Archif Newyddion

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

Gorffennaf - Awst 2011

Dyddiad Newyddion
31.08.11

Diwrnod Cymhelliad 2011

Bydd diwrnod o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth o’r berthynas agos rhwng iechyd corfforol a lles meddyliol yn digwydd fel rhan o Ddiwrnod Cymhelliant 2011 ar ddydd Iau 8 Medi rhwng 9.30am a 4.30pm ym Mhrifysgol Glyndwr a chaiff y diwrnod ei agor gan Lesley Griffiths AC Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

26.08.11

Cynlluniau adnewyddu Acton yn cael eu hamlygu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dadlennu cynlluniau y mae ef wedi rhoi sêl ei fendith arnynt, er mwyn adnewyddu Canolfan Gymuned Acton.

26.08.11

Ymgynghoriad ar Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol Rhif 13 ‘Tai yng Nghefn Gwlad’ (Diweddariad).

Mae Cyngor Wrecsam yn gwahodd pobl i roi eu sylwadau am ddiweddariad i’r Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol ar gyfer Tai yng Nghefn Gwlad.

25.08.11

Canlyniadau TGAU Wrecsam – Adeg i Ddathlu

Mae disgyblion Wrecsam yn dathlu eu llwyddiant heddiw yn sgil y canlyniadau y maent wedi eu cael yn eu harholiadau TGAU ac arholiadau galwedigaethol. Mae 93% ohonynt wedi llwyddo i gyrraedd Trothwy Lefel 1, sy’n gwella rhagor ar yr hyn a gyflawnwyd yn y blynyddoedd blaenorol.

25.08.11

Casgliadau Biniau Gwyl y Banc

Ni fydd y casgliadau sbwriel ac ailgylchu yn Wrecsam yn newid dros gyfnod Gwyl y Banc fis Awst.

25.08.11

Galw Wrecsam’ yn dod Llyfrgell Rhiwabon

Mae Cyngor Wrecsam yn annog pobl i ddod draw i roi cynnig ar y ciosg Galw Wrecsam newydd yn Llyfrgell Rhiwabon.

24.08.11

Digwyddiadau Blwyddyn Diwylliant ym mis Medi

Mae tîm digwyddiadau Blwyddyn Diwylliant Wrecsam wedi trefnu mis cyffrous a difyr o weithgareddau, cyngherddau a digwyddiadau ar gyfer mis Medi ac mae’r manylion ar gael ar wefan y FlwyddynGalw Wrecsam’ yn dod Llyfrgell Rhiwabon Diwylliant ar www.yearofculture.co.uk ac yn eu rhaglen digwyddiadau.

19.08.11

Helpu i ailddefnyddio tai gwag

Mae Cyngor Wrecsam yn gwneud apêl ar berchnogion tai gwag i gysylltu â’r Cyngor i chwilio am ffyrdd i’w defnyddio unwaith eto.

18.08.11

Canlyniadau Safon Uwch Wrecsam 2011

Mae myfyrwyr yn ysgolion Wrecsam yn dathlu unwaith eto wrth iddynt gael eu canlyniadau Safon Uwch. Mae’r nifer o fyfyrwyr a oedd yn ymgeisio wedi cynyddu o’i gymharu â’r tair blynedd diwethaf.

18.08.11

Gwaith trwsio yn yr arfaeth ar gyfer Pont (Ffordd) Osgoi Bangor Is-coed

Mae gwaith trwsio’r bont dros Afon Dyfrdwy ym Mangor Is-coed i fod i ddechrau ar Awst 22ain. Hwn yw’r gwaith cynnal a chadw cyntaf, ar raddfa fawr, i gael ei wneud ar y bont ers iddi gael ei hadeiladu ym 1980.

16.08.11

Canolbwyntio ar Groeso Cynnes Wrecsam

Bydd gan wynebau llawen bobl Wrecsam rôl bwysig mewn prosiect ffotograffiaeth.

12.08.11

Cwrs Haf Criced

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chriced Cymru yn cyd-drefnu Cwrs Haf Criced ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 8 a 15 oed.

12.08.11

Blwyddyn Ddiwylliant Wrecsam yn dod a mwy o MAGICK i’r ddinas!

Ar yr 20fed o Awst bydd grŵp celfyddyd carnifal pennaf Cymru, SWICA (South Wales Intercultural Community Arts), yn dod i Lwyn isaf i gyflwyno un arall eto o weithgareddau Blwyddyn Ddiwylliant Wrecsam sef dwy sioe 30 munud i deuluoedd.

12.08.11

Darganfod Cymru yn eich amgueddfa leol

Mae hanner y gwyliau haf wedi mynd bellach, ond mae digon i’w wneud o hyd yn Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

12.08.11

Rhybudd am Ad-daliad Treth y Cyngor Ffug

Mae trigolion yn derbyn rhybudd i fod yn ofalus am fod sgam ar waith yn ardal Wrecsam. Mae’r adran Safonau Masnach wedi derbyn gwybodaeth bod twyllwyr yn ffonio trigolion lleol i geisio cael gwybodaeth ariannol ganddynt drwy ddweud eu bod eisiau anfon ad-daliad o’r dreth gyngor yn ôl atynt.

11.08.11

Marathon Caer MBNA) 2011 Rheoleiddio Traffig Dros Dro

Rhoddir rhybudd trwy hyn bod Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Bwrdeistref Caer yn bwriadu gwneud Gorchymyn yn unol â darpariaethau Adran 16A Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a gyda chaniatâd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

11.08.11

Beirniaid yn Ôl yn y Dref ar gyfer Prydain yn ei Blodau

Bydd beirniaid Prydain yn ei Blodau o’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) yn Wrecsam ddydd Gwener i farnu ymgais Wrecsam yn y gystadleuaeth. Cafodd Wrecsam wahoddiad gan yr RHS eleni i gymryd rhan am y tro cyntaf.

11.08.11

Gwobr Afal Gwyrdd am Ddymchwel Fflatiau Hightown

Mae’r Sefydliad Gwyrdd wedi dyfarnu “Gwobr Afal Gwyrdd” i staff Tai Cyngor Wrecsam yn yr ymgyrch genedlaethol i ddod o hyd i gwmnïau, cynghorau a chymunedau mwyaf gwyrdd Prydain. Mae’r Wobr yn gysylltiedig â phrosiect Dymchwel Fflatiau Hightown a roddwyd ar waith yn gynharach eleni.

11.08.11

Digwyddiadau yn y Parciau dros Wyliau’r Haf

Mae hwyl gwyliau’r haf yn parhau yn y Parciau gyda gweithgareddau amrywiol i blant.

11.08.11

Wrecsam yn Dod yn Gyntaf yng Nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau

Mae Cyngor Wrecsam wrth ei fodd o glywed iddo ddod yn gyntaf yn ei gategori yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau eleni.

08.08.11

Gwaith adnewyddu pont hanesyddol y Waun bron wedi ei gwblhau

Mae’r gwaith adnewyddu'r Bont Faen hanesyddol bron wedi ei gwblhau ac mae disgwyl ailagor y bont ddydd Gwener 12 Awst.

08.08.11

Diwrnod Gwasanaethau Brys 999 ac Ymwybyddiaeth Iechyd

Gwahoddir pobl leol i ddod draw i Ganolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt ddydd Mercher 10 Awst 2011 i Ddiwrnod Gwasanaethau Brys 999 ac Ymwybyddiaeth Iechyd rhwng 12.00 a 3.00pm.

05.08.11

Digwyddiadau’r Haf ym Mharc Acton

Trefnwyd pedwar digwyddiad ar gyfer plant a theuluoedd ym Mharc Acton yn ystod gwyliau’r haf.

05.08.11

Disgynnydd gwneuthurwyr y Gadair Ddu yn ymweld â Llyfrgell Wrecsam

Mae gor, gor, gor wyr gwneuthurwrr y Gadair Ddu sy’n cael ei harddangos yn Llyfrgell Wrecsam ar hyn o bryd cynnal ymweliad arbennig i Lyfrgell Wrecsam yr wythnos hon i weld y gadair a wnaed gan ei hen, hen, hen daid yn 1876.

29.07.11

Datganiad ynghylch y Cae Ras

Mae’r Cyngor wastad wedi cyfleu’r un neges i bawb - sef ei fod yn dymuno sicrhau bod y Cae Ras yn cael ei ddiogelu er mwyn iddo barhau i fod yn stadiwm chwaraeon rhyngwladol ar gyfer Gogledd Cymru.

28.07.11

Angen i Landlordiaid Wneud Cais am eu Trwyddedau

Mae Cyngor Wrecsam yn cysylltu â landlordiaid tai amlfeddiannaeth yn Wrecsam (HMO) i’w cynghori bod angen iddynt wneud cais am drwydded yn dilyn cyflwyno camau trwyddedu ychwanegol gan Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ym mis Mehefin.

27.07.11

Cynyddu’r lle parcio yng Ngorsaf Reilffordd Rhiwabon

Mae Cyngor Wrecsam wedi cyflawni gwelliannau yng ngorsaf Rhiwabon yn ddiweddar i wella a chynyddu nifer y lleoedd parcio am ddim sydd ar gael i deithwyr sy’n mynd ar y trên fesul 50%. Gwnaed y gwaith mewn ymateb i gynnydd 17% flwyddyn ar flwyddyn yn y galw am deithio ar y trenau o’r lleoliad hwn (Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd - Ystadegau Defnyddio Gorsafoedd gan deithwyr).

22.07.11

Diwrnod Chwarae yn Anelu am Sgwâr y Frenhines

Mae gwahoddiad i blant o bob oed i Sgwâr y Frenhines ar 4ydd Awst i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2010 rhwng 12.00 am a 4.00 pm.

22.07.11

Cyngor yn curo Mersey Waste Holdings wrth geisio hawlio gwerth £6m o iawndal yn achos Chwarel yr Hafod

Mae Cyngor Wrecsam wedi ennill brwydr am iawndal gwerth £6 miliwn â Mersey Waste Holdings Associates Ltd yn ymwneud â Chwarel yr Hafod yn Johnstown. Yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyad yn gynharach eleni cyhoeddodd y Tribiwnlys nad oes gan MWH yr hawl i unrhyw iawndal.

15.07.11

Seren Aur am Addysg Gorfforol i Ysgol Uwchradd Darland

Mae Ysgol Uwchradd Darland wedi mynd i ben y dosbarth wedi i’w gwaith Addysg Gorfforol gael adroddiad disglair.

15.07.11

Wrecsam yn cymryd rhan mewn dathlu mis hanes y Teithwyr

Cafodd digwyddiad i ddathlu hanes a diwylliant y Teithwyr ei gynnal ym mharc Belle Vue yn Wrecsam yn ddiweddar.

13.07.11

Arddangosfa newydd yn agor yn Archifdy ac Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Bydd arddangosfa newydd o’r enw Rhyfeddodau Cymru yn agor yn Oriel 2 yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddydd Llun 18 Gorffennaf.

11.07.11

Clwb Lleol yn Ennill Gwobr Bêl Droed Genedlaethol

Mae CPD Llai wedi bod yn dathlu ar ôl ennill gwobr anrhydeddus, Clwb y Flwyddyn, yng Ngwobrau Pêl Droed Cymunedol Cymru 2011, a gyflwynwyd gan McDonalds yng Nghastell Caerdydd. Nod y gwobrau yw cydnabod a gwobrwyo chwaraewyr ifanc, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a chlybiau ledled Cymru, sy’n rhoi o’u hamser i bêl droed yn lleol yn eu cymunedau.

11.07.11

Cau Pwll Nofio Gwyn Evans dros dro

Yn anffodus, bu’n rhaid cau’r pwll yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans yng Ngwersyllt, Wrecsam oherwydd trafferthion technegol. Disgwylir i’r pwll ail-agor i’r cyhoedd am 6pm ddydd Llun 11eg Gorffennaf 2011.

11.07.11

Yr Eisteddfod yn anrhydeddu cyn Faer

Mae un o gyn feiri Wrecsam wedi ychwanegu anrhydedd arall at ei restr gynyddol ar ôl cael ei ddewis yn llywydd anrhydeddus ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2011.

07.07.11

Gwybodaeth am Westy’r Wynnstay, Stryt Yorke, Wrecsam

“Mae’n destun tristwch i Gyngor Wrecsam fod Gwesty’r Wynnstay Arms yng nghanol y dref wedi galw’r gweinyddwyr, KPMG, i mewn. Byddwn yn parhau i weithio gyda staff y gwesty a’r gweinyddwyr i geisio cael y canlyniad gorau i’r staff ac i Wrecsam.”

07.07.11

Byddwch yn Wyliadwrus o Droseddau Carreg Drws a Galw diwahoddiad

Mae Safonau Masnach Wrecsam yn gofyn i drigolion fod yn wyliadwrus iawn yr haf hwn yn dilyn nifer o achosion o droseddau carreg drws yn yr ardal, pan dargedwyd trigolion oedrannus â galwadau diwahoddiad. O ganlyniad mae Swyddogion Safonau Masnach a’r heddlu lleol wedi ymateb ar frys ac ymweld â chartrefi trigolion oedrannus i gynnig cyngor a sicrwydd a hefyd i symud y masnachwyr o’r cartrefi cyn i’r trigolion gael eu gorfodi i dalu arian mawr iddynt.

06.07.11

Agor Neuadd Chwaraeon a Llyfrgell Llannerch Banna yn Swyddogol

Mae neuadd chwaraeon newydd a’r llyfrgell ar ei newydd wedd yn Ysgol Maelor Llannerch Banna wedi eu hagor yn swyddogol gan Faer Wrecsam y Cynghorydd Ian Roberts.

04.07.11

Cadw’n Heini am Geiniog a Dimai

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn galw ar ei drigolion i gadw’n heini am geiniog a dimai yr haf hwn!

01.07.11

Cychwyn arni ar Gynnal a Chadw’r A483

Mae’r gwaith ar fin dechrau ar Gefnffordd yr A483 o’r ffin â Sir Gaer hyd at Gyffordd 1 Cyfnewidfa Rhiwabon. Bydd y gwaith cynnal a chadw blynyddol yn dechrau ar ddydd Sul Gorffennaf 3ydd 2011, a bydd yn cynnwys torri glaswellt, chwistrellu chwyn a thasgau glanhau. Yr amser dechrau bob nos fydd 7.00 yr hwyr o ddydd Sul hyd ddydd Iau er mwyn i’r gwaith gael ei gwblhau cyn hanner nos dros gyfnod o 3 wythnos.

01.07.11

Taliadau Parcio Ar y Stryd

Ar ôl ymgynghori ynglŷn â chynigion i gyflwyno taliadau parcio ar y stryd yng nghanol tref Wrecsam, mae adroddiad yn cael ei baratoi a fydd yn argymell i’r Bwrdd Gweithredol na ddylai fwrw ymlaen â’r cynigion.

Archif Newyddion

yn ôl i'r brig