Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
| Dyddiad | Newyddion |
|---|---|
| 27.10.04 | Rhybudd cynnar am gau ffyrdd a meysydd parcio Bydd cyngerdd Plant Mewn Angen ar Lwyn Isaf ar 19eg Tachwedd yn amharu rhywfaint ar barcio yng nghanol y dref wrth i'r BBC baratoi ar gyfer noson o adloniant byw yn Llwyn Isaf. |
| 27.10.04 | Rhybudd i Berchnogion Cŵn Anghyfrifol Mae achosion diweddar o gwn crwydr yn ymgasglu yn ardal Southsea wedi annog Adran Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Wrecsam i rybuddio perchnogion cwn anghyfrifol i'w cadw ar dennyn neu dalu ar gyfer eu dychwelyd. |
| 27.10.04 |
Mae Swyddogion Safonau Masnach yn pryderu am adroddiadau diweddar y maent wedi derbyn ynghylch gwerthu tân gwyllt o dai preifat, ceir a thafarndai. |
| 26.10.04 |
Yn ystod y tair wythnos ddiwethaf atafaelodd Safonau Masnach a Swyddogion Heddlu Wrecsam filoedd o nwyddau ffug mewn cyfres o gyrchoedd ar safleoedd manwerthu a chartrefi'r gwerthwyr. Mae'r eitemau a atafaelwyd yn cynnwys DVD a CDau, dillad cynllunwyr, persawrau a chamerâu. |
| 23.10.04 | Datganiad ynghylch Clwb Pêl-droed Wrecsam a’r Cae Ras Cytunodd y Bwrdd Gweithredol (19.10.04) heddiw bod y Cyfarwyddwr Strategol yn trafod telerau ar gyfer prynu'r Cae Ras, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam er mwyn diogelu dyfodol y buddsoddiad a wnaed eisoes gan y cyhoedd ac i sicrhau a datblygu'r Cae Ras fel lleoliad rhanbarthol ar gyfer digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau eraill rhyngwladol ac fel cyfleuster cymunedol. |
| 21.10.04 | Wal Ddringo Neywdd a Man Gemau ym Mhlas Madoc! Mae gan Ganolfan Hamdden Plas Madoc ddau gyfleuster newydd ar gynnig, diolch i bartneriaeth ariannu rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Chwaraeon Cymru a'i raglen Buddsoddiad Cymunedol SPORTLOT a Chymunedau'n Gyntaf Plas Madoc. |
| 21.10.04 | Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dychwelyd i Wrecsam Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dychwelyd i Wrecsam nos Sadwrn, 13 Tachwedd. Wrth i'r nosweithiau hir ein cyrraedd, mae'r Gerddorfa wrth law gyda chyngerdd ar eich cyfer yn Neuadd William Aston NEWI am 7.30pm. |
| 12.10.04 | Marchnad Ffrengig yn ategu at atyniadau canol y dref Bydd y Farchnad Ffrengig boblogaidd yn dychwelyd i ganol tref Wrecsam ar 22ain a 23ain Hydref. Bydd y farchnad boblogaidd yn dod â siopwyr o drefi a phentrefi'r ardal sy'n siwr o gael croeso cynnes gan y masnachwyr. |
| 08.10.04 |
Cynhelir digwyddiad undydd am ddim ar 27 Hydref yn Neuadd Goffa Wrecsam i helpu pobl ag anableddau i ddod o hyd i waith. |
| 08.10.04 | Tynhau’r Rheolau ar Gymdogion Swnllyd Defnyddiodd Cyngor Wrecsam ei bwerau dan Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd i atafaelu offer stereo preswylydd lleol a oedd yn achosi poendod i'w gymdogion. |
| 04.10.04 | Y Cawr Addfwyn: John Charles a Dyfodol Pêl-Droed Mae arddangosfa am un o oreuon chwaraeon Cymru'n agor yn Wrecsam wythnos nesaf. Mae 'Y Cawr Addfwyn: John Charles a Dyfodol Pêl-Droed' yn canolbwyntio ar fywyd John Charles, pêl-droediwr a enillodd lawer o barch ar y maes ac a fu farw'n ddiweddar yn 72 oed. |
| 22.09.04 | Help i ddioddefwyr bwrgleriaeth gwrthdynnu Mae help wrth law ar gyfer dioddefwyr bwrgleriaeth gwrthdynnu ar ôl amryw o achosion ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn ddiweddar. |
| 21.09.04 | Cynllun Grantiau Cymunedau Cynaliadwy 2004 Cynllun i helpu grwpiau cymunedol gyda'u prosiectau lleol. |
| 20.09.04 | Y Cyngor yn Agor ei Ddrysau i’r Cyhoedd Ar ddydd Gwener, 24 Medi, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd pan fydd yn cynnal ei ail ddiwrnod agored! |
| 17.09.04 | Gwasanaeth Coffa i Gofio Pen blwydd Trychineb Glofa Gresffordd yn 70 Oed I gofio pen blwydd Trychineb Glofa Gresffordd yn 70 oed, mae Cyngor Wrecsam yn trefnu Gwasanaeth Coffa i'w gynnal yn Eglwys Yr Holl Saint, Gresffordd bore dydd Mercher 22 Medi am 10.30am ac mae croeso i bawb, yn enwedig perthnasau'r dioddefwyr. |
| 14.09.04 | Ailgylchu'n Dechrau Gwneud Gwahaniaeth Mae Cyngor Wrecsam yn diolch yn fawr iawn i bawb a gynorthwyodd i wneud y cynllun Ailgylchu Gyda Michael newydd yn gymaint o lwyddiant. |
| 14.09.04 |
Yn dilyn tân ar Stryt y Priordy, Wrecsam ar nos Dydd Llun, dywedodd Cyfarwyddwr Strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Paul Roberts: “Mae hyn yn amlwg yn dro anffodus i ganol y dref, ond mae'n rhaid i ni fod yn ddiolchgar nad oes neb yn ôl pob tebyg wedi colli eu bywydau na chael anaf.” |
| 03.09.04 | Oes Newydd ar gyfer Dwy o Ysgolion Wrecsam Daeth y newidiadau i addysg ysgol uwchradd Wrecsam gam yn agosach heddiw pan ddechreuodd disgyblion Ysgol Uwchradd Rhosnesni astudio yn eu hadeilad newydd sbon. |
| 01.09.04 | Y Cynulliad yn Ailbrisio ac Ailfandio Treth y Cyngor Cyhoeddodd y Cynulliad fanylion am ailbrisio tai unigol at ddibenion bandiau treth y cyngor. |