Archif Newyddion

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

Tachwedd - Rhagfyr 2010

Dyddiad Newyddion
31.12.10

Datganiad ynghylch tyllau yn y ffordd 

Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Gyngor Wrecsam dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant: "Yn ystod y tywydd garw yn ddiweddar mae Cyngor Wrecsam wedi taenu ychydig dros bum mil o dunelli o halen ar ein rhwydwaith priffyrdd."

30.12.10

Gwnewch sblash! Bwciwch wersi nofio eich plentyn NAWR! 

Mae gan bob un o ganolfannau hamdden a gweithgareddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam le yn eu rhaglenni gwersi nofio sy’n dechrau ym mis Ionawr 2011.

30.12.10

Rhowch sbardun i ffordd newydd o fyw yn 2011 gyda MEND

Mae lleoedd rhad ac am ddim ar gael yn Wrecsam y mis Ionawr hwn ar raglen Meddwl, Ymarfer Corff a Maeth o’r enw MEND. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n cynnig y cwrs gyda’r bwriad o gynorthwyo pobl i ddod yn fwy heini, yn iachach ac yn hapusach!

24.12.10

Manteisio mwy gyda Pur...

Ymunwc H Heddiw a Does Dim Angen Talu tan 20fed Chwefror 2011.

23.12.10

Goleuadau, Camera, Amdani!

Mae pobl ifanc ar draws Wrecsam sydd â’u bryd ar wneud ffilmiau’n cael eu hannog i ymgeisio mewn cystadleuaeth ar gyfer Ewrop gyfan.

22.12.10

Casglu sbwriel yn ystod tywydd difrifol

Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i barhau i weithredu gwasanaeth casglu sbwriel yn ystod y cyfnod hwn o dywydd gaeafol iawn.  Mewn rhai achosion mae’n rhy beryglus i ni fynd â lorïau sbwriel trwm ar strydoedd ochr cul neu serth.

22.12.10

Ymddangosiad cyntaf Brymbo Bryn!

Plant Ysgol y Santes Fair, Brymbo oedd y rhai cyntaf i gyfarfod mascot Archifdy ac Amgueddfa Wrecsam mewn seremoni i’w enwi yn yr ysgol yr wythnos ddiwethaf.

22.12.10

Edrychwch ar y sticeri ar eich bin sbwriel – Gwyliau’r Banc cyfnod y Nadolig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn atgoffa pobl i edrych ar y sticeri ar eu biniau sbwriel a’u calendrau casglu sbwriel i nodi’r newidiadau oherwydd gwyliau’r banc cyfnod y Nadolig.

22.12.10

Annog rhieni i rybuddio plant am beryglon rhew

Mae Adran yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gofyn i rieni wneud eu plant yn ymwybodol o beryglon rhew wrth iddi ymddangos y bydd y gwyliau Nadolig yn gyfnod oer a rhewllyd. 

17.12.10

Partneriaid yn uno â’i gilydd i hybu’r ymgyrch Mewn Achos o Argyfwng (In Case of Emergency - ICE)

Mae staff gwasanaeth ambiwlans Wrecsam yn cefnogi ymgyrch i ddod â chymorth i’r rhai mewn trybini yn ystod tymor y partïon Nadolig a Blwyddyn Newydd yn nhref Wrecsam trwy wneud yn siwr bod rhifau’n cyfri. 

17.12.10

Maer Wrecsam yn agor Canolfan Hamdden a Gweithgaredd Gwyn Evans yn swyddogol

Agorwyd Canolfan Hamdden a Gweithgaredd Gwyn Evans yn swyddogol gan Faer Wrecsam ddydd Gwener, 10 Rhagfyr, yn dilyn gwaith uwchraddio gwerth £750,000.

17.12.10

Datganiad gan Cyngor Wrecsam - Isobel Garner

Mae Cyngor Wrecsam yn gallu cadarnhau bod Isobel Garner, Prif Weithredwr yr awdurdod, wedi rhoi hysbysiad ffurfiol ei bod yn bwriadu ymddiswyddo o’i swydd.

16.12.10

10% yn llai o Gŵn Strae

Mae ffigurau diweddar ar gyfer cŵn strae yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dangos gostyngiad o 10% yn nifer y cwn strae y mae Gwasanaeth Warden Cŵn y Cyngor wedi ymdrin â hwy o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Mae nifer y cŵn strae yr adroddodd y cyhoedd amdanynt wedi gostwng tua’r un faint dros yr un cyfnod.

16.12.10

Gofyn i’r henoed Gadw’n Ddiogel a Chadw mewn Cysylltiad

Mae’r tywydd garw diweddar mewn rhannau o’r DU wedi costio bywydau 4 o bobl oedrannus sydd wedi rhewi i farwolaeth ar ôl disgyn yn eu gerddi. Gyda rhagolygon am fwy o dywydd garw, mae Cyngor Wrecsam yn erfyn ar bobl sy’n agored i niwed i wneud defnydd llawn o Wasanaeth Teleofal Wrecsam er mwyn ceisio sicrhau na fydd trasiedi fel hyn yn digwydd yma.

15.12.10

Digwyddiad Cyngor Wrecsam i Gydnabod Cyflawniad

Mae staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi eu canmol yn eu Digwyddiad Cydnabod Cyflawniad blynyddol.

14.12.10

Neges diogelwch y ffordd yn dod i Faracs Hightown

Tynnwyd sylw milwyr at beryglon yfed a gyrru ar ffurf cyflwyniad di-flewyn ar dafod.

13.12.10

Dechrau’r Gwaith Cyntaf ar Ffordd yr Ystâd Ddiwydiannol

O’r diwedd, mae’r gwaith y bu Wrecsam yn disgwyl yn hir amdano i wneud ffordd i’r Ystâd Ddiwydiannol, wedi ymadael â’r bwrdd cynllunio ac mae’r gwaith cyntaf wedi dechrau i baratoi safleoedd y gogledd a’r de ar gyfer y gwaith adeiladu.

13.12.10

Gwledd i’r adar ym Mharc Ponciau

Cafodd gwaith mwy na 350 o blant lleol sy’n ddisgyblion yn Ysgol Hooson ac Ysgol Maes y Mynydd ei weld ar y coed ym Mharc Ponciau ar y penwythnos.

10.12.10

Carolau a hwyl yr Ŵyl yn dod i Sgwâr y Frenhines

Bydd teimlad Nadoligaidd yn Sgwâr y Frenhines yfory gyda chyngerdd o garolau’r ŵyl gan Fand Ysgolion Wrecsam.

10.12.10

Disgyblion yn dod â hwyl yr ŵyl i Farchnad y Bobl

Mae’r Nadolig wedi cyrraedd go iawn yn Wrecsam, a bydd disgyblion o Ysgol Hafod y Wern yn mynd i hwyl yr ŵyl gyda chyngerdd carolau arbennig ym Marchnad y Bobl yr wythnos nesaf.

08.12.10

Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011

Mae 2011 yn mynd i fod yn flwyddyn FAWR i Wrecsam! Pam? Beth am fwy na 300 o ddigwyddiadau diwylliannol trwy gydol y flwyddyn i ddathlu’r gorau o’r hyn sydd gan ardal Wrecsam i’w gynnig!

08.12.10

Parcio yng nghanol y dref yn ystod adeg y Nadolig

Er mwyn i’r cyhoedd sy’n teithio wybod am bob newid i’r rhwydwaith bysiau lleol yn ardal Wrecsam, mae’r Cyngor unwaith eto yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r trefniadau ar gyfer teithio ar fysiau lleol dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn newydd.

08.12.10

Gwasanaethau Bws Lleol dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Er mwyn i’r cyhoedd sy’n teithio wybod am bob newid i’r rhwydwaith bysiau lleol yn ardal Wrecsam, mae’r Cyngor unwaith eto yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r trefniadau ar gyfer teithio ar fysiau lleol dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn newydd.

06.12.10

Carolau’r Nadolig yn y Parc

Bydd Parc Bellevue yn cynnal gwasanaeth carolau o lwyfan y band ar ddydd Mercher 8fed Rhagfyr. Mae’r digwyddiad yn cychwyn gyda phlant Ysgol Victoria yn canu am 4.15pm ac yna Côr Eglwys yr Holl Seintiau.

06.12.10

Torf dda i groesawu Sion Corn

Gyda’r Nadolig yn nesáu, ydych chi’n chwilio am anrheg arbennig eleni? Gall Ty Mawr eich helpu! Mae gennym gynllun bellach o’r enw ‘Cynllun Noddi Anifail’, lle gallwch ddewis anifail yr hoffech ei noddi am gyn lleied â £5 y flwyddyn am yr anifeiliaid lleiaf a £10 am y rhai mwyaf.

06.12.10

Noddi anifail yn Nhy Mawr ar gyfer y Nadolig

Gyda’r Nadolig yn nesáu, ydych chi’n chwilio am anrheg arbennig eleni? Gall Ty Mawr eich helpu! Mae gennym gynllun bellach o’r enw ‘Cynllun Noddi Anifail’, lle gallwch ddewis anifail yr hoffech ei noddi am gyn lleied â £5 y flwyddyn am yr anifeiliaid lleiaf a £10 am y rhai mwyaf.

03.12.10

Gwneud llusernau yn Oriel Wrecsam

Mae canolfan gelfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Oriel Wrecsam yn cynnal gweithdai 'Croeso i Wneud Llusernau' er mwyn paratoi at Flwyddyn Diwylliant Wrecsam yn 2011.

03.12.10

Cadw’n Gynnes dros y Gaeaf: cyngor i rai dros 60 oed

Wrth i’r tymheredd ostwng yn Wrecsam a’r Sir yn profi eira a rhew cynaf y gaeaf, y neges gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw Cadw Gynnes, Cadw’n Iach.

02.12.10

Plant yn Cwblhau’r Addurn Wal Canmlwyddiant

Mae plant Ysgol Victoria wedi cwblhau prosiect i greu addurn wal i ddathlu Canmlwyddiant Parc Bellevue.

01.12.10

Dewch i weld Sion Corn ar Sgwar y Frenhines

Mae’r goleuadau ar y goeden Nadolig a’r groto bron yn barod a’r cyfan sydd ar ôl yw i Sïon Corn gyrraedd y dref.

01.12.10

Llwyddo i gael eich troed ar yr ysgol eiddo

Mae Cyngor Wrecsam a McInerney yn gwahodd trigolion Wrecsam i frecwast gwahanol wrth iddynt lansio cartrefi newydd gyda gostyngiad o 30% yn y pris. Mae’r adeiladwyr cartrefi cenedlaethol yn cynnal y digwyddiad mewn cydweithrediad â chyngor Wrecsam ddydd Sadwrn Rhagfyr 4 o 10.30am hyd 1pm mewn ymgais i gynorthwyo prynwyr am y tro cyntaf i allu fforddio eu lle eu hunain.

30.11.10

Caeau Pêl-droed y Cyngor ar Gau ar Benwythnosau

Oherwydd amgylchiadau'r tywydd ar hyn o bryd, bydd yr holl gaeau pel droed a rygbi sy'n eiddo i'r cyngor ar gau y penwythnos  hwn.

30.11.10

Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2010

‘Gwybod eich Hawliau’.... Dyna’r neges sy’n mynd allan i Ofalwyr y mis Rhagfyr hwn, yn rhan o Ddiwrnod Hawliau’r Gofalwyr. Mae Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo Diwrnod Hawliau’r Gofalwyr, sef dydd Gwener Rhagfyr y 3ydd.

26.11.10

Groto Siôn Corn yn dychwelyd i Wrecsam

Mae’r paratoadau ar gyfer dychweliad Siôn Corn i Wrecsam wedi cychwyn o ddifrif, ac mae’r groto wedi ei gosod ar Sgwâr y Frenhines.

26.11.10

Gwobr o £5,000 i Nant y Felin

Mae Cyfeillion Nant y Felin wedi derbyn grant Arian i Bawb gwerth £5,000 er mwyn gwneud gwelliannau i’r parc.

26.11.10

Canmol ysgolion am hybu ffordd o fyw iach

Mae ysgolion yn Wrecsam wedi derbyn cydnabyddiaeth mewn seremoni wobrwyo am helpu i hybu ffordd o fyw iachach. Daeth pobl ifanc o fwy na deugain o ysgolion cynradd ac uwchradd y sir ynghyd yn ddiweddar i ddathlu cyflawniadau’r ysgolion yn y Dathliad Ysgolion Iach a gynhaliwyd yng Nghanolfan Catrin Finch yn gynharach y mis hwn.

26.11.10

Meddyliwch cyn siopa ac arbed £12 yn ystod wythnos cwtogi gwastraff

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn galw ar drigolion i siopa’n ystyrlon yr wythnos hon, a mwynhau’r budd ariannol. Mae’r awdurdod wedi ffurfio partneriaeth â’r mudiad Craff am Wastraff Cymru i ddynodi Wythnos Cwtogi Gwastraff Ewrop i herio siopwyr i weld faint fedran’ nhw ei arbed trwy brynu’r hyn sydd ei angen yn unig, a defnyddio popeth.

26.11.10

Punnoedd Pur

Yn ôl ym mis Mawrth fe wnaeth 231 o bobl leol gymryd rhan yn achlysur Milltir Pur Wrecsam er budd Sport Relief. Gwnaeth rhedwyr o bob oedran wynebu’r her a chael eu noddi i redeg 1, 3 neu 6 milltir yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Queensway.

26.11.10

Dathliad Addurno Coed ym Mharc y Ponciau

Ddydd Sadwrn, 4ydd Rhagfyr, bydd ffrwyth gwaith caled dros 350 o blant yn cael ei arddangos ym Mharc y Ponciau.

25.11.10

Splash, Crackle and Flop

Mae tîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn trefnu cynnal gŵyl ‘Splash, Crackle and Flop’ yng Nghanolfan Hamdden y Waun. Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher, 1 Rhagfyr, ar gyfer plant yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam ag anableddau corfforol, nam ar y synhwyrau neu anableddau dysgu.

24.11.10

Sêr Chwaraeon Wrecsam yn Disgleirio

Daeth cymuned chwaraeon Wrecsam ynghyd i ddathlu llwyddiant mewn chwaraeon yn yr ardal leol yn Noson Wobrwyo Chwaraeon Bwrdeistref Sirol Wrecsam nos Wener 19eg Tachwedd. Mynychodd dros 300 o chwaraewyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a phobl bwysig y digwyddiad clodfawr a gynhaliwyd yng Nghanolfan Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo.

24.11.10

Cyhoeddiad Setliad Refeniw a Chyfalaf Dros Dro Llywodraeth Leol yn 2011/12 2013/14

Y gostyngiad cyffredinol yn Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer 2011/12 yw -1.4% a bydd gostyngiad o -1.2% i Wrecsam.

23.11.10

Cyswllt chwaraeon rhwng ysgolion Wrecsam ac Indonesia

Bydd dwy ysgol yn Wrecsam yn ymgysylltu â’u cyfatebwyr yn Indonesia er mwyn cynorthwyo i ddangos yn union beth yw manteision chwaraeon i ddisgyblion.

22.11.10

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dod i Lyfrgell Wrecsam

Mae arddangosfa o ‘Hen Ffotograffau o Wrecsam’ wedi cael ei hagor yn Llyfrgell Wrecsam. Mae’r arddangosfa hon yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir yn Wrecsam gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

19.11.10

Bwrw ymlaen â gwelliannau i Ysgol y Parc, Llai

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Wrecsam wedi rhoi sêl ei fendith ar gynlluniau ar gyfer gwneud gwelliannau sylweddol i Ysgol Gynradd Parc Llai.

19.11.10

Sêl Bendith ar Gynllun Coed Parc Caia

Mae Bwrdd Gweithredol Wrecsam wedi rhoi sêl ei fendith ar y cynlluniau i blannu mwy na 7,000 o goed ym Mharc Caia.

19.11.10

Canmol y Manwerthwyr am Beidio â Gwerthu i Blant Dan Oed

Mae manwerthwyr tân gwyllt yn Wrecsam yn cael eu canmol i’r cymylau am eu bod wedi cymryd agwedd gyfrifol yn y cyfnod cyn Noson Guto Ffowc eleni.

18.11.10

Grant o £1.1 miliwn ar gyfer Tai Fforddiadwy yn Wrecsam

Mae Cyngor Wrecsam yn cydweithio â chymdeithasau tai er mwyn darparu cartrefi fforddiadwy i bobl yn y Fwrdeistref Sirol. Yn sgil y grant o £1.1 miliwn a gafwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru bydd 20 o deuluoedd lleol yn gallu byw mewn cartrefi fforddiadwy, o safon uchel.

18.11.10

Grantiau Grwpiau Cymunedol Ar Gael

Unwaith eto gall grwpiau cymunedol yng ngorllewin Wrecsam wneud cais am hyd at £250 i’w helpu gyda gweithgareddau hyd fis Mawrth 2011.

17.11.10

Cynllun Grant yn rhoi hwb newydd i fusnes.

Mae siop pentref wedi agor ei drysau diolch i gynllun grant sydd wedi ei gynllunio i roi hwb i gymunedau gwledig.

17.11.10

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn dathlu derbyn Llwyddiant Dwbl

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam wedi ei gydnabod mewn seremoni genedlaethol am ei ddefnydd arloesol o dechnoleg yn ystod ymgyrch diweddar. Mae gan y bartneriaeth ddau reswm i ddathlu ar ôl seremoni’r How-Do Public Services Communications Awards 2010 a gynhaliwyd ym Manceinion ddechrau’r wythnos hon.

16.11.10

Trigolion Acton a Rhosddu i elwa o Addysg i Oedolion yn y Gymuned

Mae trigolion Acton a Rhosddu yn cael eu hannog i ddod i ddiwrnod blasu hyfforddiant ddydd Mawrth, 30 Tachwedd, rhwng 2pm a 5pm yn Neuadd Eglwys Sant Ioan, Ffordd Borras, Acton. Bydd cyfle i bobl roi cynnig ar sesiynau celf, cyfrifiaduron a yoga, ac i sgwrsio efo Nicola Millar, Swyddog Datblygu Cymunedol Canol Wrecsam, am y cyrsiau yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnal yn eu cymuned.

16.11.10

Cartrefi lleol i bobl leol

Mae Cyngor Wrecsam ac adeiladwr tai cenedlaethol wedi uno a’i gilydd i gynnig fflatiau newydd i’w gwerthu am 30% yn llai na’u gwerth ar y farchnad agored.

15.11.10

Hwylusydd Tai Gwledig i Wrecsam a Sir y Fflint

Mae Grŵp Llywio Tai Gwledig Wrecsam a Sir y Fflint wedi penodi Hwylusydd Tai Gwledig newydd i gynorthwyo cymunedau gwledig i wireddu eu hanghenion tai fforddiadwy.

12.11.10

Drama newydd yn annog gyrrwyr ifanc i fod yn gyfrifol

Mae gyrwyr ifanc mewn mwy o berygl na phobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd. Dyna’r neges sy’n cael ei chyfleu i bobl ifanc ledled Wrecsam yr wythnos nesaf ar ffurf drama newydd sy’n teithio o amgylch ysgolion ledled Gogledd Cymru.

11.11.10

Arddangosfa’n Dod â Menter Cefn Mawr i’r Amlwg

Mae trigolion, grwpiau a busnesau yng Nghefn Mawr yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar brosiect pwysig sy’n rhoi hwb o’r newydd i’r pentref.

11.11.10

Lle Celf Yr Eisteddfod Yn Galw Am Geisiadau

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn galw ar artistiaid a gwneuthurwyr i anfon eu ceisiadau ar gyfer yr Arddangosfa Agored yn Wrecsam a’r Fro y flwyddyn nesaf.

11.11.10

Y Gweinidog Addysg yn rhoi Bagloriaeth Cymru i fam ifanc o Wrecsam

Heddiw, ymwelodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews ag Uned Mamau Ifanc, Cyfle ym Mhentre Maelor i wobrywo mam ifanc gyda Bagloriaeth Cymru.

08.11.10

Tim a’r Crusaders yn cynorthwyo Wrecsam i baratoi at y Nadolig

Pan fydd y goleuadau Nadolig yn Wrecsam yn cael eu troi ymlaen eleni, bydd dyn enwog o fyd y teledu a rhai o sêr y maes chwaraeon lleol yn dod yno hefyd. Fe gynhelir y digwyddiad ar Sgwâr y Frenhines ar ddydd Iau, Tachwedd 18, a dyna pryd y bydd dathliadau’r dref yn dechrau sy’n fodd i ddenu teuluoedd o bob rhan o’r fwrdeistref sirol a thu hwnt.

05.11.10

Peidiwch â methu eich hawl i bleidleisio

Os ydych yn byw yn Wrecsam a heb gofrestru’n barod i bleidleisio eleni, gallwch ddisgwyl cnoc ar y drws yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Bydd swyddogion Cyngor Wrecsam yn ymweld â chartrefi i chwilio am y bobl hynny nad ydynt wedi dychwelyd eu ffurflenni cofrestru etholiadol.

05.11.10

Dau Funud Distaw yng Nghanol Tref Wrecsam i nodi Dydd y Cadoediad

Unwaith eto mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi trefnu dau funud o ddistawrwydd yn Wrecsam i nodi Dydd y Cadoediad. Caiff ei gynnal ddydd Iau, 11 Tachwedd 2010 y tu allan i’r Hen Lyfrgell yn Sgwâr y Frenhines yng nghanol tref Wrecsam.

04.11.10

Digwyddiad Rhoi Blas ar y Gemau Olympaidd Arbennig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Sir y Fflint ar y cyd â Ffederasiwn Chwaraeon i’r Anabl Cymru yn cynnal Diwrnod Rhoi Blas ar y Gemau Olympaidd Arbennig yng Nghanolfan Chwaraeon Clywedog ddydd Sadwrn 6ed Tachwedd 2010.

02.11.10

Cyn-Ganolfan Achub y Glofeydd

Ar Awst 20fed 2010, cafodd gwaith dymchwel diawdurdod ei wneud yng Nghyn Ganolfan Achub y Glofeydd yn Ffordd Maesgwyn Wrecsam. Mae’r Ganolfan yn Adeilad Rhestredig Gradd II.

02.11.10

Rhoi Pen ar Werthu Tân Gwyllt

Fel rhan o’r ymgyrch "Yn Gweithio gyda Chi i Greu Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt Fwy Diogel", sydd gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol mae Gwasanaeth Safonau Masnachu Wrecsam am gynnal menter er mwyn sicrhau nad yw tân gwyllt yn cael eu gwerthu i blant o dan 18 oed.

Archif Newyddion

yn ôl i'r brig