Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
| Dyddiad | Newyddion |
|---|---|
| 26.10.07 |
Mae Cyngor Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru ac Awdurdod Tân Gogledd Cymru yn cydweithio i ostwng y perygl o losgi bwriadol yn y cyfnod sy'n arwain at Noson Tân Gwyllt. |
| 26.10.07 |
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn barod i ddefnyddio'r gyfraith i sicrhau ei fod yn ymdrin â phroblemau cŵn yn baeddu a sbwriel yn ddioed. Mae'r Awdurdod eisoes yn cyflwyno mwy o gosbau penodedig £75 na'r un cyngor arall yng ngogledd Cymru ac mae'n rhybuddio troseddwyr y bydd yn mynd â nhw i'r llys os na fyddant yn talu. |
| 24.10.07 | Bwyd sydd wedi mynd heibio’r dyddiad defnyddio yn costio £10,000 i Tesco Wrecsam Ar 11 Hydref 2007 bu i Ynadon Wrecsam roi dirwy o £7,600 i Tesco Stores Limited a’u gorchymyn i dalu £2,191 o gostau’r yn dilyn yr erlyniad am werthu bwyd a oedd wedi mynd heibio’r dyddiad defnyddio yn eu siop ar Ffordd y Cilgant, Wrecsam. |
| 22.10.07 |
Penodwyd Prif Swyddog Adnoddau Dynol newydd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cafodd Lucy Crumplin, ei magu a’i haddysgu yn y Coed Duon yn Ne Gymru. Derbyniodd radd o Brifysgol Caerdydd sef BA cyd anrhydedd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Seicoleg. Mae hefyd yn Aelod Graddedig o Sefydliad Siartredig Datblygiad a Phersonél ac mae wedi ennill MSc mewn Adnoddau Dynol o Brifysgol Southbank. |
| 16.10.07 |
Bu grwpiau ieuenctid o bob rhan o Wrecsam yn cymryd rhan mewn Dathliad Cyfranogiad llwyddiannus a boddhaus yng Ngwesty Ramada Plaza. Hefyd yn ystod y diwrnod, a ariannwyd yn rhannol o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cafwyd lansiad y wefan www.wrecsamifanc.co.uk, sy’n wefan wybodaeth ar gyfer pobl ifanc 1-25 oed sy’n byw, gweithio neu astudio yn Wrecsam. |
| 12.10.07 | Mae Cyngor Wrecsam yn chwilio am aelodau annibynnol ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ar hyn bryd mae Cyngor Wrecsam yn hysbysebu am ddau aelod annibynnol i fod ar Bwyllgor Safonau'r Fwrdeistref Sirol. |
| 12.10.07 |
Fel rhan o Wythnos Democratiaeth Leol mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi llunio cystadleuaeth cwis i ddisgyblion ysgolion Wrecsam.Mae’r cwis yn cynnwys 15 cwestiwn, y cyfan wedi eu cysylltu i, naill ai gwasanaethau’r Cyngor neu Lywodraeth Cynulliad Cymru. |
| 28.09.07 |
Symudiadau Traed a’r Genau – Cyfarwyddyd a Thrwyddedau Yn unol â chyngor milfeddygol diweddar mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penderfynu estyn ystod symudiadau a ganiateir i anifeiliaid a allai gael Clwy’r Traed a’r Genau dan drefniadau bioddiogelwch caeth er mwyn ymateb i faterion diymdroi yn unol â’r Cynllun Wrth Gefn. |
| 25.09.07 |
Bwriedir cynnal etholiad am gynghorydd bwrdeistref sirol ar gyfer yr is-adran etholiadol a ennwir uchod. |
| 20.09.07 |
Roedd Plas Madoc yn fuddugol yn rowndiau terfynol dan 15 oed a dan 18 oed Cwpan y Byd Mini, a gynhaliwyd yn y Cae Ras ar 15 Medi, am yr ail flwyddyn yn olynol. |
| 20.09.07 |
Yn unol â chyngor milfeddygol diweddar mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penderfynu caniatau symudiad cyfyngedig o anifeiliaid sy’n chwannog i gael Clwy’r Traed a’r Genau o dan drefniadau bioddiogelwch llym er mwyn cyfarfod â materion brys yn unol â’r Cynllun Wrth Gefn. |
| 12.09.07 |
Yn dilyn yr ymchwiliad i Glwy’r Traed a’r Genau posibl yn Egham ar ffin Surrey/Berkshire mae gwaharddiad cenedlaethol traws-Brydeinig ar symud moch, gwartheg, defaid ac anifeiliaid cnoi cil eraill wedi ei arosod. Ni chaniateir symud anifeiliaid drwy’r wlad gyfan ac eithrio dan amodau trwydded. |
| 12.09.07 |
Gall trigolion Wrecsam edrych ymlaen at amgylchedd glanach, gwyrddach a saffach ar ôl i Gyngor Wrecsam lansio ei fenter newydd, “Strydoedd o Fri”. Mae’r fenter yn rhoi un cysylltbwynt hygyrch i drigolion er mwyn iddynt roi gwybod am unrhyw broblemau sy’n effeithio ar eu strydoedd, priffyrdd a mannau agored. |
| 11.09.07 |
Aeth noddwyr ymgais Wrecsam yn y gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau i ddathliad yn ddiweddar lle cawsant ddiolch gan Gyngor Wrecsam am eu holl waith caled a’u cefnogaeth. |
| 06.09.07 |
Mae dros 200 o ddisgyblion wedi dychwelyd i ysgol newydd sbon heddiw ar ôl i Ysgol I.D Hooson yn y Rhos gael ei chwblhau. |
| 05.09.07 | Gwelliannau sy’n werth £30,000 i ffordd yn Llannerch Banna Bydd gyrwyr sy’n mynd trwy Lannerch Banna’n cael siwrnai fwy esmwyth unwaith i rannau o’r A539 rhwng Lôn Llwyncelyn a Pharc Penda cael eu hailwynebu. |