Archif Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

Tachwedd - Rhagfyr 2007

Dyddiad Newyddion
31.12.07

Llawer o ymateb i Ymgynghoriad y Cynllun Datblygu Lleol

Mae’r Cyngor wedi derbyn ymatebion lu gan y cyhoedd yn dilyn cam cyntaf yr ymgynghoriad am Gynllun Datblygu Lleol Wrecsam.

24.12.07

Gweithgarwch Pur (Mae’r 100 cyntaf yn arbed £25!)

Os ydych awydd dod yn heini neu golli pwysau yn y flwyddyn newydd, ewch draw i’ch canolfan hamdden a gweithgareddau leol i sicrhau eich bod yn arbed £25!

24.12.07

Teithio'nSiŵr - Gweithio i gynnal System Cludiant Cyhoeddus Diogel i Wrecsam

Mae Teithio'nSiŵr yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a chwmnïau bysiau lleol i sefydlu trefn i adrodd am achosion trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y rhwydwaith cludiant cyhoeddus.

21.12.07

Diogelwch Bwyd dros y Nadolig

Gyda thymor y Nadolig yn agosáu a’n meddyliau’n troi tua hwyl yr wyl mae Cyngor Wrecsam yn gofyn i breswylwyr dreulio ychydig funudau yn ystyried eu gwastraff - a sut y byddant yn cael gwared ohono i gyd.

20.12.07

Gwiriwch eich Sticeri Bin,, Newidiadau Gwyl Banc y Nadolig

Gyda thymor y Nadolig yn agosáu a’n meddyliau’n troi tua hwyl yr wyl mae Cyngor Wrecsam yn gofyn i breswylwyr dreulio ychydig funudau yn ystyried eu gwastraff - a sut y byddant yn cael gwared ohono i gyd.

13.12.07

Ardal chwarae newydd i blant Bers

Bellach mae gan bobl ifanc ardal Bers rywle diogel a dymunol i chwarae ynddo yn dilyn agor ardal chwarae newydd sbon ger Canolfan Treftadaeth Bers.

04.12.07

Prif Wobr i Brentis Modern Wrecsam

Enwyd Rebecca Jones yn Brentis Modern y Flwyddyn Cyngor Wrecsam yn y  Diwrnod Cydnabod Cyflawniad blynyddol a gynhaliwyd yn y Neuadd Goffa. Cyn ymuno â Chyngor Wrecsam roedd Rebecca’n ddisgybl yn Ysgol Clywedog yn Wrecsam.

30.11.07

Gwybod Eich Hawliau y Nadolig Hwn

Gyda’r Nadolig yn nesáu’n gyflym, mae Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam wedi crynhoi ychydig o gyngor tymhorol i’ch helpu osgoi problemau gyda siopa Nadolig.

30.11.07

Zoot Serious and the Bellyful of Bop

Cynhelir dawns Nadoligaidd arbennig gyda’r grŵp poblogaidd 'Zoot Serious and the Bellyful Of Bop' yn y Neuadd Goffa ar 15fed Rhagfyr.

28.11.07

Cyfleuster newydd yn rhoi camddefnyddwyr ar y ffordd i wella

Mae prosiect sy’n cynorthwyo oedolion i wynebu’u trafferthion gyda chyffuriau ac alcohol wedi’i agor yn swyddogol heddiw gan Faer Wrecsam, Cyngh. Mrs Joan Lowe.

23.11.07

Cyngor Wrecsam yn Enwi Gyrrwr y Flwyddyn

Bu i Dave Maybury, gyrrwr ysgubwr sy'n gweithio yn Adran Strydoedd o Fri Gwasanaethau'r Amgylchedd yng Nghyngor Wrecsam gael ei enwi fel enillydd gwobr 'gyrrwr y flwyddyn' y Cyngor mewn seremoni a gynhaliwyd yn ddiweddar.

22.11.07

Lansio Pwyntiau Gwybodaeth i Rieni

Er mwyn gwella mynediad at wybodaeth am faterion gofal plant a materion sy’n ymwneud â phlant, mae’r Ganolfan Gwybodaeth am Blant ar hyn o bryd yn rhoi sgriniau cyffwrdd sy’n bwyntiau gwybodaeth i rieni ar brawf mewn gwahanol leoliadau yn Wrecsam.

21.11.07

Targedu Cludwyr Gwastraff Anghyfreithlon

Mae ymgyrch amlasiantaeth wedi bod yn targedu pobl sy’n cludo gwastraff yn anghyfreithlon yn ddiweddar yn ardal Wrecsam. Bu i Swyddogion Gorfodaeth Amgylcheddol Wrecsam ymuno â Swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd a Heddlu Gogledd Cymru i stopio cerbydau a oedd yn debygol o fod yn cludo gwastraff masnachol.

15.11.07

Parcio a Theithio dros y Nadolig yng nghanol tref Wrecsam

Unwaith eto eleni bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithredu gwasanaeth Parcio a Theithio i wasanaethu canol y dref y Nadolig hwn.

14.11.07

Agoriad Swyddogol Ysgol Clawdd Wat

Croesawodd Ysgol Clawdd Wat, Garden Village ei gyn-bennaeth i’r ysgol i nodi’n swyddogol cwblhad cytundeb ailfodelu ac adnewyddu gwerth £575,000.

12.11.07

Gwaith Ffordd Ar-lein

Gall preswylwyr ac ymwelwyr â Wrecsam nawr gael gwybodaeth gywir am waith ffordd yn eu hardal yn dilyn gwelliannau i wefan y Cyngor. Wrecsam yw’r sir gyntaf yng Nghymru i roi gwybodaeth fel hyn ar gael "ar y pryd".

09.11.07

"Pwy sydd eisiau chwarae?" – Rhwydwaith Chwarae Wrecsam

Cynhelir digwyddiad gan Rwydwaith Chwarae Wrecsam yn yr Oriel NEWI ddydd Iau, 15fed Tachwedd. Bydd sesiynau'r rhwydwaith yn rhedeg o 1pm tan 2.30pm ac wedyn o 6pm tan 7.30pm.

06.11.07

Grant Parc Acton o Gronfa Treftadaeth y Loteri

Mae Cyngor Wrecsam, ar y cyd Chyngor Cymuned Acton, wedi llwyddo yn eu cais am grant o 47,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri dan y pennawd "Parciau ir Bobl".


Archif Newyddion

yn ôl i'r brig