Archif Newyddion

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

Medi - Hydref 2009

Dyddiad Newyddion
30.10.09

Dynion yn cael dedfrydau ataliedig am werthu dillad ffug

Mae dau ddyn o Wolverhampton wedi cael dedfrydau ataliedig yn y carchar am feddu ar ddillad ffug a’u gwerthu yn Arwerthiant Cist Car Y Waun, Wrecsam.

30.10.09

Ymgyrch Fyrgleriaeth Fin Nos Diogelwch Cymunedol yn mynd rhagddi wrth i’r clociau gael eu troi’n ôl

Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wrthi’n gweithio ar eu Hymgyrch Fyrgleriaeth ar gyfer yr hydref wrth i’r clociau gael eu troi’n ôl ddydd Sadwrn ac wrth i haf Prydain ddod i ben yn swyddogol.

29.10.09

Siopau a Thafarndai’n Gwerthu Alcohol i Blant Dan Oed

Gwerthodd dwy siop drwyddedig a thair tafarn yn ardaloedd Gwersyllt, Broughton a Choedpoeth yn Wrecsam alcohol i wirfoddolwyr cynllun prawf-brynu dan oed yn ystod ymarfer a drefnwyd yn ddiweddar ar y cyd rhwng Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru.

28.10.09

Cau Maes Parcio Rhosddu Dros Dro

Oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch yn ystod y gwaith adnewyddu yn Llyfrgell Wrecsam bydd maes parcio Ffordd Rhosddu ar gau i’r cyhoedd o 2 Tachwedd hyd 1 Chwefror 2010.

27.10.09

Gwahodd y cyhoedd i weld Cynigion Ardal Gadwraeth y Bers

Caiff y Cynllun Asesu a Rheoli Cymeriad Cadwraeth ar gyfer Ardal Gadwraeth Y Bers ei arddangos yn Ystafell y Pwyllgor, Neuadd y Plwyf, Allt y Ficerdy, rhwng 2 pm a 6 pm ddydd Llun 9 Tachwedd.

23.10.09

Digwyddiadau Hanner Tymor yr Hydref yn Y Parciau

Bydd dau achlysur yn Y Parciau, Wrecsam, yn ystod gwyliau hanner tymor. Bydd sesiwn hwyl o bêl-droed yn cael ei gynnal i rai 8 - 16 oed ar ddydd Mawrth 27ain Hydref rhwng 1pm a 3pm. Mae’r sesiwn am ddim ac nid oes angen cadw lle – dim ond cyfarfod wrth y cyrtiau tennis.

22.10.09

Cyfle olaf i weld arddangosfa codi glo yng Nghanolfan Treftadaeth y Bers

Mae’n llai na phythefnos ar ôl i weld Cyfuniad Ffrwydrol: Codi Glo yng Ngogledd Cymru, yr arddangosfa yng Nghanolfan Treftadaeth y Bers sy’n dweud hanes rhyfeddol codi glo ym meysydd glo Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

19.10.09

Disgyblion Wrecsam i fanteisio ar becynnau storïau

Bydd cannoedd o ddisgyblion dosbarthiadau derbyn yn Wrecsam yn cael bag llyfrau am ddim i helpu eu sgiliau darllen. Wrecsam yw un o ddim ond dau awdurdod yng Nghymru i gael eu dewis fel rhan o gynllun rhagbrofol gyda chefnogaeth elusen annibynnol Booktrust, chwmni addysg a’r cyfryngau Pearson a Sgiliau Sylfaenol Cymru.

16.10.09

Agoriad Swyddogol Parc Ailgylchu Wrecsam

Agorwyd cyfleuster ailgylchu newydd Wrecsam fydd yn helpu lleihau tirlenwi yn y Fwrdeistref Sirol yn swyddogol gan Jane Davidson, Gweinidog y Cynulliad dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ar ddydd Iau, 15 Hydref 2009.

12.10.09

Cynlluniau I cyflwyno terfynau cyflymder 20mya tu allan i ysgolion

Mae’n bosibl y caiff terfyn cyflymder 20mya ei gyflwyno y tu allan i ddeg ysgol arall yn y fwrdeistref sirol fel rhan o gynllun newydd y cytunwyd arno gan Gyngor Wrecsam.

06.10.09

Agor Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Plas Madoc

Mae canolfan ailgylchu gwastraff y cartref newydd sbon Plas Madoc wedi agor yn swyddogol ar gyfer trigolion yn yr ardal ar ôl cael ei agor, gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Arwel Gwynn Jones.

06.10.09

Tai fforddiadwy yn cael sêl bendith

Mae trigolion wedi symud i un o blith nifer o dai fforddiadwy newydd, a ddatblygwyd gyda chymorth arian grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

05.10.09

Cymru dan 21 vs Bosnia-Herzegovina dan 21 - ennill tocynnau

Fe fydd y gem yn cymeryd lle ar Ddydd Sadwrn, 10 Hydref, cic gyntaf am 12.45yp.

21.09.09

Seiren i Nodi 75 Mlynedd ers Trychineb Gresffordd

Er mwyn nodi 75 mlynedd ers trychineb Pwll Glo Gresffordd, lle y collodd 266 o ddynion eu bywydau yn 1934, bydd y seiren cyrch awyr yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn seinio am ddau funud.

17.09.09

Hurtrwydd a Hwyaid mewn Digwyddiad Dyfrbont!

Gellir crynhoi digwyddiad mawr i ddathlu Safle Treftadaeth y Byd diweddaraf Cymru mewn tir gair – ‘hurtrwydd, helynt a hwyaid!’ Bydd y digwyddiad am ddim yn Nyfrbont Pontcysyllte, ger Wrecsam, yn cynnig rhaglen orlawn o adloniant - gan gynnwys anturiaethau llawen yn heidio hwyaid diolch i arddangosiadau anhygoel Meirion Owen, sef Quack Pack.

16.09.09

Gwarchod Ardal Gadwraeth Wrddymbre: Digwyddiad Ymgynghori â’r Cyhoedd

Caiff cynigion ar gyfer Cynllun Rheoli ac Asesu Cymeriad Ardal Gadwraeth a diwygiadau i derfyn Ardal Gadwraeth Wrddymbre eu harddangos yn Neuadd y Pentref, Ffordd yr Eglwys, Wrddymbre rhwng 2 pm a 6 pm ddydd Llun 21 Medi 2009.

11.09.09

Ysgolion Wrecsam ymhlith y cyntaf yng Nghymru i ymuno â rhaglen genedlaethol ar gyfer llyfrau am ddim

Bydd plant ifanc yn Wrecsam ymhlith y cyntaf yng Nghymru i dderbyn pecyn llyfrau am ddim fel rhan o gynllun peilot sydd â’r nod o annog teuluoedd i ddarllen gyda’i gilydd.

02.09.09

Awydd cyfarfod ag Oliver Cromwell?

Bydd hanes gwaedlyd pentref yn Wrecsam ynghanol y rhyfel cartref o dan y chwyddwydr mewn digwyddiaad arbennig ddydd Sadwrn, 19 Medi.

Archif Newyddion

yn ôl i'r brig