Archif Newyddion

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

Tachwedd - Rhagfyr 2011

Dyddiad Newyddion
30.12.11

Ydych chi am ddweud eich dweud mewn gwleidyddiaeth leol?

Mae Cyngor Wrecsam yn cynnal noson agored ar gyfer trigolion sy’n ystyried sefyll yn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.

30.12.11

Ailgylchwch eich Coeden Nadolig ym Mharc Bellevue

Bydd modd Ailgylchu Coed Nadolig unwaith eto ym Mharc Bellevue yng nghanol tref Wrecsam.

22.12.11

Gwobrwyo Enillydd y Ffenestr Nadolig Orau

Mae busnes teuluol sydd wedi bod yng nghanol y dref ers 125 o flynyddoedd wedi ennill Cystadleuaeth y Ffenestr Nadolig Orau, a drefnwyd gan Gyngor Wrecsam.

20.12.11

Llyfrgell Rhiwabon yn mwynhau hwyl yr Ŵyl

Mae staff Llyfrgell Rhiwabon wedi bod yn ymdaflu yn llawen i hwyl yr ŵyl gyda chymorth Ysgolion Cynradd y Santes Fair a Maes-y-Llan.

19.12.11

Dydd Gwener Nadoligaidd yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt

Mae dydd Gwener 23 Rhagfyr yn argoeli i fod yn ddiwrnod llawn cyffro yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt.

19.12.11

Gorsaf y Waun i gael £1.2 miliwn o gyllid

Dyrannwyd £1.2 miliwn i orsaf rheilffordd y Waun tuag at wella’r fynedfa. Cyhoeddwyd y pecyn cyllid gan yr Adran Drafnidiaeth fel rhan o’r cynnydd mewn buddsoddi i wella mynediad i orsafoedd ledled y wlad.

16.12.11

Y drefn casglu sbwriel yn newid dros y ’Dolig

Mae Cyngor Wrecsam yn atgoffa deiliaid tai i fwrw golwg ar eu Calendr Ailgylchu gyda Michael mewn da bryd er mwyn gweld y newidiadau dros gyfnod gŵyl banc y Nadolig.

15.12.11

Cardiau Rheilffordd rhatach i bobl hŷn y Nadolig yma

Mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam hyn a hyn o Gardiau Rheilffordd ar gael i Bobl Hŷn, i’w gwerthu am bris disgownt o £24.50, sydd £3.50 yn llai na’r pris manwerthu sy’n cael ei argymell ar hyn o bryd.

15.12.11

Myfyrwyr sy’n ddawnswyr dawnus

Bu un ar bymtheg o fyfyrwyr dawnus Ysgol y Grango, Wrecsam, yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Dawns Stryd y Sefydliad Dawns Unedig Cenedlaethol a gynhaliwyd yn Blackpool yn ddiweddar.

14.12.11

Partneriaeth yn manteisio ar gyfle a Chartrefi Gwag

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth â chymdeithas tai lleol i roi cynllun arloesol ar waith a helpu perchnogion tai gwag yn y Sir i’w hailddefnyddio.

13.12.11

Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol 2012-13

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi derbyn manylion ei setliad gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher 7 Rhagfyr. Darperir £184m ar gyfer Wrecsam sy’n gynnydd o 1.2% ar y llynedd.

09.12.11

Pleidleisiwch dros eich Hoff Arddangosfa Ffenestr

Mae siopwyr yn Wrecsam yn cael eu hannog i bleidleisio dros eu hoff arddangosfa ffenest - ac os wnânt gallent ennill basged yn llawn o ddanteithion Nadoligaidd.

09.12.11

Carolau’r Ŵyl yn y Parc

Bydd Parc Bellevue yn cynnal cyngerdd carolau o lwyfan y band dydd Iau’r 15fed o Ragfyr. Mae’r digwyddiad ymlaen o 5 o’r gloch y pnawn tan 6.

07.12.11

Gohirio’r Farchnad Nadolig

Yn anffodus iawn, mae’r trefnwyr wedi gorfod gohirio’r farchnad Nadolig boblogaidd oedd i’w chynnal yfory yng nghanol tref Wrecsam (Tir yr Eglwys a Stryt yr Eglwys) Mae hyn oherwydd gwyntoedd cryfion heddiw a’r disgwyl iddynt fod yn gryfach yfory. O ganlyniad, ni allwn sicrhau diogelwch y cyhoedd. A fyddech cystal â gadael i deulu a ffrindiau wybod am y penderfyniad hwn. Yn amlwg, mae Cyngor Wrecsam a’r stondinwyr yn hynod siomedig, ond maent am bwysleisio bod y mater y tu hwnt i’w rheolaeth.

07.12.11

Twyll ar ffôn – Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Mae rhywun sy’n byw yn Wrecsam wedi colli mwy na £3000 o bunnoedd trwy dwyll gan rywun yn galw i ddweud ei fod o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a dweud wrtho fod arian yn ddyledus iddo oherwydd bod yswiriant diogelu taliad wedi ei werthu iddo yn anghywir.

06.12.11

Rhagor o Bobl yn Defnyddio'r Trên yn Wrecsam

Mae pum gorsaf yn y Fwrdeistref Sirol, sef Gorsaf Gyffredinol Wrecsam, Wrecsam Canolog, Gwersyllt, Rhiwabon a'r Waun, ac yn ôl data Swyddfa Rheolydd y Rheilffyrdd cafwyd cynnydd yn y siwrneiau rheilffordd ym mhob un ohonynt - cynnydd o 49% ers 2005.

02.12.11

Gweithredu Diwydiannol – Casgliadau Biniau Du yn Unig ar ddydd Mercher 7 Rhagfyr

Os na chafodd eich bin gwyrdd neu ddu/glas ei wagio oherwydd y gweithredu diwydiannol ar 30.11.11 byddwch cystal â nodi'r canlynol:

02.12.11

Lansio Ymgyrch Nadolig Wrecsam Ddiogel – Diogela Dy Ddiod – 2011

Gyda gŵyl y Nadolig yn nesáu mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn paratoi i lansio ymgyrch Wrecsam Ddiogel - Diogela Dy Ddiod - 2011.

01.12.11

Myfyrwyr Coleg Iâl yn Cipio’r Wobr

Mae myfyrwyr ar gwrs Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Coleg Iâl unwaith eto wedi cipio gwobr Gogledd Cymru yn y gystadleuaeth Yn Erbyn Yfed a Gyrru gan Ddiogelwch Ffyrdd Cymru gyda’u fideo byr o’r enw Colli Prydferthwch ( A Lost Beauty).

01.12.11

Cais am aelodau newydd i Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam

Mae Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam yn chwilio am aelodau newydd. Mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn pobl sy’n defnyddio cefn gwlad yn rheolaidd megis cerddwyr, merlotwyr, beicwyr a gyrwyr cerbydau oddi ar y ffordd, neu bobl sydd â phrofiad o reoli cefn gwlad megis ffermwyr.

30.11.11

Plannu! Agoriad swyddogol Coetir Cymunedol Caia

Cymerodd plant o Ysgol Gynradd Gatholig Santes Anne ac Ysgol Hafod y Wern ran mewn seremoni plannu coeden i nodi agoriad swyddogol Coetir Cymunedol Caia.

30.11.11

Trefniadau Newydd ar gyfer Trwyddedau Parcio

O’r 1 Rhagfyr 2011 ymlaen, bydd y Cyngor yn dechrau codi tâl am roi trwydded parcio.

30.11.11

Bws Coginio yn ymweld ag Ysgol Plas Coch!

Bydd disgyblion o ysgol yn Wrecsam yn cael awgrymiadau ar sut i baratoi prydau bwyd iachus pan fydd y bws coginio yn ymweld â’r dref.

29.11.11

Diwrnod Cenedlaethol Gweithredu Diwydiannol – 30/11/2011

Mae diwrnod cenedlaethol o weithredu diwydiannol wedi ei gyhoeddi ar gyfer 30.11.11. Mae’n debygol o amharu ar wasanaethau’r cyngor ar y diwrnod hwn a rhoddir manylion cyn gynted ag y bydd penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â chau swyddfeydd, canolfannau hamdden ayyb.

29.11.11

Lysgenhadon Chwaraeon yn ymweld a Llyfrgell Wrecsam

Dathlodd Llyfrgell Wrecsam Pythefnos Llyfrgelloedd llwyddiannus ag ymweliad gan Lysgenhadon Chwaraeon lleol.

29.11.11

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam yn annog pobl i beidio ag yfed Drop Vodka

Yn dilyn cyngor a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mae Gwasanaeth Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio unrhyw un sydd efallai wedi prynu fodca o’r enw Drop Vodka.

28.11.11

Cwpan Byd Rygbi Cynghrair 2013 yn dod i Wrecsam

Mae Wrecsam yn dathlu heddiw ar ôl i’r RFL gadarnhau y bydd gemau yng Nghwpan Byd Rygbi Cynghrair 2013 yn cael eu cynnal yn y dref.

28.11.11

Grantiau Grwpiau Cymunedol ar gael

Unwaith eto, gall grwpiau cymunedol yng ngorllewin Wrecsam gael grantiau i hyd at £250 i’w helpu gyda’u gweithgareddau hyd at fis Mawrth 2012.

28.11.11

Gwisgo Rhubanau Gwyn yn Wrecsam er mwyn cefnogi’r Diwrnod Rhyngwladol i Ddiddymu Trais yn erbyn Merched

Daw partneriaid yn Wrecsam ynghyd i gefnogi’r Diwrnod Rhyngwladol i Ddiddymu Trais yn erbyn Merched. Mae’r ymgyrch fyd-eang yn annog dynion a merched i wisgo rhuban gwyn fel gwystl na fyddant byth yn cymryd rhan mewn trais yn erbyn merched, yn ei gyd-ddioddef nac yn cadw’n dawel am drais yn erbyn merched.

25.11.11

Cadw Plant yn Saff – Cyfrifoldeb Pawb

Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb ar bawb ac yn fusnes i bawb ac mae Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam a’u partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu plant a phobl ifanc.

24.11.11

Ydych chi am ddweud eich dweud mewn gwleidyddiaeth leol?

Mae Cyngor Wrecsam yn cynnal noson agored ar gyfer trigolion sy’n ystyried sefyll yn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.

24.11.11

Cyfarfod Siôn Corn amser brecwast neu amser te!

Ydych chi wedi bod eisiau cyfarfod Siôn Corn erioed? Wel dyma’ch cyfle, oherwydd mae’n dod i Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Gallwch gyfarfod a Siôn Corn yn ogystal â mwynhau brecwast neu de gydag ef hefyd.

23.11.11

Diwrnod Cenedlaethol Gweithredu Diwydiannol – 30/11/2011

Mae diwrnod cenedlaethol o weithredu diwydiannol wedi ei gyhoeddi ar gyfer 30.11.11. Mae’n debygol o amharu ar wasanaethau’r cyngor ar y diwrnod hwn a rhoddir manylion cyn gynted ag y bydd penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â chau swyddfeydd, canolfannau hamdden ayyb.

23.11.11

Cynigion i ailgyflwyno Bysiau ar y Stryd Fawr

Mae Cyngor Wrecsam yn cynnig ailgyflwyno gwasanaeth bws ar ei Stryd Fawr yn dilyn ymgynghoriad â sefydliadau a masnachwyr lleol.

21.11.11

Tegwch yn Wrecsam? Dweud eich dweud

Cynhelir digwyddiad Tegwch yn Wrecsam ddydd Mawrth 22 Tachwedd yn y Neuadd Goffa. Bwriad y digwyddiad a drefnwyd gan Gyngor Wrecsam yw cael safbwyntiau ar sut i wneud Wrecsam yn lle tecach.

17.11.11

Mae Hylendid Gwael Yn Gadael Blas Cas - Felly Cofiwch Gymryd CIP Ar y Sgor Hylendid Bwyd Os ydych Chi'n Bwyta Allan y Nadolig Hwn

Gyda’r Nadolig yn prysur nesáu, mae pawb wrthi’n paratoi ar gyfer yr wyl. Os ydych chi’n trefnu dathliad gyda theulu, ffrindiau neu gydweithwyr mewn bwyty, tafarn neu westy lleol, beth am gymryd cip ar y sgôr hylendid yn ogystal â’r fwydlen?

17.11.11

Ymunwch â’ch llyfrgell leol ar-lein

Gall aelodau’r cyhoedd ymuno â’i llyfrgell leol o gysur eu cartref drwy gofrestru ar-lein.

16.11.11

Yr Ifanc yn Disgleirio yn 8fed Seremoni’r Wobr Aur

Heddiw dathlwyd cyraeddiadau plant a phobl ifanc o ledled Wrecsam yn Seremoni Gwobr Aur Prifysgol y Plant a Phobl Ifanc. Roedd pob myfyriwr a gafodd gydnabyddiaeth yn y seremoni wedi ennill y wobr uchaf un ym Mhrifysgol y Plant a Phobl Ifanc - sef y wobr aur.

15.11.11

Dyn yn cael dirwy o £1000 am beidio â chlirio baw ci

Os bydd eich ci’n bawa, cofiwch ei glirio neu fe allech gael clamp o ddirwy. Dyna’r genadwri gan Gyngor Wrecsam sydd wedi llwyddo i erlyn dyn lleol a chael bron £1,000 mewn dirwyon a chostau.

15.11.11

Amser troi Goleuadau Nadolig Wrecsam ymlaen bron â chyrraedd

Bydd dathliadau Nadolig Wrecsam yn dechrau mewn steil yn ddiweddarach y wythnos hwn pan fydd y goleuadau’n cael eu troi ymlaen.

14.11.11

Diwrnod Cyllid Myfyrwyr Cymru

Diwrnod Cyllid Myfyrwyr Cymru yw dydd Llun 14 Tachwedd; sef rhan o ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol sy'n ymroddedig i esbonio'r newidiadau i gyllid myfyrwyr yn 2012/13, i fyfyrwyr addysg uwch yng Nghymru.

10.11.11

Doniau rygbi lleol i gael eu harddangos cyn Cymru yn erbyn Awstralia

Mae diwrnod mawr o Rygbi Cynghrair yn cael ei gynllunio yn Wrecsam ar gyfer dydd Sul, a’r uchafbwynt cyffrous yn dechrau am 5.45pm fydd gêm Pedair Gwlad Gillette, Cymru yn erbyn Awstralia, yn cael ei chynnal ar Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndŵr.

09.11.11

Cyngor Wrecsam yw’r awdurdod gorau yng Nghymru o ran Lleihau Allyriadau Carbon a Defnyddio Ynni

Mae Cyngor Wrecsam ymysg y gorau yn y wlad pan ddaw i leihau CO2. Gosodwyd yr awdurdod yn y 10% uchaf yn Nhabl cyntaf Cynghrair Perfformiad Ymrwymiad i Leihau Carbon a gyhoeddwyd ar 8 Tachwedd gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

09.11.11

Wrecsam yn barod ar gyfer Misoedd y Gaeaf

Mae Cyngor Wrecsam yn barod ar gyfer misoedd y gaeaf a thra fo pawb yn gobeithio am aeaf mwyn, mae wedi paratoi ar gyfer y gwaethaf ac mae’r Cyngor yn annog trigolion i sicrhau eu bod hwythau yn barod ar gyfer unrhyw anawsterau a achosir gan rew, eira neu dywydd garw parhaol.

08.11.11

Y Distawrwydd Dau Funud ar Ddydd Y Cadoediad

Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol, unwaith yn rhagor, wedi trefnu Distawrwydd Dau Funud yn Wrecsam ac fe’i cynhelir ar ddydd Gwener, 11 Tachwedd 2011, y tu allan i’r Hen Lyfrgell ar Sgwâr y Frenhines.

08.11.11

Gwledd o Rygbi’r Gynghrair yn dod i Wrecsam

Mae dydd Sul 13 Tachwedd yn rhagoeli i fod yn ddiwrnod rygbi’r gynghrair bwysig yn Wrecsam pan fydd Cymru yn chwarae yn erbyn Awstralia yn y Cae Ras (Dechrau am 5.45PM). Ar yr un diwrnod a chyn dechrau’r brif gêm bydd tîm dan 18 oed Cymru yn chwarae yn erbyn tîm England Community Lions yn Stadiwm Queensway (Dechrau am 1PM).

07.11.11

Anrhydedd Olympaidd i Draphont Telford

Nodi Traphont Pontcysyllte fel Dull Amgen o Deithio ar gyfer Anrhydedd Taith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012.

03.11.11

Pythefnos y Llyfrgell yn Wrecsam

Tachwedd 1af – 14eg yw Pythefnos Cenedlaethol y Llyfrgell. Yn ystod y pythefnos bydd rhaglen o weithgareddau rhad ac am ddim i’r teulu cyfan mewn llyfrgelloedd a chymunedau lleol ledled Cymru.

01.11.11

Gwobrau Chwaraeon Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2012

Gan gofio bod Llundain yn croesawu’r Gemau Olympaidd yn 2012, mae Wrecsam wedi cynllunio ei achlysur chwaraeon anrhydeddus sef ‘Gwobrau Chwaraeon Bwrdeistref Sirol Wrecsam.’

01.11.11

Llyfrau E-Sain am ddim i aelodau’r llyfrgell

Mae’n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyhoeddi gwasanaeth newydd sy’n caniatáu i aelodau’r llyfrgell lawr lwytho llyfrau sain am ddim.

Archif Newyddion

yn ôl i'r brig