y Lluoedd Arfog, sef dydd Llun 20 Mehefin am 10.30am ym maes parcio Neuadd y Dref i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog.

13.06.11

Cynghorwyr I Gyfarfod I Drafod Cludiant Cyhoeddus

Mae AELODAU o Bwyllgor Craffu’r Amgylchedd ac Adfywiad i gyfarfod ar 15 Mehefin i drafod dyfodol cludiant cyhoeddus yn y Fwrdeistref Sirol cyn cyflwyno argymhellion gerbron y Bwrdd Gweithredol.

13.06.11

Pwyllgor Craffu i Drafod Grantiau Gwisg Ysgol

Bydd grantiau gwisg ysgol yn cael eu trafod yr wythnos hon pan fydd Pwyllgor Craffu Adran Plant a Phobl ifanc Wrecsam yn cyfarfod nos Fercher (15 Mehefin).

10.06.11

Picnic yn y Parc yng Nghastell y Waun

Cyngerdd Canol Haf gyda Lleisiau Gorau Gogledd Cymru - Bydd y digwyddiad arbennig hwn yn cael ei gynnal yn amgylchedd hardd Castell y Waun ddydd Sul, 12 Mehefin, 2011 a bydd yn cynnwys lleisiau gorau gogledd Cymru – Côr Meibion enwog y Fron ynghyd â David a Stewart Kempster.

09.06.11

Y pwyllgor wedi plesio gyda chais Cwpan y Byd Wrecsam

Mae aelodau Pwyllgor Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd yn dweud eu bod wedi plesio gyda bid Wrecsam i gynnal gemau yn ystod Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd yn 2013.

06.06.11

Gwaith ar Fynd ar Ffordd Fynediad Ystad Ddiwydiannol Wrecsam

Mae Ffordd Fynediad Ystad Ddiwydiannol Wrecsam wedi dechrau cael ei hadeiladu, yn sgil seremoni draddodiadol torri’r dywarchen gyntaf a gynhaliwyd ar y safle heddiw.

06.06.11

Gwledd gerddorol gyntaf i Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Bydd cerddoriaeth glasurol ac opera yn atseinio yn Wrecsam yr haf hwn. Bydd artistiaid cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio’n fyw yn Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel rhan o ddigwyddiad dathlu cerddoriaeth pedwar diwrnod o hyd.

03.06.11

Rygbi Cyffwrdd yn dod i Queensway

Bydd Stadiwm Queensway yn cynnal sesiwn blasu rygbi cyffwrdd mewn partneriaeth â thîm Rygbi’r Gynghrair y Crusaders nos Fercher, 15 Mehefin, rhwng 6.30pm a 8.30pm.

31.05.11

Y Crusaders ac ysgol leol yn cydgefnogi’r cais am Gwpan y Byd

Mae chwaraewyr blaenllaw’r Crusaders yn rhoi eu cefnogaeth i gais Wrecsam am gynnal gemau yng Nghwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair a gynhelir yn 2013.

27.05.11

Hwyl Hanner Tymor yn Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Eisiau rhywbeth i'w wneud yn ystod yr hanner tymor yma?

25.05.11

Maer Newydd i Wrecsam

Mae gan Wrecsam arweinydd dinesig newydd yn dilyn seremoni yn Neuadd y Dref. Mae Cynghorydd Y Waun Ian Roberts a’i wraig Hilary bellach yn Faer ac yn Faeres am y flwyddyn nesaf.

23.05.11

Canolfannau Hamdden yn Cefnogi Siopau Bwyd Cydweithredol Lleol

Mae Siopau Bwyd Cydweithredol yn ardal Wrecsam yn mynd o nerth i nerth gyda chymorth canolfannau hamdden a gweithgareddau lleol. Trwy’r rhaglen gymunedol mae pobl leol yn gallu cael gafael ar ffrwythau a llysiau ffres bob wythnos am brisiau cyfanwerthu.

17.05.11

Hwb Ariannol i Grantiau Chwaraeon

Mae grant chwaraeon poblogaidd wedi derbyn hwb ariannol er budd cymunedau lleol a grwpiau chwaraeon. Mae grant Cist Gymunedol Chwaraeon Cymru bellach yn cynnig hyd at £1500 i sefydliadau ac unigolion - £500 ychwanegol o arian y Loteri Genedlaethol tuag at brosiectau.

16.05.11

Trigolion Wrecsam yn cael eu hannog i ddangos eu hochr greadigol

Bydd gan artistiaid addawol yn Wrecsam ddiddordeb efallai o gael gwybod am ddigwyddiad newydd ‘Celf i Bawb’ a fydd yn digwydd yn ystod yr hanner tymor hwn.

13.05.11

Cynnig arbennig yr wythnos hon yn unig. Ymunwch â Gweithgarwch PUR yn eich Canolfan Hamdden a Gweithgareddau lleol am llai na £17 y mis!

Ymunwch y penwythnos (13 - 15 Mai 2011) hwn a byddwch yn cael: dim ond £220 yw aelodaeth flynyddol; anwythiad AM DDIM; AM DDIM am fis - 13 mis am bris 12.

11.05.11

Llefydd AM DDIM ar gael ar gynllun ffordd iach o fyw

Mae llefydd rhad ac am ddim ar gael NAWR yn Wrecsam ar raglen Meddwl, Ymarfer Corff a Maeth o’r enw MEND. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n cynnig y cwrs gyda’r bwriad o gynorthwyo pobl i ddod yn fwy heini, yn iachach ac yn hapusach!

Archif Newyddion

yn ôl i'r brig