Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
20 Awst 2010
Mae arian ar gael gan gynllun grant er mwyn hybu’r gwasanaethau hanfodol yng nghefn gwlad Wrecsam.
Yn ôl canlyniadau arolwg a gynhaliwyd y llynedd mae’n amlwg bod nifer fawr o drigolion yn teimlo nad ydynt yn gallu manteisio ar wasanaethau - a’r rheswm, yn aml, yw eu bod yn gorfod teithio ymhellach er mwyn cael gafael arnynt.
Nod y cynllun grant yw cywiro’r cydbwysedd trwy gynorthwyo grwpiau ac asiantaethau lleol i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau ychwanegol.
Fe gynigir dau fath o gyllid – grant "llwybr carlam” hyd at £500 a grant mwy sylweddol hyd at £15,000 – er mwyn cynorthwyo grwpiau ac asiantaethau lleol i ddarparu’r cyfleusterau ychwanegol y mae ar bobl leol eu mawr angen.
Mae’r ddau grant ar gael fel rhan o’r Prosiect Arbrofol Gwasanaethau Gwledig, sy'n cael ei gynnal gan bartneriaeth leol Gogledd Gororau Cymru (PGGC).
Un o swyddogion PGGC yw Dave Gittins ac meddai: “Mae arian ar gael o hyd ar gyfer prosiectau sy'n dymuno gwneud cais am y cynllun grant ond mae'r amser yn mynd yn brin bellach. Mae'n rhaid i'r prosiectau fod ar fynd erbyn Rhagfyr 31ain 2010 ac nid ydym am i gymunedau gael eu siomi a cholli’r cyfle hwn.”
Er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid mae’n rhaid i’r prosiectau gael eu cynnal yn ardaloedd gwledig y fwrdeistref a bodloni gwir ofynion y trigolion lleol.
Gellir defnyddio’r grantiau i dalu am hyd at 80% o unrhyw brosiect, a bydd gofyn i’r ceisydd dalu’r 20% arall.
Bwriad y cynllun grant yw darparu cyfleusterau cymunedol fel siopau cymuned mewn pentrefi lle’r oeddent wedi gorfod cau cyn hynny neu erioed wedi cael eu sefydlu yn y lle cyntaf.
Diben penodol y cynllun grant mwy sylweddol yw cynorthwyo ceiswyr i addasu neu newid adeiladau neu i brynu offer newydd.
Am ragor o wybodaeth gallwch gysylltu â Dave Gittins ar 01978 298391 neu david.gittins@wrexham.gov.uk
Mae’r Prosiect Arbrofol Gwasanaethau Gwledig wedi cael cyllid trwy gyfrwng Cynllun Datblygu Gwledig Cymru am 2007-2013 sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.