Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
| Dyddiad | Newyddion |
|---|---|
| 29.08.08 |
Mae swyddogion safonau Masnach yn Wrecsam yn rhybuddio manwerthwyr i fod yn fwy gwyliadwrus ar ôl i bedair siop werthu cyllyll yn anghyfreithlon i bobl ifanc dan oed. |
| 28.08.08 |
Hoffwn eich hysbysu y bydd pwll nofio Canolfan Hamdden Plas Madoc ar gau ar gyfer gwaith cynhaliaeth hanfodol o Ddydd Llun 1 Medi hyd at dydd Mercher 3 Medi. Fe fydd y cyfleusterau eraill ar agor fel arfer. Fe fydd y pwll yn ail agor dydd Iau, 4ydd o Fedi. |
| 27.08.08 |
Mae’r Faner Olympaidd yn chwifio yng nghanol tref Wrecsam i nodi trosglwyddo Chwaraeon Olympaidd 2012 i Lundain. |
| 26.08.08 |
Disgwylir i waith ddechrau ar y gwelliannau amgylcheddol gwerth £2.8 miliwn yng nghanol y dref ar 27ain Awst a fydd y golygu newidiadau i’r A525 Ffordd Sir Amwythig, Wrecsam ger cyffyrdd Rhodfa San Silyn a Ffordd Salisbury (tafarn y Green Dragon). |
| 21.08.08 |
Mae ffigurau arholiadau TGAU a gyhoeddwyd heddiw wedi dangos bod safonau addysgol yn Wrecsam yn codi. Maent yn gydnabyddiaeth o’r gwelliannau parhaus y mae ysgolion uwchradd yn y Fwrdeistref Sirol yn eu gwneud a dylai pawb sy’n ymwneud â’r broses fod yn falch iawn o’r canlyniadau. |
| 19.08.08 |
Mae Maer Wrecsam, y Cynghorydd David Griffiths wedi llongyfarch a dymuno’n dda i Tom James yn dilyn ei lwyddiant yng nghystadleuaeth y pedwar heb lywiwr yng Ngemau Olympaidd Beijing ddydd Sadwrn diwethaf lle yr enillodd Fedal Aur. |
| 14.08.08 |
Unwaith eto mae myfyrwyr mewn ysgolion yn Wrecsam wedi’u derbyn canlyniadau ardderchog yn eu harholiadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol. Er nad yw pob un o’r canlyniadau wedi cael eu dadansoddi’n llawn, mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu bod cyfradd llwyddo gyffredinol o 97.6 y cant sydd yn unol â chanlyniadau 2008 ar gyfer Cymru ac yn well gan 0.4 y cant na’r gyfradd gyfartalog yn y DU. |
| 11.08.08 |
Heddiw, talodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd David Griffiths deyrnged i Craig Owen, disgybl yn Ysgol Bryn Alun, lle mae’r Maer yn Llywodraethwr. Mae Jayne, mam Craig, yn gweithio i adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. |
| 08.08.08 |
Ar hyn o bryd mae Canolfan Dreftadaeth y Bers yn arddangos y casgliad hurtaf o wrthrychau di-nod a welwyd yng Nghymru erioed. Mae’r casgliad rhyfeddol hwn o eitemau od na wyddai ein cyndadau eu bod eu hangen (ac nid oeddynt mae’n debyg!) wedi eu dwyn ynghyd gan y casglwr brwd, Maurice Collins. |
| 07.08.08 |
Mae Cyngor Wrecsam yn datgan y bu cynnydd da yn y newidiadau i gasgliadau’r biniau yn dilyn adolygiad o’r casgliadau a olygodd bod 60% o gartrefi yn newid eu diwrnod bin. Yr wythnos nesaf gofynnir i bob cartref wirio eu calendrau newydd am fanylion y bin a gesglir. |
| 31.07.08 |
Mae parciau gwledig Wrecsam yn parhau i ennill cydnabyddiaeth genedlaethol wrth i’r newyddion dorri bod yr Ymddiriedolaeth Ddinesig wedi gwobrwyo statws Banner Werth i bedwar o barciau’r fwrdeistref. |
| 31.07.08 |
Mae newidiadau mawr i wasanaeth casglu biniau Wrecsam yn dechrau yn ystod yr wythnos yn dechrau 4ydd Awst. |
| 29.07.08 |
Yn dilyn cyhoeddiad Swyddfa’r Post Cyf am eu cynigion i gau 10 o swyddfeydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, mae Cyngor Wrecsam wedi lansio ei broses ymgynghori ei hun i sicrhau fod barn trigolion lleol yn cael ei ystyried. |
| 25.07.08 |
Dylai trigolion Wrecsam fod wedi derbyn amlen yn cynnwys sticer, llythyr a chalendr yn nodi’r dyddiau casglu biniau am y 12 mis nesaf. |
| 24.07.08 |
Mae cludiant yn ein heffeithio i gyd, gan wneud symud pobl a nwyddau yn bosibl. Mae’n rhoi mynediad at swyddi, addysg, siopau, gweithgareddau hamdden a chymdeithasol. |
| 21.07.08 | Cynghorau Conwy, Sir Ddinbych, Sir y fflint A Wrecsam yw Siroedd Nawdd Sioe Frenhinol Cymru yn 2008 Gofynnir i drigolion na chasglwyd ei biniau (bin glas neu ddu) oherwydd y streic ddydd Mercher 16eg Gorffennaf a dydd Iau 17eg Gorffennaf roi eu biniau allan eto i’w casglu ddydd Mercher 23ain Gorffennaf neu ddydd Iau 24ain Gorffennaf. |
| 18.07.08 |
Gofynnir i drigolion na chasglwyd ei biniau (bin glas neu ddu) oherwydd y streic ddydd Mercher 16eg Gorffennaf a dydd Iau 17eg Gorffennaf roi eu biniau allan eto i’w casglu ddydd Mercher 23ain Gorffennaf neu ddydd Iau 24ain Gorffennaf. |
| 16.07.08 |
Bydd pêl-droed rhyngwladol yn ôl yn y Cae Ras ar 20 Awst gyda gêm yn erbyn Romania. |
| 15.07.08 |
Bydd Rhwydwaith Chwarae Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol drwy gynnal digwyddiad agored i bawb sydd am ddim yn Sgwâr y Frenhines o 12pm i 4pm ddydd Mercher 6ed Awst 2008. |
| 14.07.08 |
Bydd amharu anochel ar wasanaethau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam oherwydd y gweithredu diwydiannol cenedlaethol gan weithwyr llywodraeth leol dros y ddau ddiwrnod 16 ac 17 Gorffennaf, 2008. Mae’r gweithredu’n digwydd mewn ymateb i’r cynnig arfaethedig o godiad cyflog o 2.45%. |
| 14.07.08 |
Eleni, bydd y Cyngor yn ymuno â chyn siroedd Clwyd - Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint - i gynnal y Sioe Frenhinol Gymreig yn Llanelwedd, Llanfair ym Muallt o 21 - 24 Gorffennaf 2008. |
| 11.07.08 |
Gwisgodd y plant o Brifysgol y Plant Wrecsam eu mentyll a’u capiau academaidd yn ddiweddar a mynychu seremoni gwobrau aur Prifysgol y Plant. |
| 11.07.08 |
Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cwblhau cam cyntaf ei arolwg o’r ffiniau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ac wedi cyhoeddi adroddiad ei Gynigion Draft. |
| 10.07.08 |
Bydd Laura Ashley’n agor ei drysau yn Stryt y Priordy, Wrecsam ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf 2008. Mae’r cwmni ffasiwn a dodrefn meddal yn adnabyddus iawn ar y stryd fawr a bydd croeso i’w bresenoldeb yng nghanol y dref, cwmni sy’n siŵr o ddenu llawer o gwsmeriaid newydd i Wrecsam. |
| 10.07.08 |
Mae’r gwaith trwsio wedi’i orffen ac mae Ffordd Bradle ar agor fel arfer |
| 09.07.08 |
O ganlyniad i fyrst yn y bibell ddŵr ger yr Orsaf Dân, mae Ffordd Bradle yn Wrecsam ar gau i’r traffig sy’n teithio o Ffordd Grosvenor er mwyn cwblhau’r gwaith atgyweirio. |
| 08.07.08 | Hwyl Haul yr Haf yng Ngorllewin Wrecsam Bydd Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt a Chanolfan Plas Pentwyn yng Nghoedpoeth yn gartref i brosiect celfyddydau gwych drwy gydol yr haf. Ynddynt caiff pobl gyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o sgiliau yn cynnwys peintio sidan, darlunio, gweithio gyda chlai a phlaster, mosäig a llawer mwy. |
| 07.07.08 |
Cynghorir trigolion ardal Halton o Wrecsam y bydd y sgip tros dro a leolir yno yn cau’n barhaol o ddydd Sadwrn 2ail Awst. Gofynnir i drigolion ddefnyddio’r Safle Ailgylchu Gwastraff Ty mwy modern a diogelach sydd ym Mhlas Madoc. |
| 03.07.08 |
Mae newidiadau mawr i wasanaeth casglu biniau Wrecsam yn dechrau fis nesaf ar 4ydd Awst. Mae aelodau’r Bwrdd Gweithredol wedi cytuno i’r newidiadau a fydd yn golygu bod diwrnod casglu biniau 60% o gartrefi yn newid. |