Newyddion y Cyngor

Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk

10 Mawrth 2011

Grym y Bobl ar Flaen y Gad efo Newid yr Hinsawdd yn Wrecsam

Mae ymgyrch newydd arloesol yn cychwyn heddiw yn Wrecsam, un sy’n mynd â’r Fwrdeistref Sirol i flaen y gad yn y frwydr yn erbyn newid yr hinsawdd, efo’r nod o gwtogi i’r bôn ar yr ynni y mae’n ei ddefnyddio’n gyffredinol - heb sôn am filiau ynni’r preswylwyr.

Efo’r prosiect Grym y Bobl, mae Cyngor Wrecsam yn gofyn i bawb yn y rhanbarth wneud adduned ar-lein i ddefnyddio llai o ynni eu hun, gartref ac yn y gwaith. Mae’r addunedau a mwy o wybodaeth i’w gweld ar wefan yr ymgyrch, www.pwerpoblwrecsam.org

Mae addunedau yn gamau syml y gallwn ni i gyd eu cymryd sy’n golygu arbed ynni, allyriadau carbon ac arian. Mae’r rhain yn amrywio o rai syml iawn (berwi dim ond hynny o ddwr y mae arnoch ei angen yn y tegell, diffodd goleuadau mewn ystafelloedd gwag) at rai anoddach (tyfu eich bwyd eich hun, defnyddio llai ar eich car).

Mae gan Gyngor Wrecsam ei raglen ei hun i gwtogi ar ynni, a fydd yn ategu’r ymgyrch ac mae’n bwriadu lleihad anferthol o 50% yn ei allyriadau carbon ei hun erbyn 2015/16.

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys gosod goleuadau ynni-effeithlon ar y strydoedd, gorsaf bwer newydd gwres ag ynni ar y cyd i roi ynni i’r Byd Dwr, cael ceir a faniau ynni-effeithlon o’r radd flaenaf yn lle cerbydau y mae eu hoes yn dod i ben ac ailgylchu a chompostio mwy o wastraff.

Rhoddodd y Cynghorydd Alun Jenkins ei gefnogaeth i Rym Pobl Wrecsam, gan ddweud: “Ym mhob rhan o’r byd mae pobl yn pryderu am effeithiau newid yr hinsawdd a’r hyn y mae’n ei olygu ar gyfer y dyfodol, ac mae Wrecsam yr un fath yn union.

“Dan ni’n gwybod os na wnawn ni weithredu y bydd hi’n rhy hwyr. Mae’r ymgyrch yma’n gyfle gwych i Wrecsam i gyd weithio efo’i gilydd a gwneud ymrwymiad i newid. Dan ni’n medru dangos i weddill y byd beth mae Grym y Bobl yn Wrecsam yn medru ei gyflawni.”

Ychwanegodd David Bithell ei lais yntau hefyd at yr ymgyrch, efo’r sylw: “Mae Wrecsam byth a hefyd yn chwilio am ffyrdd i fod yn fwy effeithlon ac mae Grym y Bobl yn tyfu allan o hynny. Ond yr unig ffordd mae’n medru gweithio ydi os bydd pobl yn mynd ar y wefan a gwneud adduned. Os bydd pawb yn ymrwymo i ychydig o gamau bach bydd effaith hynny ar yr ynni mae Wrecsam yn ei ddefnyddio’n gyffredinol yn anferthol ac yn ysbrydoliaeth go iawn i eraill.”

Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, bydd yr ymgyrch yn mynd i ysgolion a chymunedau yn Wrecsam, a chynnal digwyddiadau, cyflwyniadau a gweithdai.

Gwelwch y wefan www.pwerpoblwrecsam.org am ffeithiau tu hwnt o ddiddorol ynglyn â newid yr hinsawdd yn Wrecsam, i lawrlwytho mwy o wybodaeth am yr ymgyrch a gweld yr hyn sy’n digwydd – ac wrth gwrs, gwneud rhai o’r addunedau holl bwysig hynny.

yn ôl i'r brig