Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
| Dyddiad | Newyddion |
|---|---|
| 31.08.10 | Dathlu pen-blwydd y gefeillio yn Oriel Wrecsam Cyn bo hir fe gynhelir arddangosfa arbennig yn Oriel Wrecsam er mwyn nodi 40fed pen-blwydd y berthynas efeillio sydd gan Wrecsam â Markischer Kreis. |
| 27.08.10 |
Y llynedd cafodd Parc Ponciau ei adnewyddu ac yn sgil hynny fe ddyfarnwyd baner werdd iddo am y tro cyntaf un. Felly erbyn hyn mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam 5 ardal Baner Werdd i gyd. |
| 26.08.10 |
Heddiw mae gwefan Cyfrifiad 2011, www.census.gov.uk/2011familyhistory yn lansio tudalen hel achau newydd ynghyd â thudalen Facebook lle gall casglwyr achau amatur rannu eu cynghorion buddiol ar gyfer chwilio cofnodion cyfrifiadau a thrafod eu canfyddiadau. |
| 25.08.10 | Prosiect newydd sy’n gwella llythrennedd pobl ifanc Llwyddiant ysgubol – dyna beth yw’r farn am brosiect arloesol sy’n annog pobl ifanc i wella eu hagwedd at ddarllen. |
| 24.08.10 | Wrecsam yn cynnal cwrs hyfforddiant pêl-droed gwahanol i’r lleill Ar ddydd Sul Medi 5ed bydd Wrecsam yn cynnal cwrs hyfforddiant pêl-droed hollol wahanol i’r lleill. |
| 24.08.10 |
Mae disgyblion Wrecsam yn dathlu llwyddiant! Y canlyniadau TGAU a galwedigaethol a gafwyd heddiw yw’r gorau a gyflawnwyd erioed yn y fwrdeistref sirol, wrth i safonau addysgol yn Wrecsam wella am y chweched flwyddyn yn olynol. |
| 20.08.10 | Yr A525 ym Marchwiel yn cael ei Chau Dros Dro Ar ddydd Llun Awst 23ain 2010 rhwng 7 y nos a 6 y bore bydd yr A525 ym Marchwiel yn cael ei chau dros dro er mwyn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol ar y ffordd. Yn ystod y cyfnod hwn bydd yno arwydd sy’n dangos y llwybr teithio dargyfeiriol y dylai gyrwyr ei ddilyn, a bydd mynediad i bentref Marchwiel yn dal i fod ar gael ar bob adeg. |
| 20.08.10 | Grant ar gael o hyd i hybu gwasanaethau yng nghefn gwlad Mae arian ar gael gan gynllun grant er mwyn hybu’r gwasanaethau hanfodol yng nghefn gwlad Wrecsam. |
| 20.08.10 | Penodi Contractwr i Adeiladu Ysgol Newydd Rhosymedre Dyfarnwyd y contract i adeiladu ysgol gynradd newydd £5 miliwn, 210 lle yn Rhosymedre i Watkin Jones ac mae gwaith dymchwel yn dechrau’r mis yma. |
| 20.08.10 | Coroni ‘Pentref Taclusaf’ Wrecsam Yn ôl yr ymchwil diweddaraf a wnaed roedd twristiaeth wedi cyfrannu swm aruthrol – £79 miliwn – at economi Wrecsam y llynedd. |
| 20.08.10 |
Mae byngalos newydd i bobl leol yn cael eu hadeiladu yn ardaloedd Coed Aben a Glan Gors ym Mharc Caia, ac fe wnaeth cynrychiolwyr y bartneriaeth sy’n darparu’r cartrefi, fynd i’r safle er mwyn gweld sut mae’r gwaith yn mynd rhagddo. |
| 19.08.10 | Derbyn Cynlluniau ar gyfer Ysgol Llai Mae cynlluniau ar gyfer gwelliannau sylweddol i Ysgol Gynradd Parc Llai wedi cael eu rhoi gerbron Cyngor Wrecsam. |
| 19.08.10 |
Unwaith yn rhagor mae myfyrwyr ysgolion Wrecsam wedi llwyddo i gael canlyniadau ardderchog yn eu Harholiadau Safon Uwch. |
| 18.08.10 |
Ers i’r sesiynau ddechrau cael eu cynnal ym mis Gorffennaf mae mwy na 300 o bobl ifanc ledled Wrecsam wedi bod yn cymryd rhan mewn Rygbi Stryd. |
| 17.08.10 |
Mae gwaith adnewyddu Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn mynd yn ei flaen yn fendigedig a bellach mae’r contractwyr, ISG wedi gosod estyniad gwydrog newydd ar wyneb blaen yr adeilad. Pan fydd yr amgueddfa’n ailagor i’r cyhoedd yn nechrau’r flwyddyn bydd siop goffi newydd a derbynfa a siop yr amgueddfa yn cael eu lleoli yn yr estyniad hwn. |
| 17.08.10 | Twristiaeth yn Dal i Hybu Economi Wrecsam Yn ôl yr ymchwil diweddaraf a wnaed roedd twristiaeth wedi cyfrannu swm aruthrol – £79 miliwn – at economi Wrecsam y llynedd. |
| 12.08.10 | Rydych chi mewn pryd i neidio ar y Sbonc y Gofod yn eich llyfrgell leol Mae peth wmbredd o bethau yn dal i fod ar gael i gadw’r plant yn ddiddan yn eich llyfrgell leol yn ystod gwyliau’r haf. |
| 12.08.10 | Gwe-dudalennau Gwella Ysgolion Erbyn hyn mae gan Gyngor Wrecsam adran newydd ar eu gwefan. Mae’r tudalennau Gwella Ysgolion yn dangos sut mae pethau’n mynd rhagddynt mewn perthynas â’r gwaith adeiladu ac adnewyddu sy’n cael ei wneud yn y fwrdeistref sirol drwyddi draw. |
| 11.08.10 | Mae Ewrop Uniongyrchol yn dod i lyfrgell yn eich ardal chi! Mae Ewrop Uniongyrchol wedi trefnu cyfres o ‘sioeau teithiol’ mewn llyfrgell neu ddwy yn yr ardal leol ym mis Awst. |
| 11.08.10 | Taith dywysedig i fyny’r Berwyn a thrwy Goedwig Ceiriog Ar ddydd Mercher, Medi’r 2il, bydd un o aelodau adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Wrecsam yn arwain taith o Lanarmon Dyffryn Ceiriog i fyny Mynyddoedd y Berwyn ac yna trwy Goedwig Ceiriog. Ar y daith gerdded byddwch yn mynd heibio i fferm Dolwen, fferm hynafol ag iddi gysylltiad ag Owain Glyndwr yn ôl y sôn. |
| 11.08.10 | Algâu Gwyrddlas wedi eu gweld ar Lyn Parc Acton Yn sgil profion a gynhaliwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mae gordyfiant o Algâu Gwyrddlas wedi cael ei weld ar Lyn Parc Acton. Mae Algâu Gwyrddlas yn gallu bod yn wenwynig i bobl ac anifeiliaid, os cânt eu llyncu neu os byddant yn cyffwrdd y croen. Felly ni ddylai neb fynd i mewn i’r llyn na gadael i’w hanifeiliaid anwes gyffwrdd y dwr chwaith Mae Algâu Gwyrddlas i’w cael yn naturiol pan geir cyfnodau o dywydd cynnes heb wynt. |
| 09.08.10 | Gwefan newydd i wirfoddolwyr ar gael ar-lein nawr! Mae’n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyhoeddi bod ganddo bellach adran newydd i wirfoddolwyr ar wefan Hawliau Tramwy Cyhoeddus. |
| 09.08.10 | Canolfan Chwaraeon Clywedog yn cynnal Cwpan y Byd i blant iau Efallai mai Sbaen aeth â hi yn Ne Affrica ond fe wnaeth pêl-droedwyr o dan 8 oed Wrecsam a’r Fro gymryd rhan yn eu cystadleuaeth Cwpan y Byd eu hunain. |
| 09.08.10 | Busnesau bach yn cael cyfle i farchnata eu hunain Bydd y busnesau yng nghanol tref Wrecsam yn cael cyfle i arddangos eu nwyddau a’u gwasanaethau mewn digwyddiad arbennig a gynhelir yn Sgwâr y Frenhines. |
| 06.08.10 | Parc y Ponciau yn cynnal sesiynau chwarae bowls am ddim – dyddiau difyr! Mae Clwb Bowls Parc y Ponciau yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddiddanu eu hunain yr haf yma, gyda chyfres o sesiynau chwarae bowls grîn gefngrom, am ddim, ar gyfer plant a phobl ifanc. |
| 06.08.10 | Rhoi help llaw i bobl ifanc a’u teuluoedd Mae teuluoedd lleol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn rhaglen sydd â’r nod o sicrhau bod gan bobl ifanc berthynas gadarnach fyth â’u rhieni. |
| 05.08.10 | Cyflwyno Trwydded Lletya mewn Cartref Mae nifer y busnesau bach hynny sy’n ymwneud â darparu gwasanaeth ‘lletya mewn cartref’ i anifeiliaid anwes, wedi cynyddu yn y DU yn ddiweddar. Yn gyffredinol yr hyn y mae lletya mewn cartref yn ei gynnig yw darparu llety dros nos a bwyd, i anifail mewn ty preifat - ond nid cartref yr anifail anwes ei hun wrth gwrs - a hyn i gyd yn gyfnewid am arian. |
| 03.08.10 | Prosiect iechyd arloesol yn mynd rhagddo yn Wrecsam Yr wythnos yma bydd prosiect uchelgeisiol, eang ei gwmpas, yn mynd rhagddo yn Wrecsam. Ei nod yw atal a thrin amrywiaeth eang o afiechydon poenus sy’n bygwth bywyd. |
| 30.07.10 |
Newyddion da yn wir - dyna a ddywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ôl iddo glywed bod Corfforaeth Sharp am fuddsoddi £30 miliwn yn eu ffatri cynhyrchu nwyddau sydd yn Llai. |
| 29.07.10 | Ysgol yn cael Seren Aur am Addysg Gorfforol Mae Ysgol Gatholig y Santes Fair wedi rhagori ar bawb ar ôl i’w gwaith mewn Addysg Gorfforol gael adroddiad canmoliaethus. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru a’r Gymdeithas dros Addysg Gorfforol (afPE) yn hyrwyddo ysgolion sy’n cydnabod pa mor bwysig yw Addysg Gorfforol. |
| 27.07.10 | Bydd y Rhufeiniaid yn ymosod ar Waith Haearn y Bers y dydd Sul yma Bydd Byddin Rhufain yn ymosod ar Wrecsam pan ddaw History Alive!! i Waith Haearn y Bers y dydd Sul yma (12-4pm). |
| 23.07.10 | Neges ddiogelwch ar y blaen gyda myfyrwyr Mae canlyniad ymgyrch ddiweddar i hybu diogelwch personol yn Wrecsam wedi ennill mewn mwy nag un ffordd. |
| 22.07.10 | Gwobrau Aur Prifysgol y Plant 2010 Gwisgodd Plant a phobl ifanc o bob rhan o Wrecsam eu cap a gynau i ddathlu eu llwyddiannau mewn seremoni wobrwyo arbennig. |
| 21.07.10 | Ystafell pobl ifanc yn cael ailwampio ‘ysbrydoledig’ yn Ysbyty Maelor Wrecsam Cafodd ystafell lle gall pobl ifanc ymlacio yn Ysbyty Maelor Wrecsam ei hailwampio’n ddramatig. |
| 21.07.10 | Ydych chi’n Landlord neu Denant Sector Preifat? Mae Tîm Safonau Tai Cyngor Wrecsam yn gweithio gyda landlordiaid a thenantiaid i wella ansawdd y llety sydd ar gael yn y sector rhentu preifat. |
| 21.07.10 | Diwrnod Chwarae yn Anelu am Sgwâr y Frenhines Mae gwahoddiad i blant o bob oed i Sgwâr y Frenhines ar 4ydd Awst i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2010 rhwng 12.00 am a 4.00 pm. |
| 20.07.10 | Fforwm Mynediad Lleol yn Cyfarfod ym mis Awst Bydd cyfarfod nesaf Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam yn cael ei gynnal am 1.30pm ar ddydd Gwener Awst 20fed 2010 yn Neuadd Bentref, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Wrecsam LL20 7LD. |
| 19.07.10 | Dathlu Canmlwyddiant y Parciau Mae’r Parciau yn dathlu ei 100fed pen-blwydd ar ddydd Sul 25ain Gorffennaf gyda diwrnod llawn hwyl yn y parc. Bydd y diwrnod yn cynnwys dewis o berfformiadau cerddoriaeth a dawns, yn ogystal ag amrywiaeth o atyniadau ar gyfer pob oed. |
| 19.07.10 | Taith yr Haf gyda Chyfeillion y Parciau Bydd taith haf flynyddol Cyfeillion y Parciau’n mynd i Barc Stanley yn Blackpool a thref glan môr St Anne’s. |
| 19.07.10 | Llyfrgell Wrecsam yn mynd â ni i’r gofod Mae llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru yn barod i anfon plant ar antur a fydd yn eu hannog i ddarllen drwy gydol gwyliau’r haf, gyda Sialens Ddarllen yr Haf 2010 – Sbonc y Gofod. Eu tasg fydd helpu criw ifanc yr Ex-Libris i sefydlu’r llyfrgell gyntaf ar y Lleuad! Gan osgoi’r Spacekatz cyfrwys! |
| 16.07.10 | Cadwch eich lle yn y digwyddiad chwaraeon mwyaf yng Nghymru eleni... Mae’n un o’r prif ddigwyddiadau yng nghalendr chwaraeon y byd ac yn awr gall dilynwyr golff Wrecsam gael eu dwylo ar docynnau Cwpan Ryder dim ond trwy ymuno â’r llyfrgell – ac mae ymuno’n rhad ac am ddim! |
| 15.07.10 | Llwyddiant Wythnos Weithgareddau Darland Dyna wythnos ryfeddol... teimlad pawb a gymrodd ran yn Wythnos Weithgareddau Darland a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer myfyrwyr Blynyddoedd 7, 8 a 9. |
| 14.07.10 | Pen-cogydd Jamie’n rhoi sêl bendith ar sgiliau coginio Ysgol y Santes Fair Cafodd sgiliau coginio un o ysgolion cynradd Wrecsam sêl bendith pen-cogydd enwog Jamie Oliver. Roedd Ysgol Gynradd Babyddol y Santes Fair yn fuddugol yng nghategori cynradd yn Seremoni Wobrwyo Active Kids Get Cooking 2010, a gynhaliwyd yn Llundain. |
| 12.07.10 | Gwaith yn Gyrru Ymlaen yn Dda yn Ysgol Maelor Llannerch Banna Mae gwaith ar ddarparu neuadd chwaraeon newydd sbon yn Ysgol Maelor yn Llannerch Banna yn symud ymlaen yn dda ac mae’r contractwr, Paveaways, erbyn hyn yn gweithio ar y gwaith cerrig uwchlaw’r haen wrth-leithder. Mae gorchudd y to bron yn gyflawn ac mae’r system ysgeintio’n cael ei gosod. |
| 12.07.10 | Tlws Golff Carlsberg Lager 2010 Mae golffwyr brwd yn cael eu gwahodd i roi cynnig ar ennill Tlws Golff Carlsberg Lager yng Nghlwb Golff Wrecsam ar ddydd Mercher 25ain Awst. |
| 09.07.10 | Arddangosfa Agored yn Oriel Wrecsam Mae arlunwyr o bob rhan o’r fwrdeistref sirol wedi cyflwyno gweithiau ar gyfer yr Arddangosfa Agored eleni sy’n cael ei chynnal ar hyn o bryd yn Oriel Wrecsam yng nghanol y dref. |
| 09.07.10 | Siopau Stryt Siarl yn cefnogi Wrecsam yn Ei Blodau Mae’r busnesau yn Stryt Siarl yn cefnogi cais y dref yng nghystadleuaeth ‘Cymru yn Ei Blodau’ trwy addurno’r stryt ag arddangosfeydd basgedi crog. |
| 08.07.10 |
Mae Tîm Rygbi’r Gynghrair Crusaders yn rhoi ei gefnogaeth i brosiect sydd â’r nod o annog plant a’u teuluoedd i gadw’n iach. |
| 07.07.10 | Ysgol St Christopher yn rhagori ar bawb mewn seremoni wobrwyo genedlaethol Mewn seremoni wobrwyo genedlaethol fe ddywedwyd, yn swyddogol, mai Ysgol St Christopher yw’r ysgol anghenion arbennig orau yn y DU. |
| 06.07.10 | Cyngor Wrecsam yn Ennill Gwobr Cymdeithas Ddinesig Cafodd Cyngor Wrecsam ei gydnabod gan Gymdeithas Ddinesig Cylch Wrecsam am wneud cyfraniad sylweddol at yr amgylchedd. |
| 05.07.10 | Cynlluniau Gweithredu Gorllewin Wrecsam dan sylw Y mis yma bydd cynlluniau i gynorthwyo llunio dyfodol cymunedau yng Ngorllewin Wrecsam yn dod dan sylw. |
| 05.07.10 | Cyngor Wrecsam yn Taflu Tenant Gwrthgymdeithasol Allan Cafodd tenant sydd wedi achosi poen i’w gymdogion ei daflu allan ar ôl i Farnwr gytuno gyda Chyngor Wrecsam y dylai’r tenant ddioddef y gosb eithaf a cholli ei chartref. |
| 02.07.10 | Powliau Grîn Gefngrom ym Mharc y Ponciau Mae Clwb Bowlio Parc y Ponciau’n dal i ddatblygu eleni, gyda dau brynhawn agored llwyddiannus ac ymdrechion mawr i godi arian. |
| 02.07.10 | Cyngor yn Gofyn am Ymateb ei Denantiaid Mae Cyngor Wrecsam wedi bod yn gofyn am ymateb tenantiaid ei dai ynghylch y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu ganddo. Cynhaliodd Gwasanaeth Cefnogi Tenantiaid yr awdurdod achlysur yng Nghanolfan Catrin Finch lle gallai tenantiaid fynegi eu barn a chael cyfarwyddyd gan y staff. |
| 01.07.10 |
Bydd Swyddog Coed Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn arwain tro dywysedig o gwmpas Parc Acton. Mae’r daith ar ddydd Mercher 7fed Gorffennaf yn dechrau am 2pm o’r maes parcio tu ôl i’r Cunliffe Arms. |