Archif Newyddion

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

Medi - Hydref 2010

Dyddiad Newyddion
28.10.10

Cyfle Olaf i Enwebu am Wobrau Chwaraeon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ynghyd â’r tîm Datblygu Chwaraeon, yn croesawu enwebiadau terfynol ar gyfer Gwobrau Chwaraeon 2010 o fri eleni.

27.10.10

Cynllun Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam er mwyn dathlu Noson Calangaeaf a Noson Gut Ffowc yn Ddiogel

O ran y mwyafrif o bobl, un o’r pethau pwysicaf ynghylch dathlu Noson Calangaeaf a Noson Guto Ffowc yw gwybod na fydd perygl iddynt ddioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dyna un o’r prif amcanion ar gyfer Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam.

26.10.10

Hanner Tymor Hwyliog ym Mharc Bellevue

Yn ystod yr hanner tymor sydd ar ddod fe gynhelir digwyddiad difyr Helfa Drysor Bywyd Gwyllt ym Mharc Bellevue, ar ddydd Mercher Hydref 27ain o 1pm - 3pm.

22.10.10

Lansio Gwasanaeth Newydd ar gyfer Plant a Theuluoedd sy’n Agored i Niwed

Mae gwasanaeth newydd arloesol wedi cael ei lansio yn Wrecsam a’i fwriad yw gwneud gwahaniaeth i fywydau’r plant a’r teuluoedd hynny sydd fwyaf agored i niwed yn yr ardal.

21.10.10

Yr Wythnos Efeillio’n dechrau’n drawiadol

Yn ystod y penwythnos cafwyd dechrau bendigedig i’r dathliadau er mwyn nodi pedwar degfed pen-blwydd digwyddiad gefeillio Wrecsam â Märkischer Kreis. Ar ddydd Sadwrn roedd Sgwâr y Frenhines wedi cael ei weddnewid ar gyfer dathlu Diwrnod Ewrop, digwyddiad a gynhelir i roi sylw amlwg i gytundeb gefeillio Wrecsam.

20.10.10

Trowch y golau ymlaen yr hydref hwn

Wrth i nosweithiau tywyll yr hydref nesáu mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn awyddus i annog trigolion yn y Fwrdeistref Sirol i ganolbwyntio ar gadw eu cartrefi’n ddiogel.

20.10.10

Syniadau Hydrefol ym Mharciau Gwledig Wrecsam

Yn ystod hanner tymor yr hydref bydd gwasanaeth Parciau a Chefn Gwlad Wrecsam yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyffrous i bobl ifanc.

20.10.10

Cyngor yn cyflwyno Cyfleuster Egwyl Tymor Byr

Heddiw mae Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Wrecsam wedi agor y cyfleuster egwyl tymor byr newydd yn Lôn yr Ysgubau Gwersyllt.

15.10.10

Defnyddiwch eich doethineb nid ysgol ddiffygiol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cefnogi menter genedlaethol sydd ers 2007 wedi cyfnewid miloedd o ysgolion sydd wedi torri neu wedi plygu am rhai newydd.

15.10.10

Nofio Am Ddim yn Gwneud Tipyn o Sbloet

Mae'r sesiynau nofio am ddim a gynigir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystod gwyliau ysgol yn hynod boblogaidd ac oherwydd hynny maent yn mynd i gael eu hestyn o ddydd Sadwrn Hydref 23ain er mwyn cynnwys y penwythnosau yn ystod y tymor.

08.10.10

Galw Wrecsam yn cael cefnogaeth gan y Fforwm Anabledd

Bydd pobl anabl sy’n ymweld â Galw Wrecsam gan Gyngor Wrecsam ar Stryd yr Arglwydd, yn sicr o gael mynediad heb ei ail, ar ôl iddynt dderbyn tystysgrif gan Fforwm Anabledd Wrecsam.

08.10.10

Gorymdaith er mwyn Dathlu 150fed Pen-blwydd y Cadlanciau

Ar ddydd Sul Hydref 10fed am 2.00pm bydd aelodau Lluoedd y Cadlanciau yn gorymdeithio trwy strydoedd Wrecsam er mwyn nodi eu 150fed pen-blwydd.

08.10.10

Gwaith ar y gweill i adeiladu ysgol £5m yn Rhosymedre

Mae gwaith i ddarparu ysgol newydd i 210 o blant wedi cychwyn yn Rhosymedre ar ôl gorffen dymchwel yr ysgol bresennol. Mae’r prosiect yn cael ei reoli gan Dîm Rheoli Asedau Cyngor Wrecsam, a bydd y datblygiad, sydd werth £5 miliwn, yn cael ei adeiladu gan Watkin Jones a dylai fod wedi ei gwblhau erbyn dechrau tymor yr Hydref 2011.

06.10.10

Dathlu Pen Blwydd Gefeillio

Trefnwyd cyfres o achlysuron i ddathlu’r 40fed pen blwydd gefeillio Wrecsam a Märkischer Kreis.

06.10.10

Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans yn paratoi i ailagor

Mae Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans yng Ngwersyllt, Wrecsam r fin ailagor ar 12fed Hydref yn dilyn gwaith adnewyddu o  £750,000.

06.10.10

Rydym yn ailgylchu yn Wrecsam – Peidiwch â’i Finio, Dewch ag ef

Ymddangosodd dau fin newydd llwyd a phinc yn Wrecsam i helpu trigolion ailgylchu eitemau trydanol bach.

04.10.10

Darllen Difyr Wrecsam 2010

Pa un yw eich hoff lyfr? Dewch i ddarganfod eich hoff stori o blith rhestr fer o ddwsin o lyfrau o Gymru, chwech yn Gymraeg a chwech yn Saesneg. Darllenwch y chwech yn eich dewis iaith a phleidleisiwch am eich hoff lyfr – naill ai ar gerdyn pleidleisio yn y llyfrgell neu ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/llyfrgelloedd. Mae croeso i chi ddarllen y dwsin, wrth gwrs!

04.10.10

Tu Ol i Bob Seren yn dod i Wrecsam

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhoi cefnogaeth lawn i ymgyrch sy’n dathlu effaith hyfforddwyr a gwirfoddolwyr chwaraeon yng Nghymru.

30.09.10

Camp Tair Gwobr i Gwasanaethau Tai a Diogelu’r Cyhoedd yn Wrecsam

Mae Adran Tai a Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cael tair Gwobr Gymuned Ôl Troed Lles Anifeiliaid RSPCA i gydnabod ei hagwedd arloesol at Les Anifeiliaid.

28.09.10

Cymunedau yng Nghanol a De Wrecsam ar fin elwa ar Gynllun Grant

Mae grwpiau cymunedol yng Nghanol a De Wrecsam ar fin elwa ar gynllun grantiau a oedd ond ar gael yng Ngorllewin Wrecsam o’r blaen. Mae Adran Datblygu Economaidd Cyngor Wrecsam wedi ehangu’r Cynllun Grantiau Bach y gellir ei ddefnyddio i ariannu prosiectau sy’n ymwneud â phobl leol yn eu cymuned. Yr ardaloedd newydd sy’n gymwys i gael y cyllid hwn yw Acton, Parc Caia, Hightown, Rhosddu, Cefn Mawr, Y Waun, Johnstown, Pant, Penycae, Plas Madoc, Ponciau a Rhiwabon.

28.09.10

Cynnal cyrsiau hyfforddiant Rygbi’r Gynghrair yn Wrecsam ym mis Hydref

Hoffech chi gymryd rhan yn Rygbi’r Gynghrair? Beth am fod yn hyfforddwr neu ddyfarnwr? Mae Rygbi’r Gynghrair Cymru yn cynnal cyrsiau sylfaen mewn hyfforddi a dyfarnu yn Wrecsam ym mis Hydref.

27.09.10

Dennis Taylor yn cefnogi cais y dref am gynnal twrnamaint snwcer

Mae un o gewri snwcer, Dennis Taylor, yn cefnogi’r cais y mae Wrecsam yn ei wneud er mwyn cynnal cystadleuaeth newydd chwyldroadol. Mae Wrecsam yn gwneud cais am gynnal digwyddiad newydd ONEFORSEVEN yn y dref yr haf nesaf, ac fe’i cynhelir ym Mhrifysgol Glyndŵr.

23.09.10

Lansio cymhorthfa alw heibio Safonau Masnachu

Lansiwyd gwasanaeth newydd cynghori defnyddwyr yn Galw Wrecsam. Bydd staff o Safonau Masnachu wrth law bob dydd Llun a dydd Gwener (9.30-12.30pm a 2-4pm) yn Stryt yr Arglwydd, i gynnig cyngor i’r cyhoedd ar amrywiaeth o faterion defnyddwyr.

22.09.10

MEND @ Wrexham

Mae lleoedd ar gael yn Wrecsam i ddilyn rhaglen meddwl, ymarfer a maeth o’r enw MEND, ac sy’n dechrau ym mis Hydref 2010 ac eto ym mis Ionawr 2011. Mae’r cynllun byw’n iach eisoes wedi helpu nifer o deuluoedd i ddechrau ffordd o fyw mwy iach mewn 10 wythnos yn unig ar hyd a lled Cymru, ac mae’r cwrs newydd hwn yn rhoi cyfle i fwy o blant a rheini i elwa.

21.09.10

Mwy o Dai Fforddiadwy ar gyfer Pobl Leol

Mae UGAIN o dai fforddiadwy wedi eu hadeiladu yn Rhostyllen ac mae pob un ohonynt eisoes wedi eu gwerthu.

21.09.10

Dewch i Ganu - Cyfle i Ymuno  Chor Yr Eisteddfod

Yr wythnos hon, bydd Côr Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn ail-gychwyn ar ôl yr haf, gyda chroeso mawr i aelodau hen a newydd, yng Nghapel y Groes, Wrecsam am 19.30 nos Sul.

17.09.10

Cymunedau lleol ar fin elwa ar Gynllun Grant

Mae grwpiau cymunedol yng Nghanol a De Wrecsam ar fin elwa ar gynllun grantiau sydd newydd gael ei ehangu. Mae Adran Datblygu Economaidd Cyngor Wrecsam wedi ehangu’r Cynllun Grantiau Bach y gellir ei ddefnyddio i ariannu prosiectau sy’n ymwneud â phobl leol yn eu cymuned.

17.09.10

Gwobr Ryngwladol i Ysgol Babyddol y Santes Fair

Cafodd Ysgol Gynradd Babyddol y Santes Fair yng nghanol tref Wrecsam Wobr Ryngwladol o fri gan y Cyngor Prydeinig.

16.09.10

Cau Canolfan Ailgylchu Cymdogaeth Lôn Price

Bydd Canolfan Ailgylchu Cymdogaeth Lôn Price yn cau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 4ydd Hydref 2010. Gwnaed penderfyniad i gau’r safle ar ôl galw Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru ac Adran Strydoedd o Fri Cyngor Wrecsam allan nifer o weithiau.

15.09.10

Gwobrau Chwaraeon Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2010

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynghyd â’u tîm datblygu chwaraeon yn gofyn i bobl anfon eu henwebiadau ar gyfer digwyddiad mawreddog eleni – sef Gwobrau Chwaraeon Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2010. Cynhelir y digwyddiad bob blwyddyn.

15.09.10

Cerddorion ifanc Wrecsam yn perfformio’n gyntaf yng Ngŵyl Gogledd Cymru

Y mis hwn bydd grŵp o gerddorion ifanc Wrecsam yn cymryd rhan mewn gŵyl fawreddog.

14.09.10

Dynes yn cael ei dedfrydu am beidio â thalu treth y cyngor

Yn Llys Ynadon Wrecsam fe ddedfrydwyd Mrs Sharon Young o 108 Bryn Hafod, Wrecsam i 52 diwrnod o garchar am iddi beidio â thalu treth y cyngor. Roedd gan Mrs Young ôl-ddyledion treth y cyngor o £2068.74.

13.09.10

Y Cyngor yn mynd i i Bartneriaeth gyda Travis Perkins

Mae Cyngor Wrecsam wedi ymuno â Travis Perkins, un o gyflenwyr adeiladwyr blaenllaw’r DU, i wella ei gwasanaeth trwsio ar gyfer tenantiaid y cyngor.

10.09.10

Plas-y-Delph yn dathlu 25 mlynedd

Yr wythnos hon bydd uned gysgodol Plas-y-Delph yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 mlwydd oed mewn steil gyda diwrnod o ddathliadau.

10.09.10

Y Maer yn Codi Mwy o Arian nag Erioed

Mae’r Maer blaenorol, y Cynghorydd Arwel Gwynn Jones, wedi plesio ei elusennau enwebedig yn fawr trwy godi £39,000 enfawr at ei fenter codi arian “blwyddyn y plentyn”.

09.09.10

Rygbi Cynghrair Rhyngwladol yn dod i Wrecsam

Mae Rygbi Cynghrair Rhyngwladol yn dod i Wrecsam yr Hydref hwn. Bydd Cymru yn paratoi ar gyfer Cwpan Ewrop Alitalia yr Hydref hwn gyda gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Eidal ar y Cae Ras ar ddydd Sul, Hydref 3ydd (cic gyntaf 2pm).

08.09.10

Beth am fynd draw i archwilio mynwentydd gwledig Wrecsam

Mae taflenni a phaneli dehongli ar gael bellach er mwyn cynorthwyo pobl i archwilio mynwentydd yng nghefn gwlad Wrecsam fel rhan o brosiect Mannau Sanctaidd. Maent yn rhoi sylw amlwg i’r pethau arwyddocaol o ddiddordeb hanesyddol ac o ran y bywyd gwyllt sydd i’w gweld yn y 12 mynwent arbennig.

07.09.10

Cystadleuaeth yn Erbyn Yfed a Gyrru

Mae Adran Diogelwch ar Ffyrdd Cyngor Wrecsam yn chwilio am grwpiau o bobl ifanc i gynnig ar gystadleuaeth yn erbyn yfed a gyrru sy’n cael ei chynnal fel rhan o ymgyrch genedlaethol yfed a gyrru cyn y Nadolig. Bydd y grwp buddugol yn derbyn £200 a bydd yn mynd ymlaen i’r rowndiau terfynol rhanbarthol gyda chyfle i ennill £500 arall!

06.09.10

Diwrnod Cymhelliad 2010

Ar Fedi 8fed rhwng 9.30 a 4.30 ym Mhrifysgol Glyndŵr fe gynhelir diwrnod gweithgareddau er mwyn gwneud mwy o bobl yn ymwybodol o iechyd corfforol a lles meddwl.

03.09.10

Rhagor o Swyddi ar gael yn Wrecsam yn sgil Cyfrifiad 2011

Bydd y cyfrifiad cenedlaethol nesaf ar boblogaeth y wlad, yn cael ei gynnal ar Fawrth 27ain 2011 ac mae hynny’n golygu y bydd amrywiaeth o swyddi ar gael i bobl leol ymgeisio amdanynt o fis Medi ymlaen.

03.09.10

Cartrefi fforddiadwy i bobl leol yng Nghoedpoeth

Mae cartrefi fforddiadwy newydd wedi cael eu hadeiladu yng Nghoedpoeth ac o ran pwy fydd yn byw ynddynt, fe roddwyd y flaenoriaeth i drigolion y pentref ei hun.

02.09.10

Ewch ati nawr i sicrhau y cewch ddweud eich dweud yn 2011

Mae pleidleiswyr ledled Wrecsam wedi dechrau derbyn eu ffurflenni blynyddol ar gyfer cofrestru pleidleiswyr. Gallai’r ffurflenni hyn olygu y cewch chi ddweud eich dweud – neu beidio â gwneud – am y materion sy’n effeithio arnoch chi.

Archif Newyddion

yn ôl i'r brig