Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
03 Gorffennaf 2009
Gweld Ceisiadau Cynllunio Ar-leinBydd aelodau’r cyhoedd bellach yn gallu gweld ceisiadau cynllunio ar-lein ar ôl i Adran Gynllunio Cyngor Wrecsam uwchraddio ei system gyfrifiadurol.
Mae’r Adran Gynllunio wedi uwchraddio ei system gyfrifiadurol i wella ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael i’r cyhoedd ar wefan y Cyngor. Yn ogystal â gweld y manylion am bob cais cynllunio newydd ar-lein bydd pobl hefyd yn gallu rhoi sylwadau i gefnogi neu yn erbyn y cynnig cyn i’r Cyngor wneud penderfyniad.
Mae’r wefan yn dangos yr holl ddogfennau a gyflwynwyd gan gynnwys manylion am geisiadau a chynlluniau. Ewch i www.wrecsam.gov.uk/cynllunio i weld cynigion datblygu yn eich ardal chi gan ddefnyddio’r Cyfleuster Chwilio Ceisiadau Cynllunio Ar-lein.
Dywedodd Lawrence Isted, Prif Swyddog Cynllunio:
"Gwyddom fod llawer o drigolion yn defnyddio’r wefan i gael gwybodaeth neu gyngor. Mae gallu gweld a rhoi sylwadau ar gynigion datblygu a allai effeithio arnyn nhw neu’r ardal maent yn byw ynddi’n welliant, a gaiff ei groesawu, gobeithio. Rydym am annog pobl i ddod yn rhan o’r hyn sy’n digwydd yn eu cymuned a dweud eu dweud.”
Gallai ceisiadau y gellir eu gweld ar-lein fod yn rhywbeth o estyniad arfaethedig cymydog i ddatblygiad siopa canol tref arfaethedig. Mae’r gwasanaeth newydd hwn yn helpu unrhyw un a allai ei chael yn anghyfleus ymweld â swyddfeydd y Cyngor yn Stryt y Lampint i weld y dogfennau.
Fel rhan o welliannau eraill, bydd staff bellach yn gallu gweld ffeiliau’n electronig, gan leihau faint o bapur a ddefnyddir yn y swyddfa a gwella eu hôl-troed carbon.
Gall aelodau’r cyhoedd hefyd weld ceisiadau cynllunio ar-lein gan ddefnyddio gwefan y Cyngor. Bydd pobl hefyd yn gallu prynu mapiau safle ac atodi dyluniadau a lluniau i ategu eu cais. Gellir talu ffioedd yn uniongyrchol ac yn ddiogel i’r Cyngor.
Er mwyn canfod mwy am y gwasanaethau cynllunio yn Wrecsam ewch i wefan y Cyngor - www.wrecsam.gov.uk/cynllunio neu cysylltwch ag Ann Morris, Rheolwr Gweinyddol ar 01978 292016.